Be welwch chi o gopa Cader?
Llynedd, am y tro cyntaf ers blynyddoedd, methais i ddringo i gopa Cadair Idris. Sa i’n gwbod pam. Covid a’i ofidiau, siŵr o fod, neu absenoldeb meddwl, neu ohirio oherwydd pwysau eraill. Ond, o edrych yn ôl, dwi’n teimlo rhyw fwlch bach yn fy mywyd, rhyw rwyg yn yr edafedd o lwybro rheolaidd ar y mynydd sy’n ymestyn nôl i’r nawdegau.
Am y tro bydd rhaid bod yn fodlon ar lyfrau ar Gader a mynyddoedd eraill Cymru. Yn ddiweddar cyhoeddwyd dwy gyfrol debyg yn Gymraeg ar y pwnc: clawr caled, llawn lluniau da, testunau o safon. Copaon Cymru (2017) yw detholiad o 48 o deithiau cerdded gan aelodau Clwb Mynydda Cymru. Ynddi cawn fap bach o’r teithiau, disgrifiad byr o’r llwybrau, ac ambell nodyn cryno ar hanesion a mytholeg y mynyddoedd – yn achos Cadair, straeon am Idris Gawr a gorchestion Owen Glynne Jones ar greigiau’r Cyfrwy. Dyma gyfrol olygus, awdurdodol.
Ar y wyneb mae 100 Cymru: y mynyddoedd a fi yn llyfr sy’n agos iawn i Copaon Cymru yn ei wedd a’i amcan. Ond, er ei fod yn cynnwys teithiau tebyg, eto gyda mapiau bach a disgrifiadau, cawn yma ddarlun llawer mwy personol. Dyn amryddawn yw Dewi Prysor – saer maen, bardd, cerddor, nofelydd, ymgyrchydd a mwy – ac mae’n dod â llwyth o’i brofiadau bywyd i’r testun, sy’n cynnig gwerthfawrogiad o’r mynyddoedd, mae’n siŵr, ond hefyd meddyliau sy’n cychwyn o’r ucheldiroedd ond wedyn yn hedfan i bob cyfeiriad.
Mae Dewi’n dechrau trwy barcio ei ‘fan fach ddu’ ar ymyl y ffordd tua phen Cwmrhwyddfor, a dringo Mynydd Gwerngraig, copa dwyreiniol Cadair, gyda’r nod o gerdded ar hyd y crib i gyd tua’r gorllewin. Wedi cyrraedd copa Mynydd Moel, mae’n aros i fwynhau’r golygfeydd sy’n ymestyn i bob cyfeiriad. Gall Dewi roi enw ar bob mynydd yn y pellter, ynghyd a’r trefi a’r pentrefi islaw. Gallaf wneud yr un peth i raddau, ar ôl cerdded yn y parthau hyn am flynyddoedd lawer – ond mae ’na wahaniaeth rhwng Dewi a fi. Daw fy ngwybodaeth i, yn rhannol o leiaf, o fapiau a llyfrau a ffrindiau a ffynonellau eraill ail-law. Ond mae Dewi yn gyfarwydd â phob llecyn yn uniongyrchol, ar ôl cael ei geni a magu yn yr ardal (ger Trawsfynydd mae Cwm Prysor) a thrwy deithio ar bob mynydd a drwy bob cwm yn gyson ar hyd ei fywyd.
Yn fwy na hynny, gall Dewis gysylltu bron pob lle sydd i’w weld o gopa Mynydd Moel â’r bobl – ei gyfeillion ac aelodau o’i deulu – a hanesion ac atgofion eraill sy’n aros yn ei gof:
Un o’r pethau gorau am fod ar ben mynydd ydi gallu gweld ein lle yn y wlad. Mae ’na rywbeth cyntefig a hynafol iawn am y berthynas rhwng rhywun â’i filltir sgwâr, ond mae gweld lle mae’r cwm neu’r cwmwd ble gest di dy fagu yn gorwedd ym mhatrwm y tirlun a’r dirwedd yn ddim llai na syfrdanol.
O’r mynydd mae Dewi’n medru adnabod ugeiniau o lefedd sy’n gyfarwydd iddo e am resymau personol iawn: lle buodd e’n gweithio, neu’n canlyn, neu’n derbyn croeso a chymorth, neu’n cael parti a hyd yn oed ‘ffeit’, neu’n priodi a magu plant. Ac yn aml cysylltir y gwahanol safleoedd hyn gydag emosiynau cryfion: ‘atgofion melys, y brawdgarwch, y llawenydd a’r tristwch, colled a hiraeth’. Dros y tir islaw gall e dracio rhwydwaith o gysylltiadau teuluol:
Teulu Nain ochr fy nhad o Ardudwy (Harlech, gan fwyaf), o le y daeth hi i Gwm Prysor a phriodi Taid, a chwaer fawr fy nhaid yn symud i Ardudwy i weithio a phriodi a magu teulu yno. Gweld Llyn Cynwrch a Moel Offrwm yn fy atgoffa bod Magi, chwaer arall i Taid, wedi gwreiddio yn Llanfachreth. Teulu taid ochr fy mam, wedyn, wedi crwydro i, ac o, Lanuwchllyn, Llangwm, Cwm Main, Dinas Mawddwy, Brithdir, Rhydymain a Dolgellau a channoedd o lefydd eraill.
Nid ‘rhwydwaith’ yw term Dewi ar gyfer y dolennau hyn, ond ‘ffwng’, peth byw sy’n ymledu dros y dirwedd: ‘mae ’na dipyn o fadarch ymhob un ohonon ni. Oui, je suis un petit champignon.’
Mae Dewi Prysor, felly, tra ei fod yn sefyll ar dop Mynydd Moel a throi i bob cyfeiriad, yn gweld pethau sy’n anweladwy i fi, a’r rhan fwyaf o ddringwyr eraill.
Parhau i gerdded ar hyd crib y Gadair mae Dewi, ar draws Pen-y-gadair a’r Cyfrwy tuag at y Tyrrau Mawr. Yma, mae’n edrych lawr i’r gogledd a gweld rhywbeth ar y tir sy’n gwbl newydd imi. Dyma’r hen ffordd – dim ond llwybr troed mewn rhannau erbyn heddiw – sy’n cysylltu Dolgellau â Llanegryn a Llwyngwril. Ei henw yw’r Ffordd Ddu. Mae’n osgoi afon Mawddach a’r arfordir trwy gadw at yr ucheldir, gan basio y tu heibio i Lynnoedd Cregennan. Heb os mae’r Ffordd Ddu’n dyddio nôl i’r Oes Efydd o leiaf, gan fod nifer sylweddol o garneddau, meini hirion a bryngaerau yn goroesi yn yr ardal. Ar unwaith ychwanegais i’r daith hon i’m rhestr o lwybrau cerdded ‘i’w gwneud’.
Felly diolch, Dewi Prysor, am agor llygaid y dringwr hwn, oedd yn meddwl, ar gam, ei fod yn adnabod Cader a’i chyffiniau’n dda.
Diolch o galon am y blog, mae’n meddwl llawer i mi. Gobeithio dy fod wedi cael cyfle i fynd am Cader unwaith eto. Rydw i’n teimlo ein bod ni’n dau yn frodyr mynyddol wrth i ti sgwennu’r blog hwn, a’r ddau ohonom yn gwerthfawrogi yr ucheldir.
Diolch o galon. Dewi
Helo Dewi
Diolch am y geiriau caredig. Do, ces i gyfle i fynd i Gader ers hynny, fis Medi llynedd – yn y niwl: https://gwallter.com/travel/wandering-in-meirionnydd.html
Rwy ti’n llawer gwell mynyddwr na fi, ond, rhaid dweud, dros y blynyddoedd mae Cader wedi dod yn fyw fath o obsesiwn – i’r fath raddau fel fy mod i’n dechrau cynllunio llyfr newydd ar y mynydd – fel mae’n cael ei weld gan artistiaid a llenorion. Syniad da?
Andrew.