Y broblem o’r cyfoethogion eithafol
Fersiwn o gyflwyniad i aelodau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ar 11 Chwefror 2015.
Dyma dri chwestiwn ichi:
- A oes ots os ydy nifer fach iawn o bobl mewn cymdeithas yn ennill llawer, llawer mwy na’r gweddill ohonom?
- Ydy’r sefyllfa hon yn ffaith naturiol yn ein heconomi, ac felly does dim modd ei newid?
- Os oes modd ei newid, sut yn y byd gellir sicrhau’r newid?
Ar ddechrau’r mis hwn fe wnaeth Stefano Pessina, Eidalwr sy’n bennaeth y cwmni o America sy’n berchen ar Boots the Chemist ymosodiad ffyrnig ar y Blaid Lafur am ei chynlluniau ar gyfer trethi, ar y sail eu bod nhw ‘not helpful for business, not helpful for the country and in the end it probably won’t be helpful for them’. Trychineb (‘catastrophe’) fyddai llywodraeth Lafur, meddai.
Pwy yw Senor Pessina? Mae’n filiynydd. Gwerth ei ffortiwn personol yw tua £7.5bn. Ei gartref yw Monte Carlo, yn Monaco, sy’n enwog nid yn unig am ei gasinos ond hefyd am fod yn hafan rhag trethi (dyw Pessina erioed wedi talu trethi ym Mhrydain). Peth amser yn ôl symudodd bencadlys Boots i’r Swistir, er mwyn osgoi gorfod talu trethi yma. Erbyn hyn mae Boots wedi uno gyda chwmni yn UDA i ffurfio Walgreens Boots Alliance. Roedd bwriad gan Stefano Pessina symud y pencadlys o’r cwmni newydd o’r UDA i’r Swistir – ond wedi protest yn America penderfynodd roi gorau i’r syniad. Yn y cyfamser, mae’r rhan fwya o weithwyr Boots the Chemist yn y wlad hon yn ennill dim llawer mwy na’r lleiafswm cyflog.
Dros y degawdau diwethaf dyn ni wedi dod i arfer â’r ffaith bod y gwahaniaeth o ran incwm a chyfoeth rhwng rhai pobl gyfoethog iawn a gweddill y boblogaeth wedi cynyddu’n aruthrol. Erbyn heddiw, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae’r 1% mwya cyfoethog yn y DU yn ennill cymaint â’r 55% tlotaf o’r boblogaeth gyda’i gilydd. O’r 30 gwlad sy’n aelodau o’r OECD, Prydain yw’r pedwaredd fwyaf angyfartal. Yn 2000 ennillodd prif weithedwyr 47 gwaith yn fwy na’r cyflog cyfartalog; nawr maen nhw’n ennill 120 gwaith yn fwy.
Mae’r un tueddiadau i’w gweld ar draws y byd. Yn ôl Oxfam, mewn adroddiad ym mis Ionawr eleni, mae cyfoeth y 80 unigolyn cyfoethocaf yn y byd wedi dyblu rhwng 2009 ac eleni, ond mae cyfoeth y 50% tlotaf wedi mynd lawr dros yr un cyfnod.
Mae eironi yn y ffaith bod anghyfartaledd mewn cyfoeth wedi cynyddu pedair gwaith y gyflymach yn ystod y pedair blynedd er 2008 (dechrau’r ‘crash’) nag yn ystod y pedair blynedd cyn 2008. Ar hyn o bryd mae cyflogau prif weithredwyr y 350 cwmni mwyaf yn y FTSE wedi cynyddu oddeutu pum gwaith yn gyflymach na chyflogau gweithwyr cyffredin.
Dyw rhai ddim yn gweld dim byd o’i le yn y sefyllfa hon. Chwarae teg, medden nhw, i unrhywun sydd â digon o allu a phenderfyniad i bentyrru ffortiwn [gan anghofio bod llawer o’r cyfoethogion eithafol wedi etifeddu eu cyfoeth]. Does dim effaith ar bobl eraill, neu, os oes effaith, impact positif yw e: mae ‘effaith diferu i lawr’ (‘the trickle-down effect’) yn dod â lles i bawb yn yr economi.
Ond mae digon o dystiolaeth bod y gagendor rhwng y ‘cyfoethogion eithafol’ a’r gweddill ohonom yn gwneud drwg i bawb.
- Dyw ‘diferu i lawr’ ddim yn gweithio. Yn y DU y gwelwyd y cwymp mwyaf (a mwyaf estynedig) mewn cyflogau ymhlith pobl gyffredin ers y 1930au, os nad cyn hynny. Ar ben hynny, dyw’r cyfleoedd ddim yn bod i bobl heb gyfoeth heddiw, achos bod mudoledd cymdeithasol (‘social mobility’) wedi arafu’n ddifrifol.
- Yn aml, dyw’r ‘cyfoethogion eithafol’ ddim yn gwneud eu cyfraniadau ariannol teg yn ôl i’r gymuned. Hynny yw, dyn nhw ddim yn talu eu trethi fel chi a fi. Mae 10% o gyfoeth ariannol y DU yn cael ei gadw y tu allan i’r wlad. Dyn nhw ddim hyd yn oed yn gweld eu hunain fel rhan o’n cymuned.
- O achos bod cyfoethogion yn peidio â thalu eu cyfraniadau teg – ac oherwydd ein sybsidi enfawr i’r banciau ar ôl y ‘crash’ – nid oes gan lywodraethau ddigon o arian i fforddio talu am ein gwasanaethau cyhoeddus angenrheidiol.
- Dangosa ymchwil taw’r gwledydd sy’n fwy cyfartal o ran cyfoeth yw’r gwledydd lle mae iechyd (corfforol a meddyliol) yn well, lefelau addysg yn uwch, lefel troseddau’n is, a mudoledd cymdeithasol yn haws.
Ond onid yw hi’n hollol naturiol, mewn cymdeithas ac economi cyfoes, fod rhai pobl yn mynd i ennill llawer mwy na’r lleill? Ac onid yw’n amhosibl newid y sefyllfa?
Mae’n gallu ymddangos fe ‘na, a hynny am resymau da:
- Mae’r broses o globaleiddio, sydd wedi cyflymu cymaint ers y saithdegau o’r ganrif ddiwethaf, yn ei gwneud hi’n hawdd iawn i bobl sy piau cwmniau rhyngwladol mawr symud eu hadnoddau o gwmpas y byd, gan chwilio am yr amodau gorau er mwyn cynyddu eu cyfoeth – er enghraifft trwy dalu’r cyflogau lleaif posibl i’w gweithwyr. Mae’n anodd iawn i ddinasyddion mewn un gwlad, eu hundebau llafur neu eu cynrychiolwyr gwleidyddol, wrthsefyll y gweithgareddau hyn.
- Mae’n bosib i bobl gyfoethog guddio eu cyfoeth rhag yr awdurdodau sy’n gyfrifol am gasglu trethi oddi wrthynt – fel mae’r newyddion diweddar am HSBC yn dangos yn glir: roedd HSBC yn helpu eu cwsmeriaid ‘gwerth uchel’ i osgoi gorfod talu trethi trwy ddefnyddio cyfrifon cudd yn y Swistir.
- Mae’r cydbwysedd rhwng nerth cyflogwyr a nerth gweithwyr wedi newid yn llwyr, wrth i undebau llafur wanhau o dan ymosodiadau gan lywodraethau (o bob liw) sy’n ffafrio’r cyflogwyr.
- Ychydig o lywodraethau sy’n cynrychioli buddiannau eu hetholwyr yn hytrach na gwasanaethu buddion cwmniau mawr, sy’n gallu fforddio lobïwyr a dulliau eraill o ddylanwadu. Gyda chyfoeth mawr daw dylanwad a phwer mawr, sy’n gallu tanseilio democratiaeth ei hun.
- Fel canlyniad mae llawer o bobl wedi colli ffydd mewn pleidiau gwleidyddol, neu o leiaf y prif bleidiau mawr. Naill ai maen nhw wedi colli gobaith yn y broses ddemocrataidd yn llwyr, neu maen nhw wedi troi at bleidiau eraill, ymylol.
Yn wyneb y ffactorau hyn i gyd mae’n hawdd anobeithio a dod i’r casgliad bod dim pwynt ceisio nofio yn erbyn y llif a gweithio tuag at wirdroi tueddiadau sy’n ymddangos i fod yn naturiol bron. Ond does dim byd naturiol am y broses. Pobl sy wedi penderfynu y dylai anghyfartaledd economaidd gynyddu: y cyfoethogion eithafol. A phobl – chi a fi – sy’n gallu gwneud ein gorau i newid y broses. Cofiwch, yn ystod y cyfnod rhwng diwedd yr Ail Ryfel Byd a 1980, llwyddwyd i leihau y gagengor rhwng pobl gyfoethog a phobl dlawd. Gwnaed hyn yn bwrpasol, mewn nifer o wahanol ffyrdd: codi trethi, datblygu’r wladwriaeth les, adeiladu gwasanaethau cyhoeddus, diogelu rhan i’r undebau llafur mewn penderfyniadau am lefel cyflogau.
Heddiw, mae cytundeb ymysg llawer iawn o bobl flaengar bod rhaid gwneud dau beth allweddol er mwyn dechrau lleihau’r bwlch rhwng y cyfoethogion eithafol a’r gweddill:
- Codi’r lefel o’r lleiafswm cyflog, fel bod pawb sy’n gweithio yn gallu ennill digon heb orfod troi at y wladwriaeth am gymorth, er engraifft credydau treth
- Codi trethi ar gyfoeth (nid incwm) y bobl fwyaf cefnog, mewn ffordd sy’n adlewyrchu maint eu cyfoeth a’u dyletswydd i gyfrannu’n deg i’r gymuned.
Os dyna’r ateb, y cwestiwn anodd nesaf yw, sut? Sut all pobl gyffredin ddechau gweithio tuag at yr amcanion hyn, a chael impact?
Mewn dwy ffordd, dywedwn i. Un yw trwy drafod, siarad a mynnu bod y broblem o gyfoeth afresymol yn rhan naturiol o faterion cyfoes. Eisoes mae arwyddion bod pobl yn dechrau deall bod cyfoeth difrifol yr un mor broblemus â thlodi difrifol. Cafodd y llyfr The spirit level (2009), gan Richard Wilkinson a Kate Pickett ddylanwad anarferol. Yn ddiweddar cyhoeddwyd Capitalism in the 21st century (2013) gan Tomas Picketty, sy’n esbonio sut mae cyfalafiaeth wedi arwain dros y blynyddoedd at ganolbwynyio cyfoeth mewn ychydig iawn o ddwylo. A gwelwn ni fwy a mwy o raglenni teledu a radio yn rhoi sylw i’r broblem o anghyfarteledd. Mae’n amlwg fod pobl yn grac iawn o weld bod unigolion cyfoethog yn osgoi talu trethi trwy help bancwyr fel HSBC.
Unwaith bod nifer fawr o bobl yn argyhoeddedig fod angen newid, ac yn dechrau pwyso am newid, mae’r amodau yn bod i newid pethau. Beth wedyn?
Nawr gadewch inni fynd nôl i’r chwedegau hwyr a’r saithdegau, pan oeddwn i’n ddyn ifanc. Bryd hynny, dau grŵp yn y gymdeithas oedd yn gyfrifol am wthio newid economaidd a chymdeithasol blaengar. Un oedd gweithwyr, yn cael dylanwad trwy eu cynrychiolwyr yn y Senedd neu mewn undebau llafur. Heddiw, wrth gwrs, mae’r Blaid Lafur a’r undebau ill dau wedi newid yn sylfaenol. Ond mae’n bosib o hyd i bobl gyffredin weithio gyda’i gilydd i ‘newid yr hinsawdd’ a chyflawni newid.
Y grŵp dylanwadol arall, dros ddeugain mlynedd yn ôl, oedd myfyrwyr – pobl fel chi. Doedd dim cynifer ohonyn nhw bryd hynny, ond roedden nhw ar flaen y gad mewn sawl brwydr wleidyddol – enghraifft dda oedd yr ymgyrchoedd yn erbyn apartheid yn Ne Affrica. Swnnwn i ddim petai myfyrwyr a phobl ifanc heddiw, sy’n dioddef cymaint â neb o’r cynildeb presennol, yn flaenllaw yn y frwydr yn erbyn cyfoeth gormodol.