Brwydr hir Rachel Barrett
Mae’n ddigon hysbys mai mudiad dosbarth canol, ar y cyfan, oedd y mudiad i ennill y bleidlais i ferched yn y DU yn ystod y blynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cryfder oedd hyn i’r graddau fod gan yr ymgyrchwyr y sgiliau a’r hyder i ymgyrchu, a mynediad i rwydweithiau cymdeithasol dylanwadol. Ond golygodd absenoldeb aelodau o’r dosbarth gweithiol na fyddai’n hawdd i’r mudiad dyfu i fod yn fudiad torfol.
Yng Nghymru roedd factor arall: yr iaith Gymraeg. Merched uniaith Saesneg oedd y rhan fwyaf o’r rhai mwyaf gweithgar yng Nghymru, ar yr asgell radical o’r mudiad, fel y Women’s Social and Political Union (WSPU) a’r Women’s Freedom League, ac aelodau’r prif gorff cyfansoddiadol, y National Union of Women’s Suffrage Societies. Roedd hi’n anodd iddynt gyfleu eu neges yn uniongyrchol i gynulleidfa Gymraeg ei hiaith.
Eithriad oedd merch o Gaerfyrddin o’r enw Rachel Barrett – ymgyrchydd nodedig iawn sydd erbyn hyn yn dechrau derbyn y clod mae hi’n ei haeddu.
Aelod o’r dosbarth canol, heb os, oedd Rachel, ond Cymraeg oedd iaith yr aelwyd. Ann Barrett (née Jones) oedd ei mam. Tirfesurydd a pheiriannydd oedd ei dad, Rees Barrett, ond buodd ei farw pan oedd Rachel yn bedair oed. Ar ôl cyfnodau yng Nghaerfyrddin a Llandeilo Fawr, anfonwyd hi i ffwrdd i ysgol fonedd breswyl yn Stroud. Ar ôl graddio ym Mathemateg a Gwyddoniaeth yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth, daeth Rachel yn athrawes, yn Llangefni, yng Nghaerfyrddin, ac wedyn ym Mhenarth. Yna, yn 1906, ar ôl clywed Nellie Martel yn annerch rali yng Nghaerdydd, ymunodd â’r WSPU a dechrau siarad yn gyhoeddus dros yr achos. Gadawodd hi’r ysgol – neu cafodd hi ei diswyddo o bosib oherwydd ei gwaith dros y WSPU – a symud i Lundain i gychwyn ar radd bellach yn yr LSE. Ond yn fuan iawn penodwyd hi yn weithwraig lawn amser i’r WSPU. Roedd y gwaith hwn mor llafurus a dwys fel iddi gael chwalfa nerfol, a gorfod gorffwyso am fisoedd.
Yn 1907 daeth hi nôl i Gymru i fod yn un o arweinwyr Cangen Casnewydd y WSPU. O fan hyn teithiai ar hyd a lled Cymru gan siarad mewn cyfarfodydd cyhoeddus, yn aml trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn 1910 aeth hi i ogledd Cymru ac ymunodd â grŵp o ymgyrchwyr a gyfarfu â David Lloyd George yn ei gartref yng Nghricieth. Ar ôl cyfarfod angerddol, dwy awr o hyd, roedd hi’n ‘fwy argyhoeddedig nag erioed o’i wrthwynebiad i’r WSPU a rhagrith ei gefnogaeth i’r bleidlais’.
Yn fuan wedyn daeth Rachel yn drefnydd yr WSPU yng Nghymru. Erbyn hyn roedd hi’n flaenllaw ac yn adnabyddus yn y WSPU trwy Brydain, ac yn 1912 penodwyd hi’n olygydd papur newydd y mudiad, The Suffragette. Tasg anodd oedd hon, a hynny am ddau reswm: roedd Rachel ‘yn gwybod dim byd am newyddiaduraeth’, chwedl hithau, ac roedd y llywodraeth wastad yn chwilio am esgus i wahardd y papur. (Ar y ffôn, meddai hi, gallai glywed y ‘clic’ o Scotland Yard yn gwrando ar ei sgwrs.) Ond daliai hi ati i siarad yn aml yn gyhoeddus. Ym mis Gorffennaf 1912 siaradodd hi ar yn un platfform ag Alice Abadam, merch arall o Sir Gâr, yn Hyde Park yn Llundain, ar ran y Cymric Suffrage Union, cymdeithas Cymry Llundain a anelodd ei neges hefyd yn arbennig at siaradwyr Cymraeg ledled Cymru. Hefyd, roedd gan Rachel awydd i ddogfennu gwaith y mudiad etholfraint i ferched trwy dynnu lluniau (mae sawl enghraifft yn Amgueddfa Llundain).
Erbyn 1913 daeth tactegau’r WSPU yn fwy eithafol, gan brocio ymateb ymosodol gan y llywodraeth. Ar 30 Ebrill gwnaeth yr heddlu gyrch ar swyddfeydd The Suffragette, ac arestio nifer o ferched, gan gynnwys Rachel. Cafodd hi’n euog o wneud difrod i eiddo ac annog eraill i wneud yr un peth. Y ddedfryd ooedd naw mis yn y carchar. Aeth hi ar streic newyn ar unwaith, a arweiniodd at batrwm parhaol o ryddhau, ail-arestio, rhyddhau ac ail-arestion o dan ddeddf ffiaidd ‘Cath a Llygoden’ y llywodraeth. Erbyn diwedd y flwyddyn roedd hi’n cadw ei hun o’r golwg ac yn golygu The Suffragette yn gudd. Yn 1914 aeth hi i fyw i Gaeredin, dan y ffugenw ‘Miss Ashworth’, a mynd â swyddfeydd y papur gyda hi.
Daeth ymgyrchu’r WSPU i ben yn syth ar ôl dechrau’r Rhyfel yn Awst 1914, ond parhaodd Rachel i siarad yn gyhoeddus, yn arbennig am ferched a chyflogaeth. Aeth hi nôl i ddysgu mewn ysgol uwchradd.
Ond roedd pennod newydd o’i bywyd ar fin agor. Cyn y rhyfel roedd hi wedi cwympo mewn cariad â nofelydd o Awstralia o’r enw Ida Wylie. Bu Ida yn swffragét, a helpodd Rachel gyda’r gwaith o olygu The Suffragette. Yn 1917 aeth y ddwy ar daith hir, anturus iawn mewn car trwy’r Unol Daleithiau, o Efrog Newydd i San Francisco. Yn ei hunangofiant, My life with George, mae Ida yn disgrifio rhan o’r trip, a sut, yn nes ymlaen, daeth ei nofelau’n sail i nifer o ffilmiau Hollywood. Buont yn byw gyda’i gilydd am gyfnod yng Nghalifornia. Yn 1928 cefnogodd y ddwy Radclyffe Hall, ar ôl iddi hi gael ei chyhuddo o anlladrwydd yn ei nofel am gariad rhwng merched, The well of loneliness. Ar ôl i’r berthynas ag Ida ddod i ben, dychwelodd Rachel i Loegr, a buodd hi farw yn 1953.
Yn ôl Annie Kenney, cyd-syffragèt oedd yn ei nabod hi’n dda, roedd Rachel Barrett yn ‘fenyw eithriadol glyfar a dysgedig iawn … gweithwraig ymroddgar’, ac mae’n amlwg hefyd ei bod hi’n ferch hynod benderfynol a dewr. Fe wnaeth hi gyfraniad sylweddol i’r mudiad i ennill yr hawl i bleidleisio i ferched, yn y DU ac yng Nghymru, ac yn haeddu cael ei chofio yma. Codwyd plac glas iddi hi yn Morley Street Caerfyrddin yn 2018, ac un arall yn Alan Road, Llandeilo Fawr ym mis Gorffennaf 2021. Ond mae ei bywyd mor lawn ac amrywiol, a’i chymeriad mor eithriadol fel bod achos da dros fynd gam yn bellach, a gwneud ffilm amdani, neu hyd yn oed cyfansoddi opera …
Prynhawn da
Rydwyf wedi trefnu plac er cof amdani, wedi ei osod lan ar dy yn Alan Rd, Llandeilo. Os ydych chi yn cerdded lan y llwybr troed o’r orsaf , fe welwch chi fe ar wal y 4 ty ar y chwith! Gosodon ni fe yn ei le nol ym mis Awst.