Cadair Idris eto

September 27, 2015 2 Comments

P1080092A wnelo rhai o’m hoff brofiadau o deithio yng Nghymru â Chadair Idris. Ar yr hen ffordd Rufeinig o Domen y Mur tua’r de, does dim golygfa fwy gwefreiddiol na gweld mur hir, mawreddog y mynydd yn y pellter, yn sgleinio’n oren a llwyd yn yr haul isel ar noson glir o haf. Eto, wn i ddim am unrhyw brofiad tebyg i’r teimlad eich bod chi’n hedfan mewn awyren yn hytrach na gyrru car, wrth ichi gychwyn o ben Cwmrhwyddfor a chyflymu i lawr ffordd syth yr A487 tuag at Dal-y-llyn.

Ond dyw hyd yn oed y profiadau arbennig hyn ddim yn cymharu â’r profiad o deimlo’r mynydd ei hun o dan wadnau eich sgidiau cerdded. Bob blwyddyn bydda i’n cychwyn ym Minffordd a dringo’r llwybr serth trwy’r coed tuag at Lyn Cau a thu hwnt. Ces i fy swyno am y tro cyntaf gan y mynydd yn saithdegau’r ganrif ddiwethaf. Dr John Evans, Caerfyrddin, fy nhad yng nghyfraith (yn nes ymlaen) a’m cyflwynodd i’r mynydd. Roedd e yn ei bumdegau hwyr, siŵr o fod, bryd hynny. Cychwynnon ni o Finffordd (‘Idris Gates’ yn ei eiriau e) ac ar ôl cyrraedd Pen y Gadair disgynnon ni – llithron ni, mewn gwirionedd – i lawr Llwybr y Cadno at Lyn Gwernan. Diwrnod cofiadwy: roeddwn i’n awyddus i fynd nôl cyn gynted â phosib. Dim ond unwaith yn rhagor dringais Gadair yng nghwmni rhywun arall, a hynny gyda chyfaill o’r gwaith, mewn storm o eira yn ystod y gaeaf. I mi mae cerdded yn y mynyddoedd yn brofiad unig yn y bôn. Llawer haws myfyrio a rhyfeddu – yr hanfod o fod ar y mynyddoedd – ar eich pen eich hun.

P1080078Eleni gadawais i’r ddefod flynyddol yn hwyr yn y tymor, diolch i dywydd ansefydlog a busnes arall. Ond mae gan fis Medi ei fanteision, yn arbennig os yw gwasgedd uchel yn cadw’r pwyseddau isel draw ym Môr yr Iwerydd. Yn y fath dywydd mae natur fel petai yn cadw ei gwynt cyn bod popeth yn rhuthro i ddirywio a phydru. Gwawriodd dydd Sadwrn yn heulog, ac erbyn imi gyrraedd troed y mynydd, tua hanner wedi deg, roedd y maes parcio eisoes yn llawn bron. Minffordd, gyda llaw, yw fy man cychwyn bob tro. Does dim ffordd foddhaol arall, dim llwybr sy’n cynnig yr un ddeinameg o gerdded. Gweld bod minibws o blant ysgol fonedd yna (oes cyfleoedd tebyg i blant ysgolion eraill tybed?). Talu am barcio – am ryw reswm mae’r Parc Cenedlaethol yn meddwl y gallwch chi gwblhau Cadair o fewn pedair awr yn unig. Penderfynu torri traddodiad a chael coffi yn y caffi cyn cychwyn. Wedyn trwy’r clwyd a lan y grisiau carreg serth, heibio i’r ffawydd a’r derw, ac ymylon eu dail yn dechrau troi’n frown. Ar ôl deng munud roedd y chwys yn ffrydio i lawr fy nghefn. Pasio’r plant o’r minibws, yn cael hoe ar ôl yr ymdrech o ddringo. Ochr borffor Mynydd Moel yn dod i’r golwg, wedyn pinacl Pen y Gadair yn sefyll yn glir, diolch byth, o’r cymylau.

Am y tro cyntaf erioed ffindiais i’r llwybr sy’n osgoi ‘cefn y morfil’, y roche moutonée o flaen Llyn Cau, diolch i gadwyn o sachau plastig, wedi’u gollwng gan hofrennydd, yn llawn cerrig i’w defnyddio er trwsio’r llwybr treuliedig. Nesa, wal serth Craig Cau. Yn uwch ac yn uwch, gydag ambell stop i dynnu anadl. Newidiai lliw Llyn Cau, i fod, yn y diwedd, yn berl du, oer. Y wobr am gyrraedd y cefn oedd golygfa o Dal-y-llyn islaw, a Mynydd Pencoed a Chyfryw.

P1080088Ar lethrau Craig Cau digwydd cwrdd â dyn yn ei chwedegau, tenau ond cyhyrog, a’i gi mawr. Ar ôl colli ei wraig penderfynodd hwnnw grwydro trwy Gymru gan gasglu goleudai Cymru. Ei dro cyntaf ar Gadair oedd hwn, a’i fwriad oedd cyrraedd Pen y Gadair a throi nôl. Yn nes at y copa, dyma ddyn iau yn cario croes bren drwm ar ei ysgwydd, yng nghwmni dau arall, un gyda chamera fideo. Ei nod oedd cerdded a’i groes o Gaergybi i Gaerdydd, ar draws yr Wyddfa, Cadair a Phen-y-Fan, wedi gweld y golau a chofleidio Crist. Rhaid edmygu ei benderfyniad – a’i gryfder.

Ar ben Craig Cau des i o hyd o ddau gwpl. Wrth ddisgyn i’r cwm cyn dringo eto i Ben y Gadair gwelson ni ddyn a’i bartner yn dod i’r golwg, yn chwys diferu, ar ben y Stone Shute – llwybr cul, llethrog dwi heb ei ddilyn erioed. Esbonion nhw iddyn nhw ymdrochu yn Llyn Cau – am ugain munud. Nofio gwyllt a iasoer, heb os.

P1080114Ar gopa’r mynydd roedd digon o bobl, gan gynnwys grŵp o ymwelwyr o’r Alban oedd yn eistedd mewn rhes, eu coesau yn hongian dros y dibyn, yn bwyta eu cinio ac yn edrych ar draws afon Mawddach. Dim golwg o’r Warden enwog Jack Grasse – tybed ydy e wedi ymddeol? Ffindiais i lecyn arall ar wahân, ond erbyn imi agor y bocs brechdanau roedd cymylau llwyd wedi llenwi’r holl awyr gwag i’r gogledd. Diflannodd Llwybr y Cadno, Llyn y Gadair a Llyn Gafr o’r golwg. Rholiodd y niwl ar draws y mynydd hefyd, yn cuddio’r llwybr draw at Fynydd Moel. Wedyn, yr un mor sydyn, ciliodd y cymylau. I ffwrdd â mi wedyn ar hyd ystlys Mynydd Moel, ar y llwybr tarw sy’n hepgor copa’r mynydd. Pasiais i gwpwl yn eistedd ar ymyl y llwybr yn bwyta eu brechdanau nhw. ‘Dyna yw’r union fan’, meddais i wrthyn nhw, ‘lle paentiodd Richard Wilson ei olygfa enwog o Gadair Idris’. Syllu ata i wnaethon nhw, fel petawn i wedi hala noson ar gopa Cadair a dihuno fel dyn o’i gof.

P1080143O’r diwedd ymddangosodd y ffens fawr sy’n disgyn yn syth lawr y mynydd. Ar draws y gamfa a chamu’n ofalus trwy’r cerrig mawr a’r sgri a’r grisiau serth tuag at y bont dros Nant Cadair. Daliais i fyny â dyn oedrannus a’i wraig, yn symud yn gryf gyda help ffyn cerdded. O leiaf deng mlynedd yn hŷn na fi – gobaith o hyd. Ac felly lawr â ni i’r llwybr trwy’r coed i’r diwedd.

Bob blwyddyn, yr un mynydd, yr un llwybr. Ond bob blwyddyn, gwahanol mae’r profiad. Nid yn unig mae’r amgylchiadau allanol – y tywydd, y cwmni, ymateb y corff – yn amrywio’n fawr, ond ceir profiad meddyliol unigryw bob tro – mwynhad gwahanol, gofidiau gwahanol, atgofion gwahanol – atgofion yn arbennig am y rhai sy wedi marw, neu sy wedi diflannu o’m bywyd. Ond yr emosiwn sydd wastad yn ennill y dydd yw llawenydd, a’r teimlad o ryddid ysbrydol ac o symud i le sy’n uwch na’ch pryderon beunyddiol. Heddiw ychwanegais i haenen arall eto i’r sediment cyfoethog o brofiadau sy’n deillio o’r lle arbennig hwn.

Comments (2)

Trackback URL | Comments RSS Feed

  1. Huw says:

    Cader Idris – Lle godidog wedi’i gerflunio’n Oes yr Ia. Llongyfarchiadau ar gael eich urddo’n Gymrawd er Anrhydedd gan CILIP.
    Huw

Leave a Reply