Geiriaduron a Karl Marx
Digwydd bod yn swyddfeydd Gwasg Gomer yn Llandysul rai wythnosau yn ôl, a dod o hyd i hen gyfaill, D. Geraint Lewis. Roedd camerâu Heno yn yr adeilad, i ddathlu cyhoeddi llyfr mawr, a doedd dim cyfle cael sgwrs. Achos y dathlu oedd y llyfr mwyaf a gyhoeddwyd yn hanes y cwmni, sef llyfr gan Geraint a’i fab, Geiriadur Cymraeg Gomer.
Gelwais i mewn i Siop Tŷ Tawe y dydd o’r blaen i brynu copi. Dyw maint y gyfrol ddim llawer yn fwy na maint Y geiriadur mawr a argraffwyd yn gyntaf yn 1958 – 160g yn erbyn 108g yn yr ystafell bwyso – ond does dim cymhariaeth rhwng y ddwy fel arall. Mae celf y geiriadurwr wedi datblygu yn rhyfeddol ers dyddiau H. Meurig Evans a W.O. Thomas, ac o safbwynt 2016 mae’r ansoddair ‘mawr’ yn edrych yn annigonol iawn. O heddiw ymlaen fydd dim angen troi eto at Y geiriadur mawr am eglurhad. Gall hwnnw fynd i’r silffoedd ‘wrth gefn’. Geraint fydd y cyfeirlyfr beunyddiol bellach. [‘Beunyddiol: ans dyddiol am byth, bob dydd yn wastadol, ee bara beunyddiol ond papur dyddiol daily‘.]
Dyma lyfr sy’n wirioneddol wych ym mhob ffordd. ‘Geiriadur syncronig, cyfoes yw’r geiriadur hwn’, medd yr awduron yn eu cyflwyniad, ‘mae’n canolbwyntio ar Gymraeg heddiw’. Amhosibl bod yn gwbl gynhwysfawr – dyw’r gair ‘syncronig’ ddim i’w weld yn y rhestr, er enghraifft – ond yma mae ‘da chi 43,000 o eiriau, ar 1,295 o dudalennau, pob tudalen yn llawn dop o eiriau a’u diffiniadau. Fel un a ddysgodd Cymraeg ei hun mae Geraint yn ymwybodol iawn am y ‘ffurfdroadau’ yn Gymraeg [‘declension’, ‘inflection’], felly fe welwch chi gofnodion ar gyfer ffurfiau sy ddim yn ymddangos mewn geiriaduron eraill, fel ‘mae’, ‘des’ (a ‘deuthum’) a ‘gwerdd’. Anelir y llyfr felly at ddysgwyr yn ogystal ag at siaradwyr rhugl. Diffiniadau moel yn unig a geir yn Y geiriadur mawr. Mae’r Lewisiaid yn cynnwys llawer mwy o wybodaeth i ddilyn pob gair: diffiniadau manwl yn Gymraeg a Saesneg (gan wahaniaethu rhwng ystyron amrywiol), brawddegau enghreifftiol, nodiadau am sut i ddefnyddio’r gair, a phriod-ddulliau. Yn wyrthiol bron, maen nhw’n rhagweld anghenion darllenwyr sy mewn penbleth neu ansicrwydd, ac yn cynnig rhywbeth helpus ar eu cyfer.
Un o brif rinweddau’r gyfrol yw geiriau newydd [‘newydd-fatheiriau’?], geiriau arbenigol a geiriau ‘anweddus’, sy’n anodd i’w ffindio mewn geiriaduron eraill. Dyma rai, o’r adran ‘rh’
Rhagchwarae: ‘ysgogi erotig cyn cyfathrach rhywiol’
Rhanwedd: ‘shareware’
Rhedegydd: ‘courier’
Rheolwaith: rhaglen gyfrifiadurol ddigyfnewid
Rhith-gof: ‘virtual memory’
Rhuddiad: ‘red shift’
Rhyddewyllysiaeth: ‘libertarianism’
Rhyngrewlifol: ‘interglacial’
Rhyngwynebu: ‘interface’
Cyn y rhestr o eiriau Cymraeg ceir tabl o ferfau – rhyw grynodeb o gyfeirlyfr anhepgor arall gan Geraint, Y llyfr berfau, ac ar ei ôl mae rhestr o eiriau Saesneg a’u cyfieithiadau Cymraeg. ‘Glossary’ yw enw’r awduron ar hwn, ‘llwybr arall ar y geiriadur Cymraeg, yn hytrach na geiriadur Saesneg-Cymraeg’ – adnodd helpus iawn, yn arbennig ar gyfer termau cymharol newydd sy ddim yn ymddangos yng ngeiriadur Bruce.
Fel y Frenhines Goch mae’r geiriadurwr yn gorfod rhedeg yn glou er mwyn sefyll yn yr unfan, a peth hawdd yw darganfod bylchau, er enghraifft fersiynau Cymraeg o dermau Saesneg diweddar megis ‘crowdfunding’, ‘hardwired’ a ‘selfie’. Ond hollti blew [‘poeni am fanion dibwys’] yw hyn. Campwaith, mewn gair, yw ‘Geiriadur Geraint’: geiriadur un-gyfrol safonol sy’n cyfateb i Chambers (Saesneg) a Robert (Ffrangeg), ac, ar unwaith, yn un o’r gweithiau hanfodol yng Nghymru heddiw. Tybed pa blaid wleidyddol, yn ei hymgyrch etholiad i’r Cynulliad, fydd yn ddigon dewr i addo prynu copi i bob aelwyd yn y wlad? Syniad gwallgof? Llawer mwy rhesymol nag addo codi’r cyfyngiad cyflymder i 80mya ar ffyrdd Cymru.
Mae’n rhyfeddol bod gennym genhedlaeth gyfan o eiriadurwyr talentog ac ymroddedig, yn eu plith Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones ym Mangor, Andrew Hawke a’i gatrawd yn Aberystwyth, a ffatri eiriau’r Lewisiaid yn Llangwyryfon. Gan fod eu gwaith mor hanfodol i iechyd yr iaith, mae’n rhyfyeddol hefyd nad ydyn nhw wedi derbyn eu rhan o anrhydeddau gan sefydliadau mawr Cymru.
Nôl yn Nhŷ Tawe, sylwais i fod dau gopi o Geraint ar y silff. Codais i un ohonynt. Taflais i lygad llyfrgellyddol arno: clawr [‘rhan allanol, gwarchodol, llyfr neu gylchgrawn sy’n fwy trwchus a gwydn mae’r tudalennau eraill’] sy’n gysurus galed a solet; rhwymiad [‘gorchudd sy’n cydio tudalennau ynghyd i greu llyfr’] digon cryf ac yn annhebyg o ddadfeilio [‘syrthio yn ddarnau’] fel wnaeth y ddau gopi o Bruce sy gennym yn y tŷ; dyluniad [‘ffordd y mae rhannau wedi cael eu trefnu maen cyfanwaith’] clir ac apelgar. Cerddais tuag at y cownter i dalu fy £35.
Yn sydyn cofiais am lyfr arall, gwahanol iawn. Gwelais i nodyn amdano rywle, heb gofio ble. Stori go iawn Karl Marx oedd y teitl, addasiad o lyfr Catalaneg i blant. Gyda help y dyn ifanc y tu ôl i’r cownter daeth copi i’r golwg ar silff isel: llyfr coch, sgwâr, llawn lluniau a thestun syml. ‘Stori i blant bach a mawr, ac i blant mwy hefyd’, meddai’r clawr cefn.
Joan R. Riera a ysgrifennodd y geiriau, a Liliana Fortuny oedd yn gyfrifol am y lluniau hyfryd. Teitl y llyfr gwreiddiol oedd El Capital de Karl Marx. Sioned Hâf, Lowri Pijeira Pérez a Sel Williams a wnaeth y cyfieithu a’r addasu.
Karl Marx, ‘Taid’ – sosialydd gogleddol, mae’n amlwg – sy’n adrodd stori wrth bedwar plentyn bach. Maen nhw’n gwrthod clywed hanes ‘tywysoges neu frenin’, felly mae Karl yn dweud hanes y gweithwyr, sy’n heidio i’r trefi a dinasoedd i chwilio am waith. Gwaith Ffred, yr arwr, yw gwehyddu sanau. Mae’n sylweddoli ei fod yn derbyn ond 25 ceiniog am bob pâr o sanau, er taw £2 yw ei bris yn y farchnad. Yn ôl Rosa [adlais o Rosa Luxemburg, o bosib?], sy’n cadw cyfrifon y ffatri, mae’r perchennog yn pocedu £1.34 y pâr. Wedi’u cythruddo gan y newyddion hyn mae’r gweithwyr yn mynd ar streic, a’r canlyniad yw bod y bòs – sy’n edrych mwy fel rheolwr banc o’r hen do yn hytrach na rheolwr cronfa rhagfantoli [‘hedge fund’: dim cofnod yn Geraint] rheibus – yn ildio, trwy gynyddu cyflogau a lleihau’r diwrnod gwaith. Gorfoledd ymysg y gweithwyr. Trefnir parti i ddathlu, ac anfonir Ffred a Rosa ar draws y byd mewn trên i ysgogi gweithwyr gwledydd eraill i fynnu ‘gwell byd’.
Stori hyfryd sydd yma, wedi’i addasu’n ddeallus – er y lleolir Merthyr Tudful ar lan y môr, mae’n ymddangos. Hyder heulog – optimistiaeth o’r meddwl yn ogystal o’r ewyllys, pace Gramsci – sy’n pefrio trwy’r tudalennau. Safbwynt perffaith addas yw hwn i ‘blant bach’, ond i ni ‘blant mwy’ dyw byd y gweithwyr buddugol ddim yn hawdd i’w adnabod. Er gwell neu er gwaeth, gwyddon ni fod undebau llafur, os ydyn nhw’n parhau o gwbl, yn ddiymadferth yn wyneb tyrbo-gyfalafiaeth [ddim yn air yn Geraint na Bruce] remp a rhyddewyllysiaeth ideolegol. Os oes gwirionedd o hyd yn nadansoddiad Marx o gymdeithas y ‘gorllewin’, ychydig iawn o reswm sydd y dyddiau hyn i gredu bod ffordd hawdd o greu cymdeithas ac economi mwy cyfartal a theg.
‘Marcsydd ydych chi?’, gofynnodd y dyn ifanc y tu ôl y Cownter wrth baratoi’r dderbynneb. Cwestiwn anodd i ateb mewn brawddeg. Nôl gartref dyma fi’n troi at Geraint am help. Diffiniad syml ar gyfer Marcsydd: ‘un sy’n arddel Marcsaeth’, ond ysgrif gyfan ar gyfer Marcsaeth: ‘daliadau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol Karl Marx, yn cynnwys sosialaeth, theori llafur, materoliaeth hanesyddol, brwydr y dosbarthiadau ac unbennaeth y proletariat (neu’r werin) cyn sefydlu cymdeithas ddiddosbarth.’ Hmm. Tybed a oes dosbarth nos yn athroniaeth wleidyddol ar gael yn Llangwyryfon?