Trais yn y pentra

May 20, 2022 0 Comments

Yn gynnar yn Afal drwg Adda, hunangofiant Caradog Prichard, daw brawddeg sy’n codi ael y darllenydd:

Hyd yma [canfod ei fam yn mynd yn ffwndrus] yr oeddwn yn eofn a hunan hyderus, yn ymladdwr ffyrnig ac wedi ennill enw fel tipyn o fwli yn yr ysgol ac ymhlith hogiau’r ardal.

Yn ôl pob sôn, cymeriad mwyn a hynaws oedd yr awdur fel oedolyn, er ei fod yn isel ei ysbryd ar adegau, a hoff o’i ddiod.  Mae’n anodd dychmygu Prichard y bachgen fel un a fyddai’n brwydro a chwffio a gormesu ei gyfoedion ym Methesda, amser y Rhyfel Byd Cyntaf.  Ond eto, o’n safbwynt ni heddiw, mae’n anodd dychmygu cymdeithas lle roedd trais personol mor gyffredin fel bod pawb bron yn y gymuned yn ei dderbyn fel un o amodau bywyd.

Heddiw, gwallgofrwydd a rhywioldeb yw’r prif nodweddion sy’n taro rhywun gan amlaf wrth ddarllen Un nos ola leiaf, y nofel gyhoeddodd Caradog Prichard yn 1961.  Ond yr un mor drawiadol yn y testun yw’r edafedd o drais sy’n rhedeg yn gyson trwyddo: trais swyddogol, trais fel cosb, trais sydyn a damweiniol, trais heb reswm, trais hunanddinistriol.

O’r cychwyn cyntaf, yn y bennod gyntaf, cawn weld pa mor dreisgar yw bywyd yn y pentref.  Yn yr ysgol gynradd mae’r bechgyn yn cael cweir gan yr athro:

Nid arna ni oedd y bai pan ddaru Preis Sgŵl ein stido ni.  Mewn tempar ofnadwy oedd o trwy’r bora.  Ond pan ddaeth o’n ôl o Blw Bel ar ôl amser chwara a’i wynab o’n groch fel cratsian yr aeth o o’i gof, a dechra waldio pawb.  Digwydd bod ar ffordd ei bastwn o ddaru Huw a finna.

Mae’n wir fod Y Bachgen (dienw) sy’n adrodd y stori yn annibynadwy o ran ei naratif, ac o bosib mae’n cuddio euogrwydd y bechgyn, ond does dim amheuaeth nad yw trais o’r fath yn gyffredin mewn ysgolion o’r cyfnod.  Yn nes ymlaen cawn enghraifft o drais eithafol o fewn y teulu.  Mae’r Bachgen a’i ddau gyfaill, Moi a Huw, yn ymweld â thŷ Mam Moi, lle mae hi ac ‘Yncl Now Moi’ yng nghanol ffrwgwd.  Yn ddisymwth mae Yncl Now Moi yn codi o’i gadair, ysgubo’r bwyd a phopeth o’r bwrdd, ac yn ymosod ar Fam Moi:

Dyma ni’n tri yn cerddad yn ôl yn slo bach at y drws, a be welson ni ond Yncl Now Moi yn gafael yn ei gwallt hi efo’i law chwith a dal ei phen hi’n ôl nes oedd ei gwddw hi i gyd yn y golwg, a braich Mam Moi amdano fonta run fath â phetasan nhw’n ddau gariad, a’r gyllath frechdan yn sownd yn ei dwrn hi, ac yntau wedi cael gafael yn y twca oddiar y dresal efo’i law dde, a’i flaen o ar ochor gwddw Mam Moi, run fath â Joni Edwart Bwtsiar yn stico mochyn pan aethom ni i’r llad-dy ddoe i ofyn am swigan.

Ac o fewn ychydig dudalennau eraill dyma’r tri ffrind yn dystion i fath arall o drais, ymladdfa yn y stryd – ‘brwsiwch lats, medd Huw, ffeit sydd yma’ –  rhwng dau ddyn, Now Morus Llan a Bob Robaits Ceunant, ‘yn waldio ei gilydd fel wnibê’.  Y tro yma mae’r Bachgen yn nodi’r effaith emosiynol arno o wylio’r olygfa hon: ‘Dew, mi eis i grynu fel deilan, ac yn sâl eisio taflyd i fyny.’  Math arall o drais cyhoeddus ar y stryd yw bocsio.  Daw Jonni Sowth i’r pentref a herio’r dynion lleol i ymladd yn ei erbyn mewn lle bocsio y tu ôl i’r Blw Bel; bob tro, o flaen cynulleidfa, gan gynnwys y bechgyn, mae e’n eu ‘peltio’.

Yn aml mae trais corfforol ac ansefydlogrwydd meddwl yn mynd law yn llaw.  Yn nes ymlaen yn y stori mae Yncl Now Moi yn crogi ei hun, a chawn sawl achos arall o hunanladdiad.  Y profiad mwyaf arswydus i’r Bachgen yw dod o hyd i gorff gwaedlyd Wil Elis Portar, y tu ôl i doiledau’r ysgol.  Mae’n ceisio esbonio’r hyn a welodd:

Oeddwn i’n siarad fel melin am bod siarad yn gneud imi stopio crynu, a finna ddim eisio dangos i’r hogia mod i wedi dychryn.  Ac oeddwn i’n teimlo eisio taflyd i fyny bob tro oeddwn i’n stopio siarad.

Cysylltiad arall yw’r un rhwng trais a thlodi.  ‘Yn dlawd ymhlith tlodion’ oedd disgrifiad Prichard o orfod byw ‘ar y plwy’ ym Methesda, pentref oedd yn dioddef o’r diweithdra a’r dirwasgiad ar ôl diwedd y Streic Fawr yn Chwarel y Penrhyn.  Mae’r bechgyn yn gwylio wrth i Catrin Jên a’i heiddo gael ei daflu allan o’i chartref i’r stryd achos nad yw hi’n gallu fforddio talu’r rhent.

Gan fod gweithio yn Chwarel y Penrhyn yn hynod beryglus, digwydd marwolaethau a damweiniau erchyll yn aml.  ‘Wyt ti’n meddwl’, gofynna’r Bachgen, ‘y caiff Gryffudd Ifas Bach fynd i’r Nefoedd a fonta wedi hollti’i ben pan gafodd o ei ladd ar Bonc Rhiwia?’  (Cafodd tad Caradog Prichard ei ladd yn y chwarel pan oedd Caradog ond pum mlwydd oed.)

Mae’r Rhyfel Byd Cyntaf ar ei anterth yn ystod y rhan gyntaf o’r nofel, ac yn rheolaidd cawn ein hatgoffa o gost ddynol y gwrthdaro: Bob Bach Sgŵl, John Elwyn, mab Canon, ‘yr hen Elwyn Pen Rhes druan’ a Guto, cefnder y Bachgen.  Ar adeg dadorchuddio cofeb newydd i’r meirwon darllena Huws Person restr hir o’r enwau o filwyr y pentref sy wedi marw ar faes y gad.  Erbyn diwedd y Rhyfel bydd pum deg wedi colli eu bywydau.

Heddiw mae marwolaeth, ar y cyfan, yn rhywbeth sy’n digwydd i bobl oedrannus, ac yn digwydd y tu ôl i’r llenni.  Ond i blant ganrif yn ôl roedd hi’n beth amlwg, gweladwy.  Gwahoddir Huw, Moi a’r Bachgen i mewn i dŷ Mam Now Bach Glo, i weld corff marw Em, ei mab, yn gorwedd ‘ar y soffa yn i arch’. Chwilfrydedd, yn hytrach na dychryn, yw ymateb y bechgyn y tro yma: maen nhw’n rhyfeddu ar fysedd hir y corff, a phen ei geg ‘wedi crychu i gyd run fath â tasa fo wedi eisio diod am yn hir’.

Yn olaf, mae math gwahanol o drais, efallai’r trais gwaethaf i’r Bachgen: colli ei fam i’r Seilam yn Ninbych ar ôl iddi hi ddioddef chwalfa feddyliol lwyr.  Mae gorfod ffarwelio iddi yn y Seilam yn achosi argyfwng sydyn iddo, a galar afreolus:

A wedyn dyn fi’n dechra crio.  Nid crio run fath â byddwn i erstalwm ar ôl syrthio a brifo; na chaith run fath â byddwn i’n crio mewn ambell i gnebrwng; na chaith run fath ag oeddwn i pan aeth Mam adra a ngadael i yn gwely Guto yn Bwlch erstalwm.
Ond crio run fath â taflyd i fyny.
Crio heb falio dim byd pwy oedd yn sbïo arnaf fi.
Crio run fath â tasa’r byd ar ben.

Dyna oedd union yr ymateb gafodd Caradog Prichard, yn ôl ei hunangofiant, ar ôl gadael ei fam e yn y Seilam:

Cofiaf ddychwelyd i Lanrwst, ar ôl y daith ofidus i Ddinbych, yn dychryn ac yn dagrau.  Mi es yn syth o’r Stesion i Gaffi Gwydyr, ll’r oeddwn yn aros ar y pryd … a rhoi fy mhen ar y bwrdd a chrïo, tuchian crïo’n ddistaw, a heb eto ddod ataf fy hun ar ôl profiad alaethus y dydd.

Beth am y Bachgen ei hun, a’i agwedd tuag at drais?  Mewn trafodaeth am Jonni Sowth, medd Huw wrtho, ‘Ond wyt ti’n gwffiwr da, neu fasat ti ddim wedi medru rhoid cweir i Joni Casgan Gwrw’.  ‘Ia’, ateba’r Bachgen, ‘ond cwffio oedd hynny, nid bocsio … taswn i’n medru bocsio’n iawn, fasa gen i ddim ofn dim byd wedyn’.  Iddo e, felly, bocsio yw bathodyn, fel petai, o fod yn ddyn llawn.  Ar ddiwedd y bennod, gofynna’r Bachgen i’w mam – un o ddim ond dau sôn am ei dad yn y llyfr – ‘oedd Tada’n medru bocsio pan oedd o’n hogyn ifanc?’

Ond mae’n glir erbyn diwedd y llyfr bod trais a marwolaeth, a’r colledion sy’n dod yn eu sgil, wedi cael effeithiau echrydus ar feddwl y Bachgen.  Er eu bod yn digwydd mor gyson, ac yn peidio â bod yn achos syndod iddo, eto mae impact cynyddol y digwyddiadau erchyll hyn yn siglo ei feddwl ei hun – i’r fath raddau fel ei fod yn lladd Jini Bach Pen Cae mewn ymosodiad afreolus ar ddiwedd y llyfr: digwyddiad sy’n uno trais a rhyw mewn un weithred drychinebus.  (Hynny yw, os ydych chi’n derbyn bod y digwyddiadau yn y bennod hon yn real: mae achos dros feddwl eu bod yn real dim ond yn nychymyg Y Bachgen.)

Heddiw, dyn ni’n arfer byw mewn cymdeithas, yn y wlad hon o leiaf, sy’n gymharol heddychlon.  Ar y cyfan, mae trais corfforol, yn y teulu ac ar y stryd, yn annerbyniol.  (Yn anffodus mae rhyfeloedd yn dal i fod yn bla cyffredin ar lawer iawn.)  Ond ganrif a mwy yn ôl, byddai’r holl gymuned yn gyfarwydd iawn â thrais o bob math – gyda chanlyniadau difrifol i iechyd meddwl llawer o bobl.  Nid y bechgyn drygionus sy’n ‘gyrru pobol y pentra ma o’u coua’, wedi’r cwbl; ‘nhw sy’n mynd o’u coua’ oherwydd y pwysau annioddefol sy’n deillio o dlodi affwysol a thrais cyson.

Leave a Reply