Doethineb a dannedd

April 16, 2021 0 Comments

Yr wythnos ddiwethaf collais i ddant.  Ffordd anghywir, wrth gwrs, o ddisgrifio’r hyn ddigwyddodd  –  fel petaswn i wedi anghofio mynd ag e gyda fi wrth adael trên neu fws.  Mewn gwirioedd, tynnodd y deintydd y dant allan o’m genau yn eithaf treisiol, trwy ddefnyddio dull sydd heb newid rhyw lawer yn ei hanfod, mae’n debyg, ers Oes y Cerrig.

Nid dant cyffredin mohono chwaith, ond dant sy’n dwyn yr enw, yn Saesneg, ‘wisdom tooth’.  Does neb yn gwbl siŵr pam bod y fath beth yn bod.  Beth yw ei bwynt, yn cuddio yna ym mherfeddion y geg, un ym mhob cornel?  Fel arfer, mae’r dannedd hyn yn torri trwy’r croen flynyddoedd maith ar ôl y dannedd eraill – ugain mlynedd yn ddiweddarach o bosibl.  Weithiau dyn nhw ddim yn ymddangos o gwbl.  A does dim arnon ni angen nhw.  Gallwn ni gnoi ein bwyd yn gwbl effeithiol ar hyd ein hoes trwy ddefnyddio’r dannedd malu eraill sy ’da ni.  Yn ôl un theori, maen nhw’n dyddio i’r amser cyn y chwyldro amaethyddol.  Wedi inni setlo lawr, trin y tir, a dechrau bwyta grawnfwydydd meddal, doedd dim eisiau cymaint o nerth yn ein genau er mwyn gwasgu’r bwyd yn y geg, a daeth y ‘wisdom tooth’ yn ddiangen.

Roedd gan yr Hen Roegiaid dri gair ar ‘wisdom tooth’: ‘kranter’, rhywbeth sy’n cyflawni [y rhes o ddannedd], ‘opsigonis’ (hwyr-anedig), a ‘sophronister’, sy’n gysylltiedig â ‘sophronizein’, i gallio.  Yn Lladin hwyr, roedd gair sy’n debyg i’r olaf, sef ‘dens sapientiae’, neu ddant doethineb.  O’r Lladin felly daeth y cysylltiad rhwng y dant arbennig hwn a doethineb i mewn i’r iaith Saesneg.  Meddyliwch hefyd am yr ymadrodd ‘cut one’s wisdom teeth’.  Ei ystyr estynedig, yn ôl  yr Oxford English Dictionary, yw ‘cyrraedd doethineb neu gallineb’.

Yn hanesyddol – ac mewn rhai diwylliannau traddodiadol hyd heddiw – y gred oedd bod oedran yn dod â doethineb, a’i bod hi’n deg parchu pobl hŷn oherwydd y doethineb roeddent wedi’i gronni yn ystod eu bywydau.  Yn ein cymdeithas ni, fodd bynnag, mae’r cyswllt hwn wedi’i dorri bron yn llwyr.  Cysylltir henaint â phethau llawer llai dymunol, fel tlodi, unigrwydd a meddwl ffwndrus.  Inni mae henaint fel arfer yn broblem.  Mae arnon ni ofn o fyw y tu hwnt i 80 oed, dyweder, o achos ein bod ni’n disgwyl colli iechyd corfforol, colli’r gallu i fyw yn annibynnol, ac yn anad dim colli ein meddwl.

Mae rhywbeth arall sydd wedi mynd ar goll yn ein hamser ni: y cysyniad o ‘doethineb’.  Yn anaml iawn mae rhywun yn clywed neu ddarllen y gair mewn iaith gyffredin, neu mewn geirfa dechnegol.  O ystyried bod doethineb yn gysyniad athronyddol pwysig o’r Hen Roeg ymlaen, mae’r diflaniad hwn yn beth rhyfedd.  (Mae hen syniad arall, ‘eudaimonia’, yn arbennig fel y’i trafodir gan Aristoteles, wedi gweld adfywiad diweddar, ar wedd y syniad cyfoes o lesiant neu ‘well-being’.)

Rhan o’r broblem gyda doethineb yw ei fod yn syniad mor annelwig.  Mae’n amlwg nad yw bod yn ddoeth a wnelo â meddu ar stôr o wybodaeth, er enghraifft, gwybodaeth dechnegol. (I’r gwrthwyneb, y sail y tu ôl i honiad Socrates ei fod yn ddoeth oedd ei fod yn ymwybodol ei fod yn gwybod dim.)  Yn hytrach, mae gan y person doeth, fel arfer, gronfa o brofiadau personol – er enghraifft am sut i gyrraedd penderfyniadau anodd, neu sut i osgoi problemau – wedi’u casglu dros nifer o flynyddoedd.  Gall dynnu ar y gronfa hon, a’i dehongli’n synhwyrol, er mwyn helpu pobl eraill gyda’u problemau newydd.

Ond weithiau mae doethineb yn cyfeirio at agwedd gyffredinol tuag at fywyd, yn hytrach nag at gasgliad o brofiadau neu wybodaeth.  Gellir dweud am y person doeth – person hŷn, fel rheol – ei fod wedi rhoi heibio gofidiau am y byd materol neu gyfoeth personol, ac yn datblygu ffordd fyfyriol a derbyngar o edrych ar fywyd a marwolaeth.  Doethineb felly yw gwybod sut i fyw’n dda ac yn foesol.

Os oes unrhyw werth yn y ddau syniad hyn, ac os gallwn ni eu crynhoi yn y gair ‘doethineb’, mae’n drueni bod y gair wedi cilio o’r byd cyfoes.  Byddai’n braf cael siarad unwaith eto am y dyn doeth neu’r fenyw ddoeth heb fod yn hunanymwybodol.  Wedi’r cwbl, mae digonedd o esiamplau o bobl gyhoeddus – fel bron pawb yng nghabinet Boris Johnson, er enghraifft – sy’n hynod o annoeth.

Dw’n llai siŵr am yr ymadrodd ‘wisdom tooth’.  Y cyswllt cywir sy gan y dant hwn yw gyda phoen, nid doethineb.  Diddorol nodi bod dim gair neu ymadrodd yn yr iaith Gymraeg sy’n cyfateb i ‘wisdom tooth’.  Ar wahân i ‘cilddant’ a ‘chefnddant’, yr unig eiriau eraill yw ‘dant gofid’ a ‘dant helbul’ – y ddau’n ddisgrifiadau digon cywir.

Ddoe bues i yn Llangrannog, a thrwy gyd-ddigwyddiad rhyfedd, ailymweld â Charreg Bica.  Yn ôl yr hen hanes, roedd y ddannoedd ar y cawr Bica.  Tynnodd e’r dant poenus o’i geg a’i daflu i’r môr, lle mae’n sefyll o hyd ar y traeth.  Mae’n hawdd cydymdeimlo â’r hen ddyn mawr, yn enwedig os oedd dant Bica yn ddant gofid.

Leave a Reply