cymraeg

Cymru annibynnol: un arall o blaid

July 31, 2020 0 Comments
Cymru annibynnol: un arall o blaid

Pwy ydych chi?  I ba wlad ych chi’n perthyn? Am flynyddoedd, os digwyddodd rhywun holi – a gwrthod derbyn tawelwch, neu’r ateb ‘dinesydd y byd’ – fy ateb fu ‘Prydeiniwr’.  Albanes oedd fy mam.  Daeth fy nhad o Swydd Efrog, a bues i’n byw yn Lloegr tan yn 21 mlwydd oed.  Cymru fu fy nghartref […]

Continue Reading »

Cymru a W.G. Sebald

June 12, 2020 0 Comments
Cymru a W.G. Sebald

Cyhoeddodd W.G. Sebald Austerlitz, ei nofel olaf (os mai nofel yw hi) yn Almaeneg yn 2001.  Pan ddaeth y fersiwn Saesneg allan yn 2002, roedd yn syndod i ddarllenwyr yma i ddarganfod mai Cymru yw un o’i phrif leoliadau, mewn llyfr sy’n crwydro dros rannau helaeth o gyfandir Ewrop.  Hanes dyn o’r enw Jacques Austerlitz […]

Continue Reading »

Covid-19: pam mae Prydain mor drychinebus?

May 8, 2020 0 Comments
Covid-19: pam mae Prydain mor drychinebus?

Erbyn hyn mae’n amlwg fod Prydain yn dioddef o’r pla yn waeth nag unrhyw wlad yn Ewrop.  Amlwg hefyd mai esgeulustod llywodraeth y DU yw un o’r prif resymau.  Ei methiant i ymateb i’r firws yn brydlon.  Ei methiant i ddarparu offer ar gyfer unedau triniaeth ddwys, a dillad i warchod pawb oedd mewn cyswllt […]

Continue Reading »

Ar ôl Covid-19: beth?

April 3, 2020 0 Comments
Ar ôl Covid-19: beth?

Dyw’r firws ddim eto wedi cyrraedd ei anterth.  Ond eisoes mae llawer o sylwebwyr yn edrych ymlaen at y cyfnod ôl-Govid-19 ac yn gofyn y cwestiwn, a fydd pethau’n hollol newydd, yn ein bywyd cyhoeddus, ar ôl i’r afiechyd gilio, neu, a fydd popeth yn dychwelyd i’r patrymau a fu?  Mae’n gwestiwn da. Y man […]

Continue Reading »

Darllen: a oes argyfwng?

March 7, 2020 0 Comments
Darllen: a oes argyfwng?

Ar 7 Mawrth dathlon ni Ddiwrnod y Llyfr unwaith eto, gyda digwyddiadau mawr mewn ysgolion, siopau llyfrau a  llyfrgelloedd.  Ond ar drothwy’r ŵyl, cyhoeddodd y National Literacy Trust (NLT) adroddiad brawychus sy’n dangos bod darllen er pleser wedi dirywio yn sylweddol unwaith eto yn y DU. Dim ond 25.8% o blant a phobl ifanc (oedran […]

Continue Reading »

Llangeitho mewn lluniau

February 7, 2020 0 Comments
Llangeitho mewn lluniau

Digwydd bod yn Llangeitho y dydd o’r blaen, ac yn y pentrefan gerllaw, Capel Betws Lleucu.  Pentref digon tawel yw Llangeitho heddiw, ac fe welais neb bron ar y strydoedd.  Ond ganrif a hanner yn ôl roedd pethau’n wahanol: llawer mwy o bobl yn byw a gweithio yn yr ardal, llawer mwy o Gymraeg i’w […]

Continue Reading »

Gwirionedd

December 15, 2019 0 Comments
Gwirionedd

Ffordd ddigon cyffredin o ganmol llyfr yw dweud pethau fel ‘allwn i ddim ei roi i lawr tan y diwedd’, neu ‘darllenais i’r nofel hon mewn prynhawn, roedd hi mor afaelgar’.  Nid felly y darllenais i Gwirionedd, nofel gyntaf Elinor Wyn Reynolds.  Ar ôl cwpwl o dudalennau doedd dim dewis ‘da fi ond rhoi’r llyfr […]

Continue Reading »

Sebon glan, sebon budr

October 11, 2019 0 Comments
Sebon glan, sebon budr

Daeth newyddion da o Lyfrgell Genedlaethol Cymru‘r wythnos yma: bod y Llyfrgell wedi prynu un o’r ddau fersiwn gwreiddiol o’r llun dyfrlliw enwog Salem gan Sydney Curnow Vosper, cyn arwerthiant yng Nghaerdydd.  Mae’n hollol briodol bod llun a ddisgrifir yn aml fel ‘eicon’ o gelf Gymreig yn cael cartref parhaol mewn sefydliad diwylliannol cenedlaethol.  Fel […]

Continue Reading »

Hanesion coll

September 7, 2019 0 Comments
Hanesion coll

Yn ôl adroddiad yn Golwg yr wythnos ddiwethaf, mae ymchwilydd yn honni fod haneswyr wedi llwyr anghofio am un o ddiwydiannau mawr Cymru, mwyngloddio am blwm ac arian yn y Canolbarth.  Ac mae’n ymddangos bod Ioan Lord hefyd yn cyhuddo prifysgolion yng Nghymru o beidio â rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio hanes diwydiannol y wlad […]

Continue Reading »

Cymru fydd: ysbryd newydd ar droed?

August 10, 2019 0 Comments
Cymru fydd: ysbryd newydd ar droed?

Yn ôl arolwg barn a gyhoeddwyd ddydd Llun diwethaf mae mwyafrif o bobl yr Alban bellach yn cefnogi ail refferendwm ar annibyniaeth i’w gwlad.  Prin fod y newyddion hyn yn syndod.  Ers sbel mae’r nifer sydd o blaid torri’n rhydd o San Steffan yn cynyddu’n raddol, a’r gred gyffredinol oedd bod ‘etholiad’ Boris Johnson yn […]

Continue Reading »