Abaty Cymer, abaty dirgel
Faint o weithiau dych chi’n gyrru’n gyflym ar hyd yr A470 o Lanelltud tua Dolgellau, gan anwybyddu’r lôn fach i’r chwith, yn syth ar ôl croesi afon Mawddach, sy’n arwain at Abaty Cymer?
Y dydd o’r blaen ymwelais â’r Abaty am y tro cyntaf. O’r maes parcio, tro bach yw e lawr i’r afon, a’r hen bont, Pont Llanelltud, sy’n mynd ar ei draws. Wedi’r glaw diweddar roedd y dŵr yn llifo’n rymus rhwng y pum bwa o’r bont osgeiddig, sydd ar gau i gerbydau’r dyddiau hyn. Mae ganddi dorddwr trionglog ar bob bwa, sy’n rhoi golwg bwrpasol iddi. Yn ôl y Comisiwn Brenhinol mae’n dyddio o’r ail chwarter o’r ddeunawfed ganrif, ond yn amlwg bu pont gynharaf unwaith, i gysylltu’r Abaty â’r pentref.
Wedyn, ar hyd lôn fferm, gan gerdded yn ôl mewn hanes, tuag at adfeilion yr Abaty. Ychydig sydd ar ôl o’i adeiladau: rhannau o’r eglwys, seiliau’r clawstr a dim llawer mwy. Ond abaty bach a llwm fuodd hwn erioed, meddan nhw. Fe’i sefydlwyd yn 1198 neu 1199 fel cangen o Abaty Sistersaidd Cwm-hir, diolch i Maredudd ap Cynan ab Owain Gwynedd, arglwydd Eifionydd, rhan o Ardudwy a Meirionydd, a’i frawd Gruffudd ap Cynan (eu cefnder oedd Llywelyn ap Iorwerth, Llywelyn Fawr). Yn ôl yr arfer, roedd perthynas agos yn y gorllewin rhwng y Sistersiaid a’r tywysogion Cymreig. Ond o’r dechrau roedd adnoddau’r Abaty’n brin: mor brin fel bod dim transeptau, dim côr, dim seintwar a dim tŵr canolog i’r eglwys.
Does dim syndod efallai. Er bod y safle mewn ardal ddiarffordd ac yn agos i gyflenwad o ddŵr (‘Cymer’ = dwy afon, Mawddach a Wnion, yn ymuno), yn ôl dewis arferol y mynachod, doedd dim llawer o dir âr. Mae’r mynyddoedd yn codi’n syth o’r dyffryn, a dibynnai economi’r Abaty ar ddefaid, da a cheffylau: byddai’r mynachod yn cyflenwi ceffylau i Llywelyn ei hun. Bu difrod mawr i’r adeiladau yn ystod y rhyfel rhwng Llywelyn ap Gruffudd ac Edward I: roedd yr adeiladau yn filed i filwyr y ddau yn eu tro. Ei incwm yn 1291 oedd £28 8s 3c yn unig, ac erbyn 1388 dim ond pum mynach oedd yn byw yna. Yn 1535, ar drothwy ei ddiddymu, derbyniodd yr Abaty incwm blynyddol o ychydig dros £51.
Ar ben y lôn cyrhaeddais i’r ffermdy, a gyferbyn, ar draws cae, daeth yr abaty i’r fei: y clawstr, a ffrwd o ddŵr yn pasio heibio iddo, a waliau’r eglwys, yn ddiaddurn ac eithrio i arcêd o dri bwa. Cadw sy’n cynnal y safle, felly dyma ichi waith cerrig twt, lawntydd bras, yn wlyb iawn ar ôl y glaw, a chennin Pedr ar ymyl yr adeilad. Doedd neb arall yma, ond am ddau ddyn o’r fferm oedd yn paratoi carafanau ar gyfer ymwelwyr yr haf. Dyma fi’n sefyll wrth yr unig arwydd o gywreinrwydd yma, colofn â chapan addurnedig, a myfyrio am fywyd y mynachod.
Mae’n ddigon hawdd eu gweld yn eich dychymyg, yn crafu bywoliaeth denau yn yr ardal foel yma, yn rhy brysur gyda’u gwaith amaeth i ymroi i’r math o ddiwylliant oedd yn gyffredin mewn mynachlogydd Sistersaidd mwy, fel Hendy-gwyn neu Ystrad Fflur. Ond allai’r stori hon o dlodi di-ben-draw fod yn gamddarlun? Yn 1890, yng Nghwm-mynach o dan y Rhinogydd, cafwyd hyd i gwpan cymun arian a phlât cymundeb o ansawdd uchel iawn, (maen nhw ar fenthyg bellach i Amgueddfa Cymru). Fe’u gwnaed yn Lloegr rhwng 1230 a 1250. Roeddent yn perthyn, mae’n debyg, i Abaty Cymer, ac fe’u cuddiwyd gan un o’r mynachod ar adeg diddymiad yr Abaty yn 1537. Disgrifir fel ‘among the largest and finest surviving English medieval chalices’ ac ‘a very rare survival of medieval sacred metalwork in the British Isles’. Doedd yr Abaty ddim yn gwbl brin o drysorau felly.
Ychydig iawn iawn o dystiolaeth sy’n bod am gyfraniad yr Abaty i lenyddiaeth ac ysgolheictod, ond priodolir tri englyn yn Llawysgrif Hendregadredd i fynach o Gymer. Fyddai hi ddim yn amhosibl meddwl am y mynachod wrthi’n ysgrifennu llawysgrifau, yn yr un ffordd ag yr oedd eu cyd-Sistersiaid yn ei wneud yn Ystrad Fflur, ffynhonnell Llawysgrif Hendregadredd. Ac mae’n werth nodi bod Robert Vaughan wrthi’n adeiladu ei lyfrgell o lawysgrifau Cymraeg canoloesol (gan gynnwys Hendregadredd) yn ei gartref, Hengwrt, dim ond hanner milltir i ffwrdd o safle Abaty Cymer – ac ar dir fu’n eiddo’r Abaty. Roedd e’n casglu tua chanrif ar ôl i’r mynachlogydd ddiflannu. Tybed o Abaty Cymer yr hanodd rhai o’r llawysgrifau yn ei feddiant?
Cerddais i nôl lawr y lôn, tu heibio i garafanau’r fferm, tua’r maes parcio a’r bont. Teimlais yn falch o wyro yn fympwyol o’r prif ffordd i weld yr Abaty. Am dros 300 mlynedd bu’r lle hwn yn gartref i gymuned Gymraeg heddychlon oedd yn ymdrechu i ennill bywoliaeth mewn cytgord â gwlad brydferth ond caled. Faint o bobl sy wedi clywed am Gymer? Ychydig, siŵr o fod – dyw Gwyddoniadur Cymru ddim yn meddwl ei fod yn haeddu cofnod. Gallai David H. Williams gwmpasu’r dystiolaeth amdano mewn erthygl unigol. Ond peth pwysig yw aros am ychydig, talu teyrnged, a gwneud rhywbeth bach i rwystro’r cof amdano rhag ‘llithro i’r llonyddwch mawr yn ôl’.