Ar ben pella’r byd

October 8, 2021 0 Comments

Dyma’r ffordd o’i chyrraedd. 

Edrychwch am droad i’r dde wrth ichi deithio tua’r gorllewin ar y ffordd i ben pella’r penrhyn.  Mae’n hawdd ei golli.  Cadwch eich llygaid ar agor am fryn coediog gyferbyn ar y chwith.  Wedi troi, mae’r lôn syth yn disgyn yn raddol â llain o lawnt ar y ddwy ochr.  Ar y pen, dyna chi yng nghanol fferm: y ffermdy ar y dde, a’i adeiladau eraill o’ch blaen.  Gwell gofyn am ganiatâd os ydych chi am adael eich car yma. 

Ar yr olwg gyntaf, adeilad fferm arall yw’r eglwys, yn llechu y tu ôl i’r lleill.  Eglwys ddi-nod o’r tu allan, mae’n siŵr, dim ond bocs bach syml, heb dŵr, heb eiliau, heb hyd yn oed borth i gysgodi’r drws.  Yr unig ychwanegiad yw cwt clychau ar y pen gorllewinol.  Ac eithrio am feirwon y plwyf yn y fynwent, does gan yr eglwys ddim cymdogion – does dim tai neu dyddynnod o fewn golwg, heblaw am y fferm.

Mae’r eglwys yn ymddangos mor syml a hunan-gaeëdig fel mai tasg anodd yw hi, i ddechrau, ddod o hyd i’r ffordd i mewn.  Fel arfer mewn eglwys, mae gyda chi ddrws mawr, addurnedig â gwaith metal, a dolen fawr ar ffurf cylch trwm.  Yma, drws bach sydd, a dwrn bach metal, bron fel hen allwedd, i’w throi.

Ewch i mewn, a sefyll.  Ar unwaith mae’r cwestiwn yn codi, ai eglwys yw hon – neu ysgubor y fferm?  Bwriwch olwg sydyn o amgylch yr adeilad, a does dim byd bron i’ch atgoffa chi o eglwys: dim pileri, dim nenfwd confensiynol, dim cerrig coffa ar y waliau.  Ychydig o ffenestri, a dim un ohonyn nhw’n lliw.  Edrychwch i fyny a gwelwch chi rwydwaith o drawstiau sy’n perthyn i adeilad amaethyddol yn hytrach nag i eglwys.  Oes, mae seddau pren, plaen iawn, pulpud, maen bedydd hynafol, stribed o bren ar y waliau i’r addolwyr hongian eu cotiau gwlyb arno, a chwpl o elorau pren yn pwyso yn erbyn y wal yn y cefn.  Ond dyna’r cwbl.

Bu adeilad hynafol yma ers cyn cof, mae’n debyg.  Ond ail-adeiladwyd y rhan fwyaf ohono yn y flwyddyn 1840 – cerfiwyd y dyddiad hwnnw ar un o drawstiau’r nenfwd – gan bensaer anhysbys.  Byddech chi’n disgwyl iddo ddefnyddio’r steil gothig, oedd yn gyffredinol ar y pryd.  Ond wnaeth e ddim – o bosib oherwydd diffyg medr neu wybodaeth, ond, yn fwy tebyg, o achos ei fod am gadw naws gwerinol a diymhongar yr eglwys wreiddiol. 

Fel rheol mae eglwys Anglicanaidd, yn arbennig yn Lloegr, yn adlewyrchu’r haenau cymdeithasol haearnaidd oedd yn bod yn y plwyf.  Nid felly yma.  Digon gwir, mae corau, neu seddi caeedig, tua blaen corff yr eglwys.  Ond does bosib na bod plaender yr eglwys yn arwydd o gydraddoldeb pobl yr ardal hon, lle roedd plastai a maenordai’n brin a phawb bron yn gorfod crafu bywoliaeth syml.  Yn yr oesoedd canol hwyr safai’r eglwys ar lwybr pererinion, ond, yn wahanol i eglwysi eraill ar y ffordd a dyfodd yn fras ar roddion y pererin, dyw hon, mae’n ymddangos, erioed wedi gweld buddion o gyfoeth allanol.

Amser ichi gael golwg manylach.  Dyw bod yn syml ddim yn golygu bod heb steil.  Mae yma steil cynnil, ond un sy’n ffrwyth cariad a gofal.  Edrychwch ar y pulpud wythonglog golygus, wedi’i gerfio o bren golau, gydag ychydig o addurniadau.  O’i wyneb mae canhwyllbren unigol yn codi mewn cromlin osgeiddig.  Uwchben y pulpud mae canopi neu seinfwrdd yn hongian, ac ar ei du isaf, gerfiad – haul neu seren arall, gyda thri chylch consentrig yn ei ganol ac wyth pelydryn yn disgleirio allan ohono.  Mewn adeilad sy’n hynod dawedog, dyma’r unig ddatganiad cryf sy’n siarad am y byd a ninnau.

Cyn gadael, cofiwch roi diolch i’r elusen Cyfeillion Eglwysi heb Gyfeillion (Friends of Friendless Churches).  Nhw sy’n gyfrifol am dderbyn gofal o’r eglwys dros ddeng mlynedd yn ôl, ei hadfer yn ofalus, a’i chadw a chynnal.

Caewch y drws ac ewch ar grwydr yn y fynwent.  Yma gwelwch chi fod y cerrig beddi yn llechi i gyd, a’u harysgrifau bron i gyd yn Gymraeg.  Dyma’r geiriau ar waelod un sy’n cofnodi dyn yn Saesneg (iaith estron i’r artist), ‘This tomb is not to be Opnned’.  Ffodus oedd y rhai a gyrhaeddodd y bedd yn oedolion: bu farw cynifer fel plant. Dywed neges yn Gymraeg yn syml, ‘Er gof am blentyn’.

O’r eglwys a’r fferm mae’r lôn gul yn parhau tua’r môr.  Ond ddim yn uniongyrchol: ar gyffordd, rhaid dewis p’un ai troi i’r chwith neu i’r dde cyn cyrraedd y traeth.  Os trowch chi i’r dde ac wedyn dilyn cwm bychan a nant yn ei ganol, yn sydyn dyma’r tonnau, yn rhuo ac yn fflachio ar fore braf gwyntog.  Gallwch droedio ar y traeth os yw’r llanw yn caniatáu, neu ddilyn llwybr yr arfordir, tua’r gogledd.  Hwn yw un o’r traethau mwyaf godidog arfordir Cymru: llydan, gwag, elfennol.  O’i ystyried mae rhywun yn dechrau synhwyro bod yr hen eglwys a’i hysbryd tawel ond dyfalbarhaus yn rhyw fath o adlais neu ymateb gan y ddaear i rym anorchfygol y môr.

Ble mae’r eglwys gudd hon?  Os ydych chi wedi ymweld o’r blaen, byddwch chi’n ei hadnabod yn syth.  Os dych chi ddim, ewch i chwilio amdani.  Ddylai hi ddim bod yn dasg amhosib. Wedi’r cyfan, bydd ei llais yn eich galw chi ati hi.

Leave a Reply