Y Llwybr Madyn, 30 mlynedd ymlaen

August 12, 2017 0 Comments

Y tro hwn, y syniad oedd cyrraedd copa Cadair trwy ddilyn y Llwybr Madyn.  (Angen arna i edrych yn y geiriadur i weld bod ‘madyn’ yn hen air am lwynog neu gadno – y ‘Fox’s Path’ yw’r fersiwn Saesneg.)

Dewis hollol naturiol oedd hwn, a hynny am ddau reswm.  Arhosais i’r noson gynt mewn B&B rhagorol o’r enw Tyddyn Mawr, sy’n digwydd bod yn agos i ddechau’r Llwybr Madyn (gyferbyn â gwesty Llyn Gwernan mae’r man cychwyn).  Wedi dihuno yn gynnar ddoe edrychais i trwy’r ffenestr ar y lleuad yn dechrau gwanhau uwchben llethrau Craig-las, a golau cyntaf y dydd yn ymddangos mewn awyr hollol las.

Llawer yn fwy personol oedd yr ail reswm.  Dim ond unwaith bues i ar y Llwybr Madyn o’r blaen – y tro cyntaf imi roi troed ar Gadair Idris – rywbryd yn yr wythdegau o’r ganrif ddiwethaf.  Fy nhad-yng-nghyfraith, Dr John Evans Caerfyrddin, oedd yn gyfrifol.  Yn ei bumdegau magodd e’r awydd i fynydda, wedi’i annog gan ei gyfaill Howard Lloyd (y mae ei lyfr Troedio Cymru yn dal i fod yn ddefnyddiol heddiw).  Daeth John a Margaret a fi yn y car un bore braf o Gaerfyrddin, a dyma ni’n dau’n cychwyn o Finffordd (‘Idris Gates’, yn ôl John) ar ochr ddeheuol y mynydd, tra bod Margaret yn hala’r diwrnod yn Nolgellau a’r cyffiniau.  Lan y grisiau serth â ni, trwy’r coed a llwythi tua’r tir agored o dan Fynydd Moel, ac wedyn ymlaen i Lyn Cau.  Dwi’n cofio carlamu ymlaen – dyn ifanc ystwyth a haerllug o’n i bryd hynny – gan adael John yn bell y tu ôl imi.  O’r diwedd daethon ni i Graig Cau, wedyn disgyn a dringo eto i Ben-y-gadair.  Ein cytundeb oedd cwrdd â Margaret yn y gwesty ar ymyl Llyn Gwernan, felly’r cam nesaf oedd mynd i lawr ar y Llwybr Madyn.

Y dyddiau hyn mae gan yr awdurdodau a’r arweinlyfrau ragfarn yn erbyn y Llwybr Madyn.  Mae’n llawn perygl, meddan nhw; ddylai neb ei ddilyn.  Ond dyw e ddim, wrth gwrs, yn fwy peryglus nag oedd e 30 mlynedd yn ôl, ac os ydych chi’n ddigon cryf a heini, ac yn ddigon gofalus, does dim angen ichi fecso.  Efallai fod agwedd y Parc Cenedlaethol ac eraill yn adlewyrchu’r naws wrth-risg sy’n gyffredin yn y byd sydd ohoni.  Ond gwnaeth rhywun awgrym arall wrtho i: fod swyddogion y Parc yn canolbwyntio eu wardeniaid ar ochr arall Cadair ac yn dymuno sianelu’r rhan fwyaf o gerddwyr trwy Finffordd.  Ta waeth am hynny, mae’r cyngor yn effeithiol, yn ddigon lwcus imi: ni welais i’r un enaid byw rhwng gadael Llyn Gwernan a chyrraedd copa Pen-y-Gadair.

Mae’r rhan gyntaf o’r Llwybr yn nefolaidd.  Dringo’n raddol wna i, yn heulwen y bore cynnar, trwy lwyni a rhedyn, tu heibio i hen waliau sych, ac ar draws nentydd bychain.  Daw murfwlch enbyd Cadair i’r golwg, ac mae’n amlwg na fydd y baradwys yma’n mynd i barhau am hir.  Yn sydyn iawn dych chi’n dod ar draws Llyn Gafr.  Llygad o ran ffurf yw hwn, gyda dwythell ddagrau ar un pen.  Ar ei ymyl mae rhimyn, fel masgara, o rug yn ei lawn flodau. Yn yr awyr tawel does dim symud ar wyneb y dŵr.  Nesaf, i fyny llethr mwy serth, a digwydd yr un profiad eto: heb rybudd dych chi ar ben y bryn a bron yn cerdded yn syth i mewn i Lyn y Gadair.  Pwll mwy yw hwn, yn eistedd yn llonydd yng nghrombil Pen-y-Gadair a Chyfrwy.  Eto mae wyneb y dŵr yn ei ganol fel drych, yn adlewyrchu’r mynydd yn berffaith.  Does dim sŵn, heblaw am gwacian hwyaden ar yr ochr arall, a siffrwd cryf uwch fy mhen – adenydd cigfran unig yn hwylio ar draws ochr y mynydd.

Amser i godi, a throi at y llethr sgri hir sy’n rhoi ei enw drwg ar y Llwybr.  Dau beth sy’n peri problemau, hyd yn oed i bobl gorfforol iawn: llethr serth a chreigiau ansad.  Yn aml mae’n anodd ymddiried yn eich sodlau: gall eich sgidiau lithro’n rhwydd wrth ichi symud eich pwysau a’r cerrig bach yn dechrau disgyn.  Mor ddwys yw’r ymdrech i ddringo fel bod y galon yn rhuthro, a’r pen yn gwynegu, a’r chwys yn diferu er bod y tymheredd wedi disgyn.  Does dim dewis ond aros bob dau funud, eistedd, a chael eich gwynt atoch chi.  Does dim arwydd o lwybr clir erbyn hyn.  Tua’r pen mae’r llethr yn dod yn fwy serth byth, a dyma fi’n sylweddi fy mod i wedi methu dilyn cyngor blogwyr y Llwybr, trwy beidio â chadw at y chwith.  Mae’r daith yn anos nag y dylai hi fod.  O’r diwedd daw’r sgri i ben, a does dim angen defnyddio eich dwylo bellach er cadw’n ddiogel.  Mae llwybr clir yn ailymddangos.  Cyn hir dych chi ar y llwyfandir o dan gopa greigiog Pen-y-Gadair. 

Ar y dibyn dwi’n sefyll ac edrych yn ôl, ac yn ceisio dwyn i’r cof ein taith i lawr y Llwybr Madyn dros 30 mlynedd yn ôl.  Roedd mynd lawr y sgri yn brofiad gwahanol iawn i ddod i fyny, ond un oedd llawn mor heriol ac anodd.  Mae gennyf frith gof o hanner-redeg i lawr y sgri – nid yn ddi-hid, ond llawer yn llai gofalus a di-ofn nag y byddwn i heddiw.  Bryd hynny byddai’r corff yn gwybod beth i’w wneud, yn reddfol.  Heddiw, alla i ddim ymddiried ynddo yn llwyr.  A fydd pen-glin yn methu heb rybudd?  Os anela i’r troed at garreg o’m mlaen i, a fydd e’n cyrraedd?  Rhaid bod corff John – roedd e’n dipyn yn iau nag ydw i nawr – yn ufuddhau’n ffyddlon, oherwydd inni gyrraedd Llyn y Gadair yn ddiogel, a cherdded yn llawen i lawr tua’r gwesty ger Llyn Gwernan, lle roedd Margaret a diodydd yn aros amdanon ni.

Taith hudol oedd y croesiad hwnnw o Gadair Idris: cyflwyniad i fynydd sy wedi dod yn annwyl iawn imi dros y blynyddoedd, a chyfle i rannu profiad dwys gyda dyn roeddwn i yn ei edmygu’n fawr iawn.  Bu’r daith i fyny’r Llwybr Madyn yn ffordd o ail-fyw’r profiad gwreiddiol, a thalu teyrnged ar draws y blynyddoedd. 

Ar ôl y diwrnod disglair hwnnw doedd dim llawer o gyfleoedd eraill i John Evans gerdded ar y mynyddoedd.  Daeth y canser cyntaf, a chyfres o lawdriniaethau, a chyfnodau o salwch.  Buodd e wastad yn un oedd yn hoff o ‘enthusiasms’ – gwneud jin eirin, ymchwilio Syr Lewis Morris, pysgota plu, tyfu planhigion yn ei dŷ gwydr – ond sychodd pob brwdfrydedd cyn y diwedd.

Ar y copa roedd sawl grŵp o gerddwyr.  Rholiodd cymylau ar draws pen y mynydd.  Roedd y myfyrio ar ben.  Cerddais i nôl ar hyd y Llwybr Pilin Pwn (‘Pony Path’) – llwybr troellog, hawdd a braidd yn undonog.  Ar adegau gosodir stepiau carreg ar ei hyd, sy’n dod â rhyw olwg drefol i’r ffordd.  Erbyn hyn, ddechau’r prynhawn, roedd minteioedd o deuluoedd a’u cŵn yn gorymdeithio i fyny.  Doedd dim rheswm i oedi, a rhuthrais i lawr tua’r cwm, yn sboncio i lawr y cerrig fel llanc ifanc.

Leave a Reply