Y Cynllun Darllen, 1891-94

March 5, 2021 0 Comments

Heddiw mae clybiau darllen yn boblogaidd iawn fel ffordd i ddarganfod a rhannu llyfrau mewn cylch cymdeithasol, anffurfiol.  Yn rhannol oherwydd esiampl ‘Oprah’ yn yr Unol Daleithiau a ‘Richard and Judy’ ym Mhrydain, sefydlwyd cannoedd o gylchoedd lleol (a rhithiol, yn yr oes Cofid).  Erbyn hyn mae digon o enghreifftiau o glybiau sy’n trafod llyfrau Cymraeg.

Ond dyw’r syniad ddim yn un newydd.  Mewn ysgrif ar Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 1891 mae Hywel Teifi Edwards yn sôn am sesiwn yn yr Eisteddfod a drefnwyd gan y Cymmrodorion ar sut i annog darllen llyfrau yn y Gymraeg ymysg oedolion trwy gychwyn cynllun cenedlaethol o gylchoedd darllen, mewn cydweithrediad â’r ‘National Home Reading Union’ yn Lloegr.  Dyma sut adroddodd papur newydd lleol y drafodaeth:

E. Vincent Evans (Sec.) first read a letter from Principal T. F. Roberts (Aberystwyth College), apologizing for his absence, and expressing a hope that reading circles would be organized during the ensuing winter.  Professor J. E. Lloyd, M.A, read the first paper, in which he dealt with the Welsh aspect of the work.  He shewed in a brief historical survey that the Welsh people had always been remarkable for living a higher intellectual life than might have been expected from their material resources.  Comparing the present with the past, he alluded to the alteration that had lately taken place in the habits of the people.  No one could now accuse them of indolence. but there still seemed to linger in the culture of the country, a touch of the old inertia – that majestic indolence – which was so dear to native man …  There was a great lack of guidance and of leaders who should deem it their duty, as Welshmen academically trained, to guide the leisure studies of their less fortunate countrymen.  The Welsh students’ union would, he believed, bring about a better state of things, and create a demand for superior literature and systematic reading. The union had sprung from the desire of students, past and present, to help Welshmen in things intellectual; it was simply an organized attempt to discharge, in concert, the responsibility, the force of which each member feel individually.  There was now a readiness to read everything, provided at popular prices, and with skill and adaptation, to meet existing needs and tastes, and he pointed out in an interesting and valuable paper the means by which the objects of the union might be more fully and thoroughly realized.

Rev. J. E. Lidgett, M.A. (Cambridge), was the next speaker, and in the course of his remarks spoke of the intellectual earnestness that was often misplaced in the choice of books.  There was a great deal of solitary reading, and it was, in his opinion, far better that general readers should meet in concert, as free intercourse was the best means of stimulating continued interest, and meeting the difficulties that arose.  The objects of the Union were (1) guidance of what to read, and under what authorities (2) stimulating the readers to continued persistence, perhaps under great difficulties, and (3) providing all needful guidance.  The speaker spoke principally, as he had been delegated to do, upon the necessity of providing for the literary wants of boys and girls in the transition stage, after school, and before commencing the business of life.  The intellectual powers were quickened in school, and the pressure was too quickly removed.  A great amount of pernicious literature was purveyed and read, and if anything could be done to stem the tide of this pernicious, or at any rate, unimproving literature, and to create a taste for healthy and refreshing and inspiring literature. He felt they would do one of the greatest works for the moral and religious welfare of the rising generation.  Mr. Hobson next advocated the claims of the National Home-Reading Union, of which he is the secretary, and suggested valuable hints for the effective extension of the work in the Principality.

J.E. Lloyd yn 1894

(Yn 1891 roedd J.E. Lloyd ar fin symud i Goleg y Brifysgol ym Mangor, lle cyhoeddodd wedyn ei gampwaith A history of Wales to the Edwardian conquest.  Mynychodd O.M. Edwards Eisteddfod Abertawe, a siŵr o fod roedd e’n bresennol yng nghyfarfod y Cymmrodorion; yn amlwg roedd e’n fodlon cefnogi’r fenter oedd i ddilyn.)

Sefydlwyd y National Home Reading Union yn 1889, ar ddelw’r mudiad ‘Chautauqua’ yn yr Unol Daleithiau, gan John Brown Paton, gweinidog gyda’r Annibynwyr yn Nottingham.  Nod y mudiad newydd oedd arwain darllenwyr o bob oedran tuag at lyfrau ‘addas’, a’u casglu mewn cylchoedd darllen er mwyn trafod cynnwys y llyfrau.  Ers y Ddeddf Addysg yn 1870 bu pryderon ymysg yr eglwysi, a phobl o’r dosbarth canol yn gyffredinol, y byddai gweithwyr, wedi dysgu sut i ddarllen yn yr ysgolion cynradd, yn darllen pethau ‘anghywir’, megis nofelau ysgafn a chylchgronau poblogaidd.  Y gobaith oedd y byddai aelodau o’r grwpiau darllen yn cyd-drafod llyfrau gosod a thrwy hynny dod i ddeall eu pynciau’n well.  ‘Mewn gair, mae’r Undeb yn ceisio dwyn perswâd ar ddynion a merched, o bob oedran, i raddio i’r Brifysgol Lyfrau’.

Byddai’r aelodau, o leaf pum aelod ym mhob cylch, yn cwrdd bob pythefnos neu bob mis yn eu tai neu mewn llyfrgelloedd, i ddarllen yr un llyfrau, dan adain gwirfoddolwr.  Yng nghylchgrawn yr Undeb argraffwyd y teitlau, a chwestiynau amdanynt, i’w hateb yn y dosbarth.  Dyfarnwyd tystysgrifau i’r sawl a gyflawnodd y cwrs.

Llwyddodd rhai cylchoedd yn y dinasoedd a’r trefi yn Lloegr i ddenu aelodau o’r dosbarth gweithiol.  Ond roedd yr Undeb, yn ei wreiddiau, yn fudiad ‘i’r bobl’ yn hytrach na ‘o’r bobl’, a methodd ennill ymrwymiad gan yr undebau llafur neu’r mudiad cydweithredol.  Felly erbyn diwedd y ganrif bu iddo ddod yn sefydliad i’r dosbarth canol yn unig.  Serch hynny, llwyddodd y mudiad i ddenu dros 13,000 o aelodau erbyn 1906.  Cafodd y Rhyfel Mawr effaith ddifrifol, a daeth yr Undeb i ben yn 1930.

Erbyn diwedd 1890 sefydlwyd dau gylch o leiaf o’r Undeb yn ne Cymru, un yn Abertawe a’r llall yn Aberpennar, yn ôl yr Arglwydd Aberdare mewn llythr i’r wasg ym mis Rhagfyr.

Y National Home Reading Union, felly, oedd y model ym meddwl J.E. Lloyd yn ei anerchiad i’r Cymmrodorion.  Fel yn achos yr Undeb, roedd yr ysgogiad dros ehangu’r cynllun i Gymru yn uchelfrydig a de haut ên bas, hyd yn oed yn nawddoglyd.  Y rhagdybiaeth oedd bod angen dybryd ar y Cymry gael eu harwain, gan bobl ddiwylliedig, at ‘well llenyddiaeth a darllen systematig’.  Byddai Matthew Arnold, awdur o Culture and anarchy, wedi adnabod yr uchelgais yn hawdd.  Fel yn Lloegr, roedd ystyriaethau crefyddol yn amlwg: darllen tywysedig oedd yn arf yn erbyn ‘llenyddiaeth niweidiol a annyrchafol’, chwedl y Parch. Lidgett.

Beth ddigwyddodd i syniad J.E. Lloyd yng Nghymru ar ôl 1891?  Mae’n amlwg fod ymgais i’w wireddu, a sefydlwyd cynllun, yn seiliedig ar y prifysgolion.  Yn Rhagfyr 1891 cyhoeddodd Y Cymro bod Undeb Myfyrwyr Cymru, mewn cydweithrediad â ‘Chymdeithas Ddarllen Genedlaethol Llundain’, wedi sefydlu cynllun darllen.  Ei amcan oedd

… cymhwyso’r cynllun yma at anghenion Cymru; maent wedi dechrau ar eu gwaith ers mis yn llawn gobaith ac egni. Cyhoeddwyd ganddynt restr o lyfrau Cymreig – Oriau’r Hwyr, Caniadau Islwyn, Llyfr y Tri Aderyn, Tra yn yr Eidal, Cvmru Fu, a Goronwy Owain sydd i fod yn faes llafur am yr wyth mis nesaf.  Mae y Gymdeithas Seisnig yn derbyn y rhestr yma fel ei heiddo hi, yn cyhoeddi atodiad o bedwar tudalen yn esbonio y llyfrau Cymreig, ac yn anfon hwn gyda’r cylchgrawn Seisnig at bob aelod fyddo’n dymuno ei gael.  Felly gall unrhyw Gymro am swllt neu ddeunaw (ag i’r trefniadau priodol gael eu gwneud) fyned trwy gwrs cymysg o Gymraeg a Saesneg, neu gwrs Cymraeg hollol, a chael cynhorthwy llenorion profiadol bob cam o’r daith.  Gobeithio ein bod wedi codi awydd yn ein darllenwyr i roi prawf ar gynllun mor ddeniadol, – os ydym, ni raid ond anfon at Proffeswr Lloyd, Aberystwyth, i gael pob cyfarwyddyd angen rheidiol.

I ddechrau cynigiodd Undeb Myfyrwyr Cymru lyfrau yn Saesneg ac yn Gymraeg, ond erbyn 1893-4 roedd y cynllun yn uniaith Gymraeg.  Cymesgedd o farddoniaeth a rhyddiaith oedd ar y fwydlen.  Doedd dim ymgais i ffurfio grwpiau darllen o’r canol, a phenderfynwyd peidio â chodi tâl am y flwyddyn.

Undeb Myfyrwyr Cymru, Cynllun darllen am y flwyddyn 1893-4 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Erbyn diwedd yr ail flwyddyn cofnodwyd 300 o aelodau yng Nghymru, yn ôl llythyr gan ‘Aubrey’ yn Seren Gomer yn Rhagfyr 1893, er bod dim gwybodaeth ar gael am y grwpiau darllen lleol.  Yn Y Cymro, yn y golofn ‘Congl y Gymdeithas Ddarllen’, cyhoeddwyd nodiadau manwl a olygwyd gan Lloyd a ysgrifennwyd gan Lloyd, Elfed, Edward Annwyl ac ‘athrawon’ eraill, ar gyfer y sawl oedd yn darllen y llyfrau gosod.  Ond daw’r colofnau’n dod i ben erbyn gwanwyn 1894, ac yn ôl pob tebyg roedd y cynllun wedi methu erbyn hynny, oherwydd diffyg cefnogaeth gan ddarllenwyr.

Does dim syndod efallai fod bywyd y mudiad yng Nghymru yn fyrhoedlog.  Fel arbrawf ar gyfer cyrsiau ar lenyddiaeth Gymraeg i oedolion roedd e o flaen ei amser.  Bu raid aros nes bod y prifysgolion yn sefydlu adrannau allanol – dysgai T. Gwynn Jones lenyddiaeth Gymraeg yn allanol yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth erbyn 1911 – a chyrff oedd yn agosach i weithwyr a’u teuluoedd, fel Cymdeithas Addysg y Gweithwyr a’r mudiad cydweithredol, ddechrau cynnig cyrsiau mwy systematig.

Mae’n bosib i’r cynllun ffaelu am reswm arall: yr ystod gyfyngedig o lyfrau Cymraeg oedd ar gael i ddarllenwyr ar y pryd.  Crefyddol o hyd oedd y rhan fwyaf o gyhoeddiadau ar gael iddynt.  Roedd ond ychydig o nofelau Cymraeg – roedd Y Cymro wrthi’n cyfresu Gwen Tomos gan Daniel Owen yn ei dudalennau ar yr adeg yma – ac ychydig o lyfrau ffeithiol chwaith fyddai’n denu’r ‘darllenwyr newydd’.  Fel dywed Hywel Teifi Edwards yn ei ysgrif,

Y broblem fyddai cael digon o lyfrau Cymraeg priodol i ateb gofyn y cylchoedd – heb sôn am greu chwant darllen Cymraeg pan oedd y ‘shilling shocker’ [Saesneg] mor apelgar!

Leave a Reply