Iaith a Brecsit

March 24, 2018 0 Comments

Er Mehefin 2016 mae llawer o bobl yn cynnig llawer o resymau er mwyn ceisio esbonio pam dewisodd mwyafrif o bleidleiswyr Prydeinig i adael yr Undeb Ewropeaidd.  Rhesymau economaidd – yr awydd i gadw swyddi a chodi cyflogau, i sicrhau masnachu rhwyddach gyda gweddill y byd, i wario rhagor ar y gwasanaeth iechyd.  Rhesymau gwleidyddol neu gyfansoddiadol – dymuniad i gael gwared ar dra-arglwyddiaethu gan gorff gor-rymus, neu i ‘adennill grym’.  Rhesymau a wnelo ddim yn uniongyrchol â’r UE, megis protest yn erbyn globaleiddio, neu yn erbyn ‘awsteriti’, neu yn erbyn colli rheolaeth dros fywydau pobl gyffredin.  A rhesymau llai parchus, senoffobia a hiliaeth yn eu plith.  Ond beth tybed oedd rôl ffactorau diwylliannol, ac yn arbennig iaith, yn y penderfyniad i gefnu ar y 27 gwlad sy’n agosaf inni’n ddaearyddol ac yn economaidd?

Ar 8 Mawrth yn Abertawe traddododd y cyfreithiwr a bardd Emyr Lewis ddarlith feistrolgar o’r enw Wales and Europe gerbron aelodau Sefydliad Brenhinol De Cymru ac eraill.  Roedd ei gwmpas yn eang.  Traethodd agweddau cyfreithiol, gwleidyddol ac economaidd ar Brecsit.  Tua’r diwedd soniodd am iaith, ac yn arbennig y bygythiad i ieithoedd lleiafrifol ym Mhrydain ar ôl gadael yr UE.  Yn Ewrop, lle mae digonedd o ieithoedd o’r math, mae traddodiad byw o amddiffyn ieithoedd, yn gyfreithiol ac yn ariannol, yn erbyn grym dall y farchnad rydd.  Yma yn y DU (neu yn Lloegr o leiaf) dyw’r meddylfryd hwn ddim yn bod, a does dim rheswm i gredu y bydd San Steffan yn datblygu hoffter at unrhyw iaith heblaw am Saesneg.

Ar ôl gwrando ar eiriau Emyr dechreuais i feddwl am ran bosibl iaith yn y penderfyniad yn y refferendwm.  Nid iaith yn unig chwaith, ond agweddau diwylliannol pobl yma tuag at wledydd eraill yn Ewrop.  Dywedir yn aml fod mwy ohonon ni nag erioed yn gyfarwydd â phobl a gwledydd y cyfandir, o achos ein bod yn cymryd ein gwyliau yna bron bob blwyddyn.  Ond a yw’n wir fod cwpwl o wythnosau yn yr haf ar arfordir Sbaen yn rhoi inni werthfawrogiad o ffordd o fyw wahanol, o ddiwylliant arbennig, neu o iaith arall?  Ac mae nifer o ffactorau eraill sy’n awgrymu ein bod ni’n gwybod llai am wledydd cyfandir Ewrop  nag yn y gorffennol.

Un o’r effeithiau o’r newid mawr sy wedi bod yn y ffordd mae pobl yn derbyn ei newyddion a gwybodaeth am faterion cyfoes yw bod llawer llai o adroddiadau yn ein cyrraedd am ddigwyddiadau a thueddiadau ar gyfandir Ewrop – yn yr UE ei hun ac mewn gwledydd unigol.  Cofiaf yn glir sut byddai nifer helaeth o bobl yma’n dilyn materion yn Ffrainc yn y chwedegau a’r saithdegau â diddordeb mawr; heddiw, er gwaethaf datblygiadau ar-lein, ychydig o newyddion sy’n cael ei adrodd inni am Ffrainc, oni bai bod digwyddiad erchyll, fel ymosodiadau gan eithafwyr Islamaidd. 

Yr eithriad i’r duedd hon yw newyddion am droseddau a hurtrwydd yr UE ei hun.  Am ddegawdau bu papurau asgell dde’n sianelu ffrwd gyson o straeon gwenwynig – Boris Johnson oedd un o’r prif bropagandwyr – er mwyn troi pobl yn erbyn yr EU yn ei gyfanrwydd.

Dim syndod felly bod arolygon er 1973 yn dangos bod neb yng ngwledydd yr UE sy’n teimlo’n llai ‘Ewropeaidd’ na Phrydeinwyr – a neb sy’n fwy anwybodus am yr UE.  Yn 2015 gofynnwyd tri chwestiwn syml i sampl o bobl o bob gwlad – un oedd ‘etholir aelodau o Senedd Ewrop yn uniongyrchol gan ddinasyddion pob gwlad: gwir neu anghywir? – a dim ond 27% o atebwyr o Brydain a lwyddodd i roi’r atebion cywir.

Mae gan iaith, byddwn i’n awgrymu, ran bwysig yn yr holl anwybodaeth a gelyniaeth hon gan Brydeinwyr tuag at Ewrop.  Ystyriwch y cwymp mawr mewn ‘ieithoedd modern’ yn ein hysgolion a phrifysgolion yn ystod yr ugain mlynedd ddiwethaf.  Rhwng 1996 a 2013 bu gostyngiad o 57% yn y nifer o blant a safodd Lefel A mewn Ffrengig yn Lloegr, a 59% yn Almaeneg.  Digwyddodd union yr un peth yma yng Nghymru.  Ychydig iawn o blant ysgol erbyn hyn sy’n astudio Ffrengig neu Almaeneg, heb sôn am Rwsieg (hyd y gwn i, does yr un ysgol yng Nghymru yn y system gyhoeddus lle mae Rwsieg yn cael ei dysgu).  I raddau cafodd ieithoedd modern, fel pynciau creadigol, eu gwasgu’n arw o dan bwysau gan bynciau ‘craidd’, sylfaenol fel mathemateg a Saesneg, yn unol â chyfarwyddiadau’r llywodraeth (daeth dysgu iaith fodern yn ddewisol yn hytrach nag yn hanfodol ar lefel TGAU yn Lloegr yn 2004).  Ond rheswm arall dros eu tranc oedd canfyddiad, gan blant, eu rhieni a’u hathrawon fel ei gilydd, bod meistroli iaith fel Sbaeneg neu Ffrengig nid yn unig in ‘anodd’ ond hefyd yn wastraff mewn byd oedd yn dod yn fwyfwy Saesneg ei iaith.

Yn naturiol, ni all ein prifysgolion dianc rhag y canlyniadau o’r cwymp mewn ysgolion.  Mae adrannau ieithoedd modern wedi cau neu wedi crebachu ymhobman bron, wrth i’r nifer o fyfyrwyr sy’n dewis astudio iaith Ewropeaidd fynd lawr o ryw 25% dros y pum mlynedd ddiwethaf (dim ond Sbaeneg sy’n sefyll yn erbyn y llif).  Daw llawer mwy o fyfyrwyr o dramor i astudio mewn prifysgolion ym Mhrydain o dan gynllun Erasmus nag sy’n mynd o’r wlad hon i weddill Ewrop.

Y canlyniad yw bod llai a llai o bobl ifanc bellach yn dysgu iaith arall neu’n dysgu am y bobl sy’n siarad ieithoedd eraill.  Siŵr o fod bydd oblygiadau i economi Prydain fydd yn dilyn, ond yr un mor ddifrifol yw’r effaith ar feddylfryd bobl (nid yn unig pobl ifanc).   Os nad ydych yn gwneud ymdrech i ddysgu iaith arall, os nad ydych yn meddwl bod ieithoedd neu ddiwylliannau eraill yn berthnasol ichi neu’n werthfawr i neb, fyddwch chi ddim yn debyg o ddeall ac uniaethu â gwledydd eraill a’u pobloedd.  Byddwch yn ddigon diogel ac ynysig yn eich unieithrwydd i allu dymuno i wledydd eraill Ewrop ddiflannu o’ch ymwybyddiaeth.

Beth am Gymru?  A oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod eich statws ieithyddol yn effeithio ar eich agwedd tuag at Ewrop?

Er mawr syndod i lawer o bobl pleidleisiodd mwyafrif (52.5%) o etholwyr yng Nghymru dros adael yr UE yn y refferendwm yn 2016.  Ond diddorol yw nodi dwy o’r ychydig siroedd lle roedd mwyafrif yn erbyn: Gwynedd a Cheredigion.  Hynny yw, yr ardaloedd sy’n cynnwys mwy o siaradwyr Cymraeg na’r siroedd eraill.  Nid yw’n bosibl profi dim byd, yn absenoldeb gwybodaeth gadarn am iaith y pleidleiswyr.  Ym marn un ystadegydd mae lle i gredu bod siaradwyr Cymraeg – pobl sy’n fwy tebyg o werthfawrogi pa mor bwysig yw ieithoedd a diwylliannau sy’n wahanol i Saesneg– yn fwy pleidiol i’r UE ac yn gyffredinol yn fwy Ewropeaidd eu hagwedd.  (Ond dangosa dadansoddiad manwl o’r pleidleisio yng Ngwynedd mai cyflwr economaidd etholwyr oedd yn fwy o ffactor nag iaith.)

Ac ar ôl inni ymadael?  Allwn ni ddisgwyl twf mewn agweddau sy’n hyd yn oedd yn fwy ‘Prydeinig’ a gwrth-Ewropeaidd?  A beth fydd yr oblygiadau i’r berthynas rhwng y gwahanol genhedloedd o fewn y DU?  Mae cryn dipyn o dystiolaeth anecdotaidd fod y nifer o ymosodiadau, ar lafar ac ar bapur, yn erbyn Cymry a’r iaith Gymraeg ar gynnydd – ymosodiadau gan bobl sy’n fwy hy, ar ôl y refferendwm, i leisio barn eithafol, ac sy’n teimlo fel petai ‘trwydded’ ganddynt i ddweud pethau atgas wrth bobl sy’n ‘wahanol’.

Her fawr fydd magu agweddau mwy positif tuag at Ewrop (a’r byd yn gyffredinol y tu hwnt i’r Unol Daleithiol) ar ôl torri ein cysylltiadau â’r UE.  Anos byth fydd annog pobl i feddwl bod ieithoedd heblaw am Saesneg yn werthfawr ac yn werth eu dysgu.

Leave a Reply