Ar y Mynydd Du
Golygfa ddu yw hi, o bob cyfeiriad, does dim dwywaith. O’r A48, er engraifft, wrth ichi yrru o Gaerfyrddin tua Cross Hands, mae’n anodd osgoi edrych draw, am eiliad o leiaf, i’r wal dywyll, fygythiol o fryniau sy’n ymestyn ar y gorwel yn y dwyrain – ymyl gorllewinol y Mynydd Du.
‘Du’ mewn ffordd arall hefyd. Faint o bobl tybed sy’n gyfarwydd â’r Mynydd Du, a’r Fforest Fawr ddrws nesaf – hynny yw, trwy gerdded dros eu gwastatiroedd a thrwy eu cymoedd, yn hytrach na gyrru mewn car, dyweder, o Frynaman i Langadog, neu o Benderyn i’r A470? Arhoson ni ychydig wythnosau’n ôl yn Storey Arms – er mwyn prynu cwpwl o’r brechdanau bacwn enfawr a werthir gan y fenyw hyfryd ar y stondin yn y maes parcio – a sylwi bod ‘na ddwsinau, os nad cannoedd o gerddwyr ar y llwybr sy’n arwain at gopa Corn Du a Phen y Fan – ond bron neb oedd yn mentro i fyny i lethrau’r Fforest Fawr ar ochr arall y ffordd. Ardal ddieithr i lawer yw hon.
Nid fy mod i’n arbenigwr, o bell ffordd. Wedi’r cwbl, mae’n rhaid bod yn gerddwr profiadol a pharatoi’n drylwyr cyn mynd am dro o ddifri ar y mynyddoedd hyn, sy’n fwy anghysbell ac unig o lawer na’r Bannau canolog a dwyreiniol. Ond dwi wedi rhoi cynnig i’r tu mewn o’r Mynydd Du sawl tro, a bob tro roedd e’n werth y drafferth.
Un o’r rhesymau da dros gerdded yn yr ardal hon yw er mwyn gweld a meddwl am y berthynas rhwng y tir a’r bobl sydd wedi gadael eu hôl arno ar draws y canrifoedd. Dwi newydd orffen darllen llyfr ardderchog sy’n crynhoi’r dystiolaeth am y testun hwn, The western Brecon Beacons: the archaeology of Mynydd Du and Fforest Fawr, gan David Leighton (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, 2012). Fydd arddull y testun ddim at ddant pawb – ysgrifennir mewn iaith archaeolegol-broffesiynol – ond mae’r Comisiwn wedi ymdrechu i apelio at ystod ehangach o ddarllenwyr yn yr ailargraffiad hwn – cyhoeddwyd yn gyntaf yn 1997 – gyda rhagair hyfryd gan Roy Noble, teithiau cerdded dethol, a lluniau newydd rhagorol a thrawiadol.
Yr hyn sy’n eich taro gyntaf o ddarllen y llyfr yw pa mor llawn yw’r ardal fynyddig hon. Heddiw, dyw neb bron yn byw ynddi, ac mae’n gallu edrych i’r ymwelydd diniwed fel lle gwag a ‘naturiol’. Ond dros y canrifoedd fe welai hi lawer o fynd a dod gan bobl, o’r oes Fesolithig hyd ganol y ganrif ddiwethaf. Fe adawon nhw eu holion: offer cerrig (Oes y Cerrig), carneddau, meini hirion a chylchoedd cerrig (Oes Efydd), caerau a gwersylloedd dros dro (Rhufeiniaid), adeiladau cerrig (Oesoedd Canol), chwareli carreg galch, ffermydd cwningod, waliau, ffyrdd a llawr mwy (yr oes fodern). Ychydig o wybodaeth gadarn, fodd bynnag, sy’n hysbys am y rhan fwyaf o’r lleoedd hyn. Dim ond llond dwrn o’r safleoedd cynhanesyddol sydd wedi cael eu cloddio, a does fawr o dystiolaeth ddogfennol am y safleoedd canoloesol a modern. Mae’r llyfr felly yn llawn dyfalu a bwrw amcan. Beth, er enghraifft, oedd diben y carneddau niferus sydd ar wasgar dros yr ardal? Ai beddau ydyn nhw? Neu safleoedd defodol neu grefyddol o ryw fath? Neu ydyn nhw’n gwneud dim mwy na dangos llwybrau? Yn wir, ydyn nhw i gyd yn dyddio nôl i amseroedd cynhanesyddol, neu ydyn nhw’n fwy diweddar? Anodd dweud. Mae’r mynyddoedd yn gyndyn iawn i ddatgelu ei dirgelion.
Thema arall sy’n dod allan o’r llyfr yn gryf yw effaith newid hinsawdd ar weithgareddau dyn ar y mynyddoedd – ac effeithiau gweithgareddau dyn ar y tir. Ers diwedd Oes yr Iâ ddiwethaf mae’r hinsawdd wedi amrywio’n sylweddol iawn. Bu cyfnod o dwymo (cyflym i ddechrau, wedyn arafach), wedyn cyfnod gwlypach, yr ‘Atlantaidd’, pryd roedd y tymeredd yn uwch na heddiw, ac felly tan y cyfnod presennol (‘Is-atlantaidd’). Yn y cyfnod Neolithig ac yn yr Oes Efydd gynnar roedd yr hinsawdd yn ddigon ffafriol i alluogi fforestydd i dyfu a dynion i fyw ac i ffermio. Ond wedyn bu dirywiad a daeth amgylchiadau byw yn anoddach. I wneud pethau’n waeth mae’n ymddangos o samplau paleoecolegol o’r pridd yn yr ardal fod y trigolion yn clirio llawer o’r coed, yn arbennig trwy eu llosgi. Fel canlyniad troes y llynnoedd yn gorsydd, ac ymledodd mawn ar draws y mynyddoedd, wrth i’r pridd ddod yn fwyfwy asidig. Dirywiodd yr hinsawdd eto ar ôl yr oes Rufeinig, ac wedi sbel yng nghanol yr oesoedd canol pan gododd y tymheredd, parhaodd y dirywiad; yn y pendraw fe ddaeth ffermio defaid yn brif ddefnydd y mynyddoedd.
Mae pawb yn gytûn bod newid mawr arall yn digwydd i’r hinsawdd yn ein dyddiau ni, codiad sylweddol yn y tymheredd y mae gweithgareddau dynol yn pennaf gyfrifol amdano. Beth tybed fydd y canlyniad i ucheldiroedd ein gwlad fel y Mynydd Du a’r Fforest Fawr? A fydd y mawn, sy’n storio llawer iawn o garbon, yn dechrau erydu a diflannu? Dros gyfnod o ganrifoedd a ddaw’r mynyddoedd yn fwy addas i ystod ehangach o weithgareddau na ffermio defaid?
Mae ‘na rywbeth arall am yr ardal hon. Rhywbeth sy’n absennol o brif destun y llyfr – er bod y lluniau ynddo yn cynnig awgrym ohono. Hynny yw, y profiad unigryw o fod yng nghanol y Mynydd Du – o droedio ar eich pen eich hun ar y mawn a’r grug a’r cerrig, o edrych o amgylch a gweld neb ym mhob cyfeiriad; o deimlo’r gwynt cryf a’r haul (weithiau) ar eich croen, a chlywed yr ehedyddion yn bell uwch eich pen; o ddilyn afon i’w ffynhonnell; o ddychmygu sut le oedd hwn filoedd o flynyddoedd yn ôl.
Rai blynyddoedd yn ôl cerddais i ar draws y Mynydd Du o Gwmtwrch Uchaf i Landdeusant, gan ddilyn cwrs afon Twrch – diwrnod llawn o gerdded, a phrofiad cofiadwy. Nawr dwi’n dechrau teimlo’r awydd, diolch i lyfr David Leighton, i grwydro eto yn yr ardal – i ymweld â Chwm Cadlan, ger Penderyn, gyda’i gasgliad cyfoethog o henebion, i aros o flaen y maenhir mawr unig Maen Llia, ac i ddilyn cwrs y gwersyll Rhufeinig yn Arhosfa Garreg-lwyd. Neu efallai, rhyw ddydd, i gerdded ar draws y Bannau i gyd o’r Fenni i Fethlehem.