Tair cerdd gan Guillaume Apollinaire

February 4, 2022 0 Comments

Pont Mirabeau

O dan bont Mirabeau rhed afon Seine
Ac ein serchau
Oes rhaid imi ddwyn i’m cof
Llawenydd wastad yn dilyn y dolur

Dechrau nosi taro’r cloc           
Treigla’r dyddiau sefyll wna i

Law yn llaw arhoswn wyneb yn wyneb
Tra dan y bont
Ein breichiau ymhlyg
 tremiau hir ton flinedig

Dechrau nosi taro’r cloc           
Treigla’r dyddiau sefyll wna i

Ymadawa cariad fel y ffrwd islaw
Ymadawa cariad
Pa mor araf symuda bywyd
Pa mor dreisgar ydy gobaith

Dechrau nosi taro’r cloc           
Treigla’r dyddiau sefyll wna i

Mynd heibio mae’r dyddiau a’r wythnosau
Ni ddaw nôl yr amser a fu
Ni ddychwel serch
O dan bont Mirabeau rhed afon Seine           

Dechrau nosi taro’r cloc           
Treigla’r dyddiau sefyll wna i

Annie

Ar arfordir Tecsas
Rhwng Mobile a Galveston y mae
Gardd fawr a rhosynnau’n rhemp
Ynddi ceir tŷ crand
Sef un rhosyn mawr

Yn aml dyma ferch yn rhodio
Yn yr ardd ar ei phen ei hun
Ac wrth imi basio ar y ffordd â phisgwydd bob ochr
Edrychwn ni ar ein gilydd

Gan mai merch Memnonaidd yw hon
’Sdim botymau ar ei rhosod nac ar ei dillad
A chan fod dau fotwm ar goll oddi ar fy siaced
Perthyn y fenyw a fi i’r un cymun bron

Saltimbanques / Diddanwyr crwydrol

Ar draws y gwastadedd daw’r diddanwyr
Ar grwydr yn ymyl y gerddi
O flaen drysau’r tafarnau llwyd
Drwy bob pentref heb eglwys

Y plant sy’n mynd gyntaf
Y lleill mewn breuddwyd yn dilyn
Plyga pob coeden ffrwythau
I gydnabod eu harwydd o bell

Mae ganddynt bwysau crwn neu sgwâr
Tambyrddau a chylchynnau aur
A’r arth a’r mwnci creaduriaid craff
Yn hel ceiniogau wrth ochr y ffordd

Henri Rousseau, The muse inspiring the poet [Marie Laurencin and Guillaume Apollinaire] (1909) (Kunstmuseum, Basel)

Eleni mae llawer yn dathlu dechrau moderniaeth ganrif yn ôl: yn 1922 cyhoeddwyd The waste land gan T.S. Eliot a Ulysses gan James Joyce.  Ond mewn gwirionedd ganed moderniaeth, mewn celf a llenyddiaeth, cyn y Rhyfel Byd Cyntaf.  Un o’r beirdd cyntaf ‘i wneud pethau’n newydd’,  i ysgrifennu mewn ffordd hollol ffres ac arbrofol, oedd Guillaume Apollinaire, yn ei lyfrau Alcools (1913) a Calligrammes (1918).  Bu farw yn 1918.

Ysgrifennodd Apollinaire ‘Le Pont Mirabeau’ ar ôl diwedd ei berthynas â’r artist Marie Laurencin.  ‘Annie’ oedd Saesnes ifanc o’r enw Annie Playfair, un o’i gariadon eraill. Teithiodd e i Lundain i’w gweld, yn ofer, a mudodd hi i’r Unol Daleithiau. Doedd hi ddim yn gwybod dim am enwogrwydd Apollinaire, nac am y cerddi ysgrifennodd e amdani, tan 1962.

Mae’n bosibl clywed llais Apollinaire yn darllen ‘Le Pont Mirabeau’ mewn recordiad o 1913.

Jean Cocteau, Guillaume Apollinaire (1917)

Leave a Reply