Offa a’r Cymry

May 12, 2019 1 Comment

Offa, brenin Mercia, a fu farw yn y flwyddyn 796, yw’r unig frenin Eingl-sacsonaidd y mae ei enw yn rhan o fyd ieithyddol Cymru.  A hynny am un rheswm yn unig, oherwydd ei gysylltiad â ‘Chlawdd Offa’.  Gan ein bod ni ar fin taclo’r Clawdd ar droed, neu o leiaf y rhan ddeheuol ohono, meddyliais y dylwn i wneud rhywbeth i ddysgu rhagor am y dyn a’i fyd.

Y peth rhyfedd cyntaf yw bod dim tystiolaeth gadarn – dim ond traddodiad ar lafar y genedl, neu’r ddwy genedl – sy’n dangos taw Offa oedd yn gyfrifol am godi’r Clawdd: dim dogfen o’r un amser, dim prawf archeolegol.  Ac yn ddiweddar, yn ystod gwaith o dan hynt y Clawdd ar bwys Castell y Waun, daeth archeolegwyr ar draws gwrthrychau sy’n dyddio i oes cyn bywyd Offa – ond rhagor am hynny yn nes ymlaen.

Yr ail beth rhyfedd yw taw oes Offa oedd y tro olaf i ganolbarth Lloegr – Tamworth oedd pencadlys Mercia, teyrnas Offa – dra-arglwyddiaethu dros Loegr i gyd.  Byth ers hynny, Wessex ac wedyn y de-ddwyrain a daflodd eu cysgod hir dros weddill Lloegr.  Ar ei anterth teyrnasai brenhinoedd Mercia dros Loegr i gyd bron, ar wahân i Northumbria.  Yn nes ymlaen adferodd Alffred Mawr ddinas Llundain – oedd wedi bod yn adfail ers i’r Rhufeiniaid ymadael – a dyma’r dechrau ar broses sydd wedi arwain at y sefyllfa druenus heddiw, pryd mae Llundain a’i ardal bron yn wlad annibynnol, ar wahân i weddill y wlad.

Daeth Offa i rym yn Mercia trwy drais, ar ôl cyfnod cythryblus: llofruddiaeth Aethelbald a threchiad Beornred, ei ragflaenwyr fel brenhinoedd.  Does dim naratif am ei deyrnasiad – ysgrifennwyd y Cronicl Eingl-Sacsonaidd yn Wessex – a dyw hi ddim yn glir sut llwyddodd Offa i estyn ei ddylanwad – yn erbyn Sacsoniaid y Dwyrain, Caint, yr Angliaid, Wessex a Northumbria.  Yn ôl pob tebyg, trwy gymysgu grym milwrol a diplomyddiaeth.

Roedd Offa’n yn ddigon balch o’i ymerodraeth i benderfynu bathu arian – arian o’r safon gorau, sy’n efelychu arian a fathwyd gan Charlemagne ar y cyfandir.  Weithiau mae’r darnau’n dwyn y geiriau ‘Offa Rex’ ac yn dangos ‘portread’ o Offa ei hun.  (Ymddengys ei wraig Cynethryth ar ddarnau eraill – yr unig fenyw ar arian o’r cyfnod yng ngorllewin Ewrop.)  Fe wnaeth Offa ffraeo gyda Charlemagne, a’r Eglwys yn Rhufain trwy geisio lleihau grym Archesgob Caergaint a sefydlu archesgobaeth newydd yn ei ardal ei hun, yng Nghaer Lwytgoed (Lichfield).  Yn ddiweddar ceisiodd rhaglen Radio 4 The long view dynnu cymhariaeth (anodd ei dal) rhwng y rhwyg gyda Charlemagne a Bregsit.

Ond os ydych chi’n chwilio am arwydd o gryfder a meistrolaeth Offa, rhaid mynd i weld ei Glawdd.  Bu’r Cymry yn achos pryder i Offa.  Ychydig o wybodaeth sydd am y berthynas rhwng y ddau, ond yn ôl ffynonellau Cymreig bu brwydr ger Henffordd yn 760, ac ymgyrchoedd gan Offa yn erbyn Cymru yn 778 a 784.  O bosib, pwrpas y Clawdd, felly, oedd rhoi stop i’r ansefydlogrwydd.  Y dystiolaeth gyntaf iddo yw brawddeg gan Asser, cofiannydd Allfred Mawr, oedd yn ysgrifennu yn 893: ‘Cododd [Offa] wal rhwng Cymru a Mercia o’r môr i’r môr’.  Er bod rhannau o’r wal yn bod cyn oes Offa, mae’r rhan fwyaf o haneswyr yn credu taw Offa oedd yn gyfrifol am gynllunio a chodi’r wal gyflawn, o Gas-gwent i Dreuddyn, Sir y Fflint. 

Beth oedd diben y Clawdd?  Barn Syr Cyril Fox, brenin astudiaethau’r Clawdd, oedd taw ffin oedd e er mwyn dynodi tir y Cymry a thir Offa.  Ac er bod rhai heddiw’n meddwl taw wal amddiffynnol yw’r Clawdd, mae’n anodd dychmygu ffordd o ddal gariswn ar hyd cyfan o’r wal.  Mae’n aneglur sut codwyd y Clawdd: p’un trwy orchymyn Offa neu gyda chytundeb gyda rhai o’r Cymry.  Awgryma’r ffaith bod hynt y Clawdd yn dilyn glan ddwyreiniol afon Gwy ac yn diweddu yn Sedbury fod Offa’n fodlon ildio’r afon a’i ddwy lan i Gymry Gwent.

Geoffrey Hill

Roedd Clawdd Offa yn un o’r prosiectau adeiladu mwyaf yn Ewrop yn ei amser.  Felly, mae rhyw eironi yn y ffaith bod enw Offa wedi mynd i ebargofiant.  Dangosa ei ffawd pa mor bwysig yw pwy sy’n ysgrifennu hanes, a pwy sy’n gwarchod yr hanes hwnnw.  Hyd y gwn i, does bron dim ar ôl yn y cof llenyddol neu boblogaidd amdano chwaith.  Ysgrifennodd David Rudkin ddrama deledu nodedig am un o ragflaenwyr Offa, Penda.  Yr unig llenor sy’n trin Offa o ddifrif yw Geoffrey Hill, yn y gyfrol o gerddi Mercian hymns (1971). 

Mae’n demtasiwn gweld Offa fel ryw fersiwn canoloesol o Ozymiandias, y mae darnau o’i gerflun yn sefyll yn nhywod yr anialwch: ‘Look on my works, ye mighty, and despair!’  Ond efallai y gwelwn ni ragor ohono yn ystod yr wythnos nesaf ar ein taith gerdded.

Ceiniog arian Cynethrych

Leave a Reply