Nôl i normalrwydd?
Pob heol yn wag ac yn ddistaw. Ceir yn segur y tu allan i dai eu perchnogion. Y rheini yn celu y tu mewn i’w cartrefi. Ychydig iawn o bobl i’w gweld yn yr awyr agored. Gallech chi blannu eich traed, pe baech yn dymuno, ar hyd y llinell wen yng nghanol y ffordd, a cherdded ar ei hyd heb beryglu eich bywyd. Roedd y byd fel pe bai wedi troi â’i wyneb i waered. Neu o leiaf, am ychydig ddyddiau ar ddiwedd mis Mawrth a dechrau mis Ebrill 2020, dyna oedd y drefn chwyldroadol newydd.
Am ychydig, roedd hi’n ymddangos fod chwyldro arall wedi digwydd. Am flynyddoedd maith mae’r economi Brydeinig yn dibynnu yn bennaf ar ddau beiriant: arian yn cynhyrchu arian (Dinas Llundain), a phrynwriaeth: cwmnïau’n cael y gweddill ohonon ni i brynu nwyddau diangen. Yn ystod ton gyntaf Covid, diflannodd yr awydd a’r gallu i brynu pob math o anhanfodion: yr ail gar, y trydydd gwyliau tramor, prydau bwyd di-rif mewn tai bwyta, y jacuzzi yn yr ardd. Y pethau hanfodol yn unig oedd yn cyfrif erbyn hyn – fel rholiau toiled yn y dyddiau cynnar o’r don gyntaf. Roedd popeth arall, yn sydyn, yn ymddangos yn ddianghenraid, yn ormodol.
Roedd hi’n bosibl, yn yr wythnosau cyntaf hyn, i gredu bod newid mawr yn digwydd, neu ar fin digwydd, yn ein ffordd o feddwl ac ein ffordd o fyw. Oedden ni’n dechrau ailystyried, yn wyneb y feirws a’r realiti newydd, ein hagwedd tuag at brynu pethau? I ddysgu sut i fod yn fodlon ar ein heiddo fel y maen nhw, a pheidio ag ysu am ragor trwy’r amser? I gefnu ar ein harferion gwastraffus ac anghynaliadwy, fel neidio i mewn i’r car, heb feddwl, i fynd ar daith o hanner milltir?
Ond, wrth i’r misoedd fynd heibio, mae’n dod yn gynyddol glir fod y broses hon o hunanasesu sylfaenol ddim yn digwydd mewn gwirionedd. Mater o raid yn hytrach na mater o ddewis fu unrhyw newid yn ein harferion pob dydd. Cymerwch drafnidiaeth. Ar ôl yr wythnosau cyntaf o ‘r ‘clo mawr’, pan gwympodd lefel y defnydd o geir yn y DU o 23%, dechreuodd y rhan fwyaf o bobl deithio yn eu ceir unwaith eto. Erbyn mis Awst 2020 roedd e wedi dychwelyd i’r lefel cyn Covid. O achos bod pobl yn gyndyn iawn i deithio ar y trên neu ar fws, mae hyd yn oed mwy o reswm i yrru. Arwydd arall o’r diffyg meddwl am yr effeithiau negyddol o drafnidiaeth breifat yw’r twf mawr parhaus yn y nifer o SUVs ar y ffyrdd – cerbydau y mae’n anodd iawn eu hamddiffyn o ran gollwng CO2 i’r awyr.
Yn yr un ffordd, ychydig iawn o dystiolaeth sydd i ddangos bod pobl yn manteisio ar yr argyfwng i droi eu cefnau ar ‘y gymdeithas gaffaelgar’. Eto, os nad ydynt yn heidio i dai bwyta neu hedfan i’r Caribî, mater o raid yw e, nid diffyg dymuniad.
Ydy popeth felly yn debyg o fynd nôl, unwaith bod brechlyn llwyddiannus wedi trechu Covid, i ryw fersiwn o’r ‘normal’? (‘Rhyw fersiwn’, achos does dim dwywaith na fydd rhai effeithiau difrifol o Covid yn parhau am flynyddoedd i ddod, heb sôn am y canlyniadau niweidiol sy’n rhwym o ddilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Rhagfyr, p’un a fydd cytundeb neu beidio.)
I lawer o bobl meddylgar, mae’n gwbl hanfodol nad yw pethau’n dychwelyd i’r drefn a fu gynt. Y rheswm pennaf yw ein bod ni’n wynebu problem sy’n fwy o lawer na Covid neu Bregsit: y bygythiad i’r blaned oherwydd newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Os awn ni i gyd nôl i’n hen batrymau o fyw – gwastraffu adnoddau craidd, distrywio ein hamgylchedd, claddu rhagor o’n gwlad o dan goncrit, gyrru mwy o geir enfawr ar y ffyrdd – fydd dim modd osgoi’r gordwymo fydd yn effeithio’n drychinebus ar bawb yn y byd.
Gallwn ni i gyd fel unigolion wneud ein rhan i newid ein meddylfryd a’n ffordd o fyw. Ond bydd rhaid i lywodraethau newid hefyd. Dim ond nhw, wedi’r cwbl, sy’n medru cydlynu’r adnoddau materol a meddyliol i wneud gwahaniaeth mawr. A nhw hefyd sy’n gorfod newid. Fe fydd Donald Trump wedi gadael y llwyfan yn UDA yn fuan. A oes gobaith y bydd yr Arlywydd newydd yn medru newid cyfeiriad yn sylweddol o ran polisïau amgylcheddol ei wlad? Yn y DU, os na fydd llywodraeth Boris Johnson yn barod i gymryd yr argyfwng o ddifrif – rhethregol yn unig yw ei hymrwymiad hyd yma – onid yw’r amser wedi dod inni yng Nghymru (a’r Alban, a Gogledd Iwerddon) ail-lywio ein heconomi a’n cymdeithas tuag at fywyd llawer mwy cynaliadwy?