cymraeg
Hanesion coll
Yn ôl adroddiad yn Golwg yr wythnos ddiwethaf, mae ymchwilydd yn honni fod haneswyr wedi llwyr anghofio am un o ddiwydiannau mawr Cymru, mwyngloddio am blwm ac arian yn y Canolbarth. Ac mae’n ymddangos bod Ioan Lord hefyd yn cyhuddo prifysgolion yng Nghymru o beidio â rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio hanes diwydiannol y wlad […]
Cymru fydd: ysbryd newydd ar droed?
Yn ôl arolwg barn a gyhoeddwyd ddydd Llun diwethaf mae mwyafrif o bobl yr Alban bellach yn cefnogi ail refferendwm ar annibyniaeth i’w gwlad. Prin fod y newyddion hyn yn syndod. Ers sbel mae’r nifer sydd o blaid torri’n rhydd o San Steffan yn cynyddu’n raddol, a’r gred gyffredinol oedd bod ‘etholiad’ Boris Johnson yn […]
Yn erbyn Sioe Awyr Abertawe
Dros y Sul yma daw sŵn byddarol i’r awyr uwchben Bae Abertawe. Yn ôl trefnwyr y Sioe Awyr, Cyngor Abertawe, ‘bydd perfformiadau erobatig trawiadol ac awyrennau hen a chyfoes unwaith eto’n gwefreiddio cannoedd ar filoedd o ymwelwyr’. Y disgwyl yw y bydd dros 250,000 o bobl yn bresennol. Honnir y bydd y Sioe yn dod […]
Offa a’r Cymry
Offa, brenin Mercia, a fu farw yn y flwyddyn 796, yw’r unig frenin Eingl-sacsonaidd y mae ei enw yn rhan o fyd ieithyddol Cymru. A hynny am un rheswm yn unig, oherwydd ei gysylltiad â ‘Chlawdd Offa’. Gan ein bod ni ar fin taclo’r Clawdd ar droed, neu o leiaf y rhan ddeheuol ohono, meddyliais […]
Abaty Cymer, abaty dirgel
Faint o weithiau dych chi’n gyrru’n gyflym ar hyd yr A470 o Lanelltud tua Dolgellau, gan anwybyddu’r lôn fach i’r chwith, yn syth ar ôl croesi afon Mawddach, sy’n arwain at Abaty Cymer? Y dydd o’r blaen ymwelais â’r Abaty am y tro cyntaf. O’r maes parcio, tro bach yw e lawr i’r afon, a’r […]
‘Y tu mewn’ T.H. Parry-Williams
Yr ysgrif fyrraf gan T.H. Parry-Williams yn ei gasgliad Lloffion (1942) yw ‘Y tu mewn’. Y fyrraf, ond nid yr ysgafnaf. Mae iddi ddau fan cychwyn: sylw ar ddau air Cymraeg (‘perfedd’ ac ‘ymysgaroedd’), a delwedd weledol: … aeth modurwr hwnnw dros gyw bach melyn ac aros i edrych ar yr alanas a chydymdeimlo â’i […]
Dilyn Iolo
Bore mwyn, di-haul o Ionawr, a dyma bedwar ohonon ni’n cychwyn ar Daith Gerdded Treftadaeth Iolo Morganwg. Taith gylchol o ryw bedair milltir a hanner yw hon, un o gyfres o deithiau cerdded wedi’u dyfeisio gan Gyngor Bro Morgannwg, gyda help Valeways, Ramblers Bro Morgannwg a’r Undeb Ewropeaidd (cofio hwnnw?). Taith berffaith ar gyfer canol […]
‘Llyfr Glas Nebo’: dystopia/wtopia
Pan ofynnodd Cymru Fyw i nifer o lenorion yn ddiweddar am enwebu’r llyfrau y bydden nhw’n eu dethol i’r hosan ’Dolig, un llyfr safodd allan: Llyfr Glas Nebo, nofel fer gan Manon Steffan Ros a enillodd y Fedal Ryddiaith eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Bu 2018 yn flwyddyn aur i’r nofel Gymraeg, debyg iawn. Ar […]
Cymru yn cynhesu
Ydy, mae’n digwydd Erbyn hyn does dim amheuaeth. Datganodd yr IPCC (UN International Panel on Climate Change) y mis yma fod tymheredd y blaned yn rhwym o godi’n sylweddol. Y brawddegau allweddol yn yr adroddiad yw’r rhain: Amcangyfrir bod gweithgareddau dynol wedi achosi tua 1.0°C o gynhesu byd eang yn uwch na lefelau cyn-ddiwydiannol … […]
Sgythia
Pe bawn i’n nofelydd hanesyddol, byddwn i’n meddwl dwywaith cyn dewis Dr John Davies Mallwyd fel ffigwr canolog fy llyfr. Ysgolhaig oedd John Dafis (Davies) – yr ysgolhaig disgleiriaf o oes y Dadeni yng Nghymru, ac un o’n hysgolheigion amlycaf erioed. Ei brif gampau oedd diwygio Beibl William Morgan a chyhoeddi gramadeg a geiriaduron Cymraeg […]