Tlodi, nawr a ddoe
Beth yw tlodi? Am flynyddoedd bellach fe’i diffinnir yn y wlad hon fel ‘tlodi cymharol’. Hynny yw, dych chi’n dlawd os ydych chi’n derbyn incwm sy’n 60% yn is nag incwm cyfartal pobl eich cymuned. Dyw hi ddim yn syndod clywed fod tlodi o’r math hwn yn cynyddu ers blynyddoedd, wrth i anghyfartaledd godi, a mwy a mwy o bobl, gan gynnwys pobl sy’n gweithio llawn amser, yn colli arian sylweddol mewn cymhariaeth â phobl eraill.
Ond beth am yr hen syniad o dlodi – tlodi absoliwt, neu yn hytrach amddifadrwydd (‘destitution’ yn Saesneg)? Mae’n dod yn glir erbyn hyn bod nifer cynyddol o bobl y wlad, gan fod prisiau bywyd, ynni a bron popeth arall yn cynyddu’n aruthrol ac yn sydyn, yn wynebu sefyllfa lle dyn nhw ddim yn gallu fforddio byw. Maen nhw’n gorfod dewis p’un ai i fwydo eu teulu neu gadw’r tŷ’n gynnes. Mae llwyddo i wneud y ddau’n amhosibl.
Yn amlwg dyw atgyfodiad tlodi eithafol ddim yn poeni’r rhai sydd mewn grym. Wedi’r cyfan, nhw – pobl fel Iain Duncan Smith – oedd yn gyfrifol am ddylunio system newydd o gymorth cymdeithasol sy’n rhannol gyfrifol am y broblem. Y rhai eraill sy’n poeni’n arw am dlodi yn ofni ein bod yn prysur ddychwelyd i oes y Frenhines Fictoria o ran maint amddifadrwydd yn y wlad, ac agweddau swyddogol difater tuag ato.
Yng Nghymru does dim prinder tystiolaeth am effeithiau tlodi enbyd ar bobl gyffredin yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond prin fod hanes mwy ysgytwol na hunangofiant Richard Thomas (Ap Vychan), a gyhoeddwyd tua 1882 fel rhan o Cofiant a thraethodau diwinyddol y Parch R. Thomas, Ap Vychan, y Bala. Ysgrifenna Ap Vychan mewn dull plaen, diaddurn, heb ronyn o hunandosturi. Teitl ei gofiant yw ‘Cofnodion byrion am rai o’r amgylchiadau yn hanes fy mywyd sydd yn fwy adnabyddus i fy hunan nag ydynt i bobl eraill’. Yn oedolyn daeth Thomas i fod yn bregethwr parchus adnabyddus trwy Gymru – mae O.M. Edwards yn ei gynnwys yn ei lyfr dylanwadol Cartrefi Cymru – ond ychydig o bobl fyddai wedi gwybod am gyni eithafol ei fywyd yn blentyn.
Ganed Richard Thomas yn 1809 ym Mhennantlliw-bach, ger Llanuwchllyn. Ei rieni oedd Mary Roberts a David Thomas. Tyddynnwr a labrwr oedd ei dad. Cofiodd am ei fam fel ‘dynes gref, iachus, galonnog, siriol dros ben, weithgar, a gofalus am ei theulu’. Roedd deg o blant yn y teulu. Tŷ Coch oedd enw eu cartref, ‘y tŷ agosaf i’r mynydd, ac felly yr oedd ein chwareuon plentynnaidd yn gyffredin yn dal perthynas â phethau pob dydd amaethwyr a bugeiliaid’.
Wrth i’r teulu dyfu, daeth Tŷ Coch yn rhy fach, a chafodd tad Richard ganiatâd gan asiant ‘Syr Watkin’ i ailadeiladu adfail gerllaw o’r enw Tanycastell fel cartref newydd. Aeth y rhieni i drafferthion ariannol: ‘dechreuodd y byd caled ac enbyd a ddilynodd ryfeloedd mawrion dechreuad y ganrif bresennol, wasgu yn drwm ar bob graddau, a darostyngwyd ninau, fel llaweroedd, i afaelion tlodi a chyfyngderau dirfawr.’ Swllt y dydd oedd unig incwm y teulu yn y gaeaf.
Dygwyddodd i ni gael ychydig o faip, a berwai ein mam y rhai hynny mewn dwfr, ac a’u rhoddai i ni i’w bwyta gyda y dwfr y berwasid hwynt ynddo, ac nid oedd ganddi ddim oedd well iddi ei hun, er fod un bychan yn sugno ei bron ar y pryd! Yr wyf yn cofio ei bod yn wylo am ei bod yn gorfod rhoddi i ni ymborth mor wael. Gwelais hi yn prynu rhuddion i’w wneud yn fara i ni. Gwingem ein goreu rhag tlodi, ond y cwbl yn ofer. Y prif beth a feddem i ymddibynnu arno oedd cyflog fy nhad; ond bob yn ychydig, dysgasom ni, y plant, wau hosanau i’w gwerthu, ac enillem drwy hyny ryw ychydig. O’r diwedd, cymerwyd fy nhad a’m mam, a’r teulu oll, yn afiach gan glefyd trwm. Buom felly yn hir iawn, a bu raid i ni gael cymorth plwyfol y pryd hwnnw.
Roedd bod ‘ar y plwyf’ yn fwy o gosb nag o gymorth, oherwydd gosodwyd rhyw fath o ‘prawf moddion’ llym ar y teulu:
Yr oedd gan fy rhieni y pryd hwnnw wely plyf da; ond gan ein bod ar y pryd yn cael cymorth plwyfol, daeth Overseer y plwyf, a’i fab gydag ef, i’n tŷ ni, a thynasant y gwely odditan fy nhad, yr hwn oedd i olwg ddynol ar y pryd bron a marw, a’i synhwyrau yn dyrysu yn fawr, gan rym tanllyd y clefyd, a gwerthasant y gwely i ddyn o’r ardal oedd ar gychwyn i America, a gosodwyd fy nhad i orwedd ar wellt. Yr oeddwn i yn dechreu gwellau y pryd hwnnw, ac yr wyf yn cofio gweled yr Overseer hwnw, gyda pherffaith ddideimladrwydd, yn myned â’r gwely ymaith. Mae gan ei fab blant, a chan un o’r rhai hyny blant hefyd. Na ddeued un o honynt byth i amgylchiadau mor gyfyng â’r rhai yr oeddym ni fel teulu tlawd ac afiach ynddynt y pryd hwnw; a phe deuent, na fydded iddynt gael ymddwyn tuag atynt mor galed a didosturi ag y cafodd fy rhieni ymddwyn tuag atynt yn yr amgylchiad dan sylw.
Gwellhaodd yr aelodau o’r teulu, ond parhaodd y cyni. Doedd dim cwestiwn o’r plant yn mynd i ysgol. Bu raid i Richard a’i chwaer Margaret wau hosanau, casglu brwyn, a chen (lichen) o gerrig ar y mynydd, i’w werthu ‘am geiniog a dimau y pwys’. A mwy na hynny: rhaid iddynt gerdded yn bell er mwyn cardota a chodi arian:
Bu Margaret a minnau yn cardota drwy rannau uchaf Meirion. Cysgem weithiau mewn tai, ac weithiau mewn ysguboriau, a dychrynwyd ni yn fawr unwaith mewn ysgubor lle y troisem i gysgu. Rhyw sŵn sisial a’n dychrynodd ni. Rhywrai tebyg i ninau oedd wedi troi i mewn, ond odid, am gysgod. Codasom ni, pa fodd bynnag, ac aethom allan mor ddystaw ag y gallem, ac ymaith â ni, ac ni orphwysasom nes cyrhaedd ein cartref, er fod i ni filldiroedd lawer o ffordd, naw o leiaf. Bu Evan, sydd yn awr yn Meifod, a minnau mor bell ag Aberystwyth ar daith gardotawl. Yr oedd gennym Feibl bychan a llyfr hymnau i’w darllen, ac i ddysgu allan o honynt, yn ein hysgrepan. Heblaw hyny, yr oedd gennym ledr, hoelion, mynawyd, edau grydd, a morthwyl bychan, tuag at drwsio ein clocs, ac edau a nodwydd tuag at drwsio ein dillad, pan fyddent mewn angen am hyny. Nid oedd fy mrawd ar y pryd ond wedi gadael ei ddegfed flwydd, na minnau ond wedi gadael fy wythfed flwyddyn, ac yn gyrru ar fy nawfed. Go ieuainc oeddym i fyned yn mhell oddicartref.
Yn raddol daeth tro ar fyd y bachgen. Yn ddeng mlwydd oed cafodd swydd yn fugail ar fferm gyfagos. Cafodd e hefyd beth addysg anffurfiol gan ei dad ac eraill, gan gynnwys Michael D. Jones, gweinidog yr Hen Gapel, a dysgodd elfennau barddoniaeth Gymraeg. Yn 1826 daeth yn brentis i Simon Jones, gof o Lôn, Llanuwchllyn, diolch i grant a roddwyd iddo o gronfa Dr Daniel Williams, drwy law Michael D. Jones. Gweithiai e wedyn yng Nghorwen, Tredegar a Dowlais, cyn penderfynu dod yn bregethwr.
Dyn ffodus, felly, oedd Richard Thomas, ac anarferol. Lwcus i dderbyn addysg a gofal gan oedolion hael, a lwcus i allu goresgyn amgylchiadau cyfyng iawn yn blentyn, a ffeindio ei ffordd yn y byd, ar adeg pan nad oedd llawer o gymorth gan y gymdeithas i liniaru effeithiau tlodi llethol.
O edrych yn ôl o safbwynt heddiw, bu’r ganrif rhwng tua 1870 a 1970 yn un hollol eithriadol yn ein hir hanes: yr unig gyfnod pan oedd cred gyffredinol ar led bod tlodi yn wir gyfrifoldeb i’r wladwriaeth ac i bawb yn y gymdeithas, yn hytrach nag anffawd bersonol neu gosb am ddiglemdod neu ddigwyddiad anweladwy. Ers y 70au, yn raddol, rydym wedi dychwelyd i’r patrwm traddodiadol. Mae llywodraethau, ac, i raddau helaeth, y gymdeithas, wedi colli’r rhagdybiaeth bod tlodi’n warthus mewn cymdeithas war a bod cyfrifoldeb gan bawb i’w leihau.
Bydd rhagor o blant tebyg i Richard Thomas yn y dyfodol, mae’n siŵr, a llawer llai lwcus nag e, fydd yn methu gwireddu eu potensial oherwydd diffyg adnoddau.