Rhwng dau fae

March 17, 2022 3 Comments

1 Concrit

Llwybr newydd sbon, ei wynebau goncrit yn sgleinio wedi’r glaw.  Aeth y peiriannau mawr a’u dannedd rhwygol wythnos yn ôl.  Clwyf yn ymagor ar yr allt.  Cerrig drylliedig a thalpiau mawr o fwd ar chwâl, yn ddi-hid, ar y naill ochr a’r llall.  Faint o amser cyn bydd glesni’n dechrau ail-feddiannu’r llethr?  Sbel eto, mae’n siŵr.  Teimlo’r briw mae’r llwyni a’r prysg.  Teimlo’r dolur o hyd.

Cwestiynau.  Oes rhaid arllwys concrit, tunnell ar ôl tunnell, i godi’r draffordd hon i droedwyr? Maestrefoli’r arfordir?  Dangos i’r llethrau pwy yw’r meistri nawr?  Daw’r atebion swyddogol nôl yn hawdd: ‘diogelwch’; ‘gwell hygyrchedd’, ‘tidy, ond yw e?’.  Ond beth yw’r pris, tybed?

Sŵn y môr ychydig yn dawelach nag oedd e ar yr hen lwybr.  Dim golwg chwil i’r cerrig gwlyb islaw, dim peryg marwolaeth ochr arall i’r rêlins.  Sawl blwyddyn o ddiogelwch y mae’r concridwyr wedi eu prynu?  ‘Sdim ots, daw’r môr.  Ei archwaeth farus.  Yn y pen draw sut gall concrit, waeth pa mor solet y bore yma, wrthsefyll ymosod y tonnau?

2 Morlo

‘Drycha!  Morlo!’

Sefyll ar dop y trwyn a syllu.  Dyna fe, triongl du gloyw, rhyw bum deg metr o’r creigiau.  Rhy bell o’r lan i fod yn garreg bigog.  Symud bydd e?  Diflannu?  Os felly, morlo yn sicr.  Anarferol eu gweld mewn tywydd stormus, y môr mewn trybini.  Yn yr haf, wyneb y môr yn wastad, dyna pryd maen nhw’n dod ’ma.  Hof o hamddena, agosach i’r tir.  Fel pe baen nhw’n moyn sgwrsio â ni.

Hunan-dwyll.  Credai Ahab, yn ei wallgofrwydd, fod ei elyn mawr, y Morfil Gwyn, yn ffraeo ag e ar draws cefnfor y byd ac yn gweiddi am ei waed.  Na, beth yw bodau dynol i’r morloi?  Maen nhw’n gwybod gormod amdanon ni eisoes.  Ein plastig yn troelli, ein carthion yn melynu’r dŵr.

Diflannu o’r golwg mae’r anifail.

3 Sgwrs

‘Bore da, shwt rwyt ti?’

Corff tenau.  Gwallt du ar draws ei hwyneb, wrth i’r gwynt chwipio i mewn.  Bag ar ei chefn.  Wastad yn pefrio llawenydd, sut mae hi’n llwyddo gwneud? 

Cwtsio.

‘Digon da, diolch’.

Cyfnewid newyddion teulu.  Gan osgoi’r newyddion lletchwith.

‘Mynd i rywle?’ 

Sylwi ar y bag eto.

‘Mewn i’r môr.’

Y frigâd ymdrochi?  Cymdeithas gudd y merched.  Naddo, ddim gyda nhw mae hi.

‘Ar fy mhen fy hun.’

‘Nawr, ym mis Mawrth – y mis oeraf un?’

‘Sioc i’r croen, y cyfarfod cyntaf â’r môr, rhaid imi gyfadde’.  Ond wedyn, y wefr yn dilyn yn syth, a’r llawenydd.  Y peth anodd yw dod mas, i’r gwynt o’r dwyrain.  Oerfel y gwynt.  Sŵn y gwynt’.

“Sŵn y gwynt sy’n chwythu”.  Pwy sgrifennodd?  Anghofio ei enw, hen fardd o’r ganrif ddiwethaf.  Ei gerdd derfynol.  Sgrifennu ar ei wely angau.  “Awel fain fel nodwydd syring.”

‘A sut mae T.?’

Anodd ffarwelio heb sôn am T.

‘Eitha gwael, gwaetha’r modd.  Yn ei gorff ac yn ei feddwl.  Yn bell i ffwrdd oddi wrthon ni erbyn hyn’.

Yn bell i ffwrdd.

4 Dur

Tonnau fel platiau dur dan haul cwt y gaeaf.

Ar ochr arall i’r bae nesaf, gweithfeydd dur.

Llain o fwg yn codi o’r gweithfeydd a gwyro tua chymoedd y gogledd.

Awyren jet sy’n gadael bwa dros y môr, sgrech yn y glust.

Haenau calchfaen yn anghofio, dros y blynyddoedd, sut i fod yn wyn.

5 Mainc

Dur hefyd: y plac ar y fainc ar ymyl y llwybr. 

Coffâd i hen ddyn, yn farw ers deng mlynedd.  Cofio fe.  Dyn cefnsyth, mwstas, golwg hynaws.  Un o’r Hen Ddiafoliaid gynt (ein henw ni: dim byd diawlaidd ynddyn nhw).  Triawd o feterans o ryw ryfel neu’i gilydd, Malaya, Korea, pwy a ŵyr.  Bydden nhw’n cerdded yma bron bob bore Sadwrn.  Eistedd ar y fainc- mainc rhif 4 – mewn rhes, llygadu arfordir Dyfnaint, hel atgofion.  Ac o bryd i’w gilydd, torri gair â’r cerddwyr hynny oedd yn parchu henaint. 

Sylwch: wedi’i glymu wrth fraich y fainc, tusw bach o flodau. Yr unig liw llachar yma, ond am yr eithin, eu bysedd arfog yn bygwth y môr.  Deng mlynedd, ond rhywun yn dal i gofio.  Diwrnod neu ddau arall, a bydd halen y môr wedi cannu pob petal.  Gwynt wedi sgwrio’r plac yn lan, ond y llythrennau eisoes yn dechrau mynd o’r golwg, yr enw i ebargofiant.

Ymhell draw, sŵn rhuo, fel taranau.

Filed in: cymraeg, fictions • Tags: ,

Comments (3)

Trackback URL | Comments RSS Feed

  1. Gill Lewis says:

    Wedi mwynhau’r rhain yn fawr Andrew

  2. Hywel Davies says:

    Diolch am yr ysgrifau hyn am lwybrau sydd mor annwyl i Charlotte a minnau. Ry’ni’n rhannu’r siom am y rhubannau concrit.

Leave a Reply