cymraeg
Darllen: a oes argyfwng?

Ar 7 Mawrth dathlon ni Ddiwrnod y Llyfr unwaith eto, gyda digwyddiadau mawr mewn ysgolion, siopau llyfrau a llyfrgelloedd. Ond ar drothwy’r ŵyl, cyhoeddodd y National Literacy Trust (NLT) adroddiad brawychus sy’n dangos bod darllen er pleser wedi dirywio yn sylweddol unwaith eto yn y DU. Dim ond 25.8% o blant a phobl ifanc (oedran […]
Gwirionedd

Ffordd ddigon cyffredin o ganmol llyfr yw dweud pethau fel ‘allwn i ddim ei roi i lawr tan y diwedd’, neu ‘darllenais i’r nofel hon mewn prynhawn, roedd hi mor afaelgar’. Nid felly y darllenais i Gwirionedd, nofel gyntaf Elinor Wyn Reynolds. Ar ôl cwpwl o dudalennau doedd dim dewis ‘da fi ond rhoi’r llyfr […]
Sebon glan, sebon budr

Daeth newyddion da o Lyfrgell Genedlaethol Cymru‘r wythnos yma: bod y Llyfrgell wedi prynu un o’r ddau fersiwn gwreiddiol o’r llun dyfrlliw enwog Salem gan Sydney Curnow Vosper, cyn arwerthiant yng Nghaerdydd. Mae’n hollol briodol bod llun a ddisgrifir yn aml fel ‘eicon’ o gelf Gymreig yn cael cartref parhaol mewn sefydliad diwylliannol cenedlaethol. Fel […]
Hanesion coll

Yn ôl adroddiad yn Golwg yr wythnos ddiwethaf, mae ymchwilydd yn honni fod haneswyr wedi llwyr anghofio am un o ddiwydiannau mawr Cymru, mwyngloddio am blwm ac arian yn y Canolbarth. Ac mae’n ymddangos bod Ioan Lord hefyd yn cyhuddo prifysgolion yng Nghymru o beidio â rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio hanes diwydiannol y wlad […]
Cymru fydd: ysbryd newydd ar droed?

Yn ôl arolwg barn a gyhoeddwyd ddydd Llun diwethaf mae mwyafrif o bobl yr Alban bellach yn cefnogi ail refferendwm ar annibyniaeth i’w gwlad. Prin fod y newyddion hyn yn syndod. Ers sbel mae’r nifer sydd o blaid torri’n rhydd o San Steffan yn cynyddu’n raddol, a’r gred gyffredinol oedd bod ‘etholiad’ Boris Johnson yn […]
Yn erbyn Sioe Awyr Abertawe

Dros y Sul yma daw sŵn byddarol i’r awyr uwchben Bae Abertawe. Yn ôl trefnwyr y Sioe Awyr, Cyngor Abertawe, ‘bydd perfformiadau erobatig trawiadol ac awyrennau hen a chyfoes unwaith eto’n gwefreiddio cannoedd ar filoedd o ymwelwyr’. Y disgwyl yw y bydd dros 250,000 o bobl yn bresennol. Honnir y bydd y Sioe yn dod […]
Offa a’r Cymry

Offa, brenin Mercia, a fu farw yn y flwyddyn 796, yw’r unig frenin Eingl-sacsonaidd y mae ei enw yn rhan o fyd ieithyddol Cymru. A hynny am un rheswm yn unig, oherwydd ei gysylltiad â ‘Chlawdd Offa’. Gan ein bod ni ar fin taclo’r Clawdd ar droed, neu o leiaf y rhan ddeheuol ohono, meddyliais […]
Abaty Cymer, abaty dirgel

Faint o weithiau dych chi’n gyrru’n gyflym ar hyd yr A470 o Lanelltud tua Dolgellau, gan anwybyddu’r lôn fach i’r chwith, yn syth ar ôl croesi afon Mawddach, sy’n arwain at Abaty Cymer? Y dydd o’r blaen ymwelais â’r Abaty am y tro cyntaf. O’r maes parcio, tro bach yw e lawr i’r afon, a’r […]
‘Y tu mewn’ T.H. Parry-Williams

Yr ysgrif fyrraf gan T.H. Parry-Williams yn ei gasgliad Lloffion (1942) yw ‘Y tu mewn’. Y fyrraf, ond nid yr ysgafnaf. Mae iddi ddau fan cychwyn: sylw ar ddau air Cymraeg (‘perfedd’ ac ‘ymysgaroedd’), a delwedd weledol: … aeth modurwr hwnnw dros gyw bach melyn ac aros i edrych ar yr alanas a chydymdeimlo â’i […]