‘Cymru mewn 100 gwrthrych’

Mae’r llyfr Cymru mewn 100 gwrthrych yn adrodd sawl hanes am Gymru.

Man cychwyn pob hanes yw gwrthrych sydd i’w weld rywle yng Nghymru ac sydd ar agor i’r cyhoedd – mewn amgueddfa, archifdy, llyfrgell neu yn yr awyr agored. Gall edrych ar wrthrychau, a meddwl amdanynt, fod yn ffordd fywiocach o fynd i afael â hanes na gwrando ar ddarlithydd neu ddarllen llyfr hanes arferol.

Dewiswyd y gwrthrychau oherwydd eu hamrywiaeth. Bydd rhai’n gyfarwydd, eraill yn anhysbys. Dônt o bob cyfnod o hanes a chynhanes Cymru. Fe’u crëwyd ym mhob cwr o’r wlad. Tynnir llawer ohonynt o’r casgliadau cenedlaethol, Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ond daw eraill o sefydliadau lleol ar draws Cymru. Mae pob math o ddeunydd yma, gan gynnwys offer ac arfau, paentiadau a cherfluniau, tlysau a dillad, tecstilau a chelfi, darnau arian a phapurau punnoedd, cofebion a delweddau, mapiau a phlaniau, llawysgrifau a llyfrau, recordiau ac offerynnau cerdd, crochenwaith a llestri, lluniau a phosteri, teganau a doliau, baneri a bathodynnau.

Ymhlith y gwrthrychau yw:

  • pen byrllysg seremonïol o’r oes Neolithig o Faesmor
  • cwpan pren Nanteos, yn gysylltiedig ag Abaty Ystrad Fflur
  • murlun canoloesol o Angau a’r Dyn Ifanc o Eglwys Llancarfan
  • pamffled Cymraeg gwrthgaethwasiaeth o 1792
  • tri phistol yn eiddo i’r arweinydd Siartaidd John Frost
  • cap rhyngwladol a enillwyd gan y seren bêl-droed gynnar Billy Meredith
  • bathodynnau o streic y glowyr yn 1984-85


Rolant Dafis a dynnodd y lluniau trawiadol yn y llyfr, ac Andrew Green fu’n gyfrifol am y testunau a’r cyflwyniad. Ar gefn y gyfrol mae map a rhestr o’r sefydliadau, a mynegai llawn.

Andrew Green
Cymru mewn 100 gwrthrych
Ffotograffau gan Rolant Dafis
Llandysul: Gomer, 2018
222 tudalen
ISBN 978 1 78562 144 4
£19.99

 

 

 

‘Mae’r gyfrol eithriadol o ddeniadol ac apelgar hon yn wledd arbennig iawn i’r llygad a’r meddwl.  Mae’n glod enfawr i argraffwyr ymroddedig dawnus Gwasg Gomer, a bydd yn sicr yn dal ei hapêl am flynyddoedd lawer i ddod … Mater o fympwy personol yw dewis ffefrynnau o blith y fath drysorfa gyfoethog o eitemau wrth gwrs.  Ond cefais i fy swyno’n arbennig iawn gan y llun o arfbais Owain Glyndŵr, siarter bwrdeistref Dinbych sydd yn dyddio o’r flwyddyn 1506, tudalen deitl Yny lhyvyr hwnn …, 1546, sef y llyfr printiedig cyntaf erioed a argraffwyd yn yr iaith Gymraeg, a map Humphrey Llwyd o Gymru o’r flwyddyn 1573.’

John Graham Jones
Y Cymro
Tachwedd 2018


‘Wrth gyflwyno’i ddetholiad o wrthrychau i ddarlunio hanes Cymru, o’r cyfnod Neanderthal hyd heddiw, pwysleisia Andrew Green mai ei ddewisiadau personol ydynt.  Ac er y byddai dewisiadau detholwyr eraill yn wahanol, hawdd yw edrych y tu hwnt I fympwyon yr awdur am iddo ymgymryd â gwaith mor aruthrol … mae hon yn gyfrol hardd, ac mae ffotograffau atynnol Rolant Dafis yn rhoi’r un parch a phwysigrwydd i fwg craciog ag i gorbel cain o Briordy Hwlffordd.’

Ruth Richards
O’r Pedwar Gwynt
Gaeaf 2018


‘Dyma lyfr eithriadol o hardd … Pobl ddewr sy’n mentro ar brosiect o’r math hwn. Pwy fydd yn cytuno cant y cant â’r dewisiadau? Pa egwyddorion ddylai fod yn eu meddwl? A oes rhaid dewis gwrthrychau sydd ar gael heddiw yng Nghymru, neu a oes modd croesi Clawdd Offa? A ddylent ddewis gwrthrychau mwyaf adnabyddus ein hanes? Mae Andrew Green yn dewis dilyn prif egwyddor Neil MacGregor: rhaid i bob gwrthrych ddweud stori. Ceir pethau o fyd diwylliant a diwydiant o bob math, bron – llyfrau, lluniau, llestri, mapiau, delwau, dodrefn, posteri, teganau plant – mae’r amrywiaeth yn ardderchog, a’r straeon yn dda.

Wrth gwrs mae pethau cyfarwydd ymhlith y cant, megis arfbais Owain Glyndŵr neu Feibl William Morgan. Ond mae lliaws o bethau anghyfarwydd – annisgwyl yn wir, megis y model car Corgi o Fforest-fach. Mae hanes y tegan bach yn gysylltiedig ȃ ffoadur Iddewig o’r Almaen, ȃ’r Ail Ryfel Byd a gwaith merched, a chyda’r diwydiant ceir yng Nghymru. Difyr yw gweld ambell wrthrych yn cynrychioli arian: arian o fathdy Aberystwyth (yn cynrychioli pwysigrwydd mwynfeydd plwm ac arian) a thocynnau metel o Fynydd Parys (y diwydiant copr a’i berthynas ȃ’r fasnach gaethion).

Mae gwrthrychau diddorol eraill yma am eu bod wedi eu darganfod yn ddiweddar, megis tancard Langstone, a ddarganfuwyd yn 2007 i’r dwyrain o Gasnewydd, neu’r darn brethyn o’r ynys artiffisial yn Llyn Syfaddan (Glan-y-gors), a ddaeth i’r golwg yn 1990, fwy na mil o flynyddoedd wedi iddo fynd ar goll. Adroddir hanes rygbi gyferbyn ȃ ‘Groggs’ o reng flaen enwog Pont-y-pŵl yn hytrach na lluniau mwy cyfarwydd o Cliff Morgan neu Barry John. Cynrychiolir oes y cyfrifiadur yng Nghymru gan lun o Raspberry Pi, oherwydd fe’u gwneir yn awr ym Mhencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr, er bod y llun o fodel cynnar a wnaethpwyd yn Tseina.

Problem barhaus i haneswyr Tywysogion Cymru yw diffyg gwrthrychau personol, heblaw beddrod yr Arglwydd Rhys yn Nhyddewi. Yr arfer yw cynnwys lluniau o gestyll perthnasol, ond ceir llun annisgwyl i gynrychioli Llywelyn Ein Llyw Olaf. Hynny yw, nid cofeb Cilmeri, ond arysgrif hynod David Jones, ‘Cara Wallia Derelicta’. Annisgwyl efallai – ond dewis trawiadol!’

Gerald Morgan
gwales.com