cymraeg
‘Fabula’: Llŷr Gwyn Lewis a Borges

Nôl ym mis Gorffennaf, yn siop lyfrau Palas Print yng Nghaernarfon, fe brynais i gasgliad newydd Llŷr Gwyn Lewis, Fabula. Dim ond ddoe y dechreuais ei ddarllen. Fel darllenydd confensiynol, penderfynais i gychwyn gyda’r darn cyntaf yn y gyfrol, ‘Hydref yw’r gwanwyn’. Mae iddo is-deitl, ffug-academaidd, ‘fabula, historia ac argumentum yn yr Ariannin’, sy’n eich […]
Y Llwybr Madyn, 30 mlynedd ymlaen

Y tro hwn, y syniad oedd cyrraedd copa Cadair trwy ddilyn y Llwybr Madyn. (Angen arna i edrych yn y geiriadur i weld bod ‘madyn’ yn hen air am lwynog neu gadno – y ‘Fox’s Path’ yw’r fersiwn Saesneg.) Dewis hollol naturiol oedd hwn, a hynny am ddau reswm. Arhosais i’r noson gynt mewn B&B […]
‘The Llanboidy molecatcher’ gan James Lewis Walters

Sylwais i ar y llun am y tro cyntaf llynedd. Ar y pryd roeddwn i’n chwilio am bethau eraill yn Amgueddfa Sir Gâr, yn hen Balas yr Esgob yn Abergwili. Hongiai’r llun yn swil, mewn lle anamlwg y tu ôl i ddrws. Ei destun eithriadol ac arddull medrus a ddenodd fy llygad gyntaf. Arhosodd y llun […]
Llygad crwtyn, llygad dyn: David Jones yn Rhos

Dair wythnos yn ôl cerddais i heibio i gapel bychan S. Trillo yn Llandrillo-yn-Rhos, heb sylweddoli mai’r llecyn hwn oedd y cyflwyniad cyntaf i Gymru i’r bardd a’r artist David Jones. Daw’r wybodaeth hon mewn llyfr mawr newydd gan Thomas Dilworth sy’n dilyn bywyd a gwaith David Jones. Cymro oedd ei dad, Jim Jones, argraffydd […]
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Dyma destun anerchiad i Gynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a gynhaliwyd yn y Neuadd Fawr, Prifysgol Abertawe ar 8 Mawrth 2017. Bum mlynedd ar hugain yn ôl des i i Brifysgol Abertawe, neu Goleg y Brifysgol Abertawe fel yr oedd hi ar y pryd, i fod yn gyfrifol am ei Llyfrgell – syndod mawr, […]
Y Garn Goch

Bûm yna am y tro cyntaf rhywbryd tua diwedd y 1970au. Cofiaf ddilyn y lôn gul, droellog o wastatir afon Tywi, i fyny’r rhiw o bentref Bethlehem, cyn parcio’r car ar droed y llwybr. Cofiaf hefyd y waliau cerrig sychion yn amgylchynu’r ddau fryn, yn ddiamddiffyn i’r gwyntoedd o’r gorllewin – neu’n waeth, gwyntoedd dwyreiniol […]
Blwyddyn Chwedlau Cymru

I’r swyddogion yn Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am baratoi cynlluniau i ddenu twristiaid i Gymru, mae ‘diwylliant’ Cymru yn broblem y mae hi bron yn amhosibl dod i afael â hi. Y prawf diweddaraf o hynny yw’r ymgyrch bresennol Blwyddyn Chwedlau Cymru. Llynedd oedd ‘Blwyddyn Antur’, a ‘Blwyddyn y Môr’ oedd hi yn 2018: pynciau […]
Cynulliad neu Senedd?

Yn ddiweddar iawn cyhoeddodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wahoddiad inni leisio ein barn am gynnig i newid enw’r Cynulliad. Ei dadl yw bod y Cynulliad, dros y bymtheg mlynedd a mwy ers ei sefydliad, yn haeddu enw sy’n fwy urddasol a chywir na’i enw presennol, wrth i’r pwerau sy ganddo gynyddu (bydd […]
Y £5 newydd: ymlaen i’r gorffennol

Yr wythnos ddiwethaf cyrhaeddodd fy mhapur pum punt newydd cyntaf. Ychydig ddyddiau cyn hynny derbyniais i trwy’r post The new Fiver, taflen (uniaith Saesneg – er bod fersiwn Cymraeg ar gael) gan Fanc Lloegr sy’n ceisio esbonio’r newid a rhoi cysur i’r cyhoedd. Rhaid imi gyfaddef, yn anaml iawn y byddwn i’n aros am eiliad […]