John Thomas: lluniau confensiynol, lluniau hynod
Mae’n anodd astudio bywyd cymdeithasol yng Nghymru yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg heb droi at y drysorfa fawr o luniau, dros 3,000 ohonynt, a dynnwyd gan John Thomas, Lerpwl rhwng y 1860au a’i farwolaeth yn 1905. Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw eu cartref bellach, a gallwch chi weld y mwyafrif ar wefan y Llyfrgell.
Dau beth sy’n gwneud gwaith John Thomas mor werthfawr inni. Byddai e’n teithio’n ddi-ben-draw trwy Gymru i dynnu ei luniau: mae rhannau helaeth o’r wlad yn ymddangos yn y casgliad. Yn ail, roedd ei ddiddordebau’n eang: yn rhannol o bosib oherwydd ei wreiddiau personol tlawd, roedd e’n barod i ddal pob agwedd ar gymdeithas yn ei lens: pobl o bob dosbarth cymdeithasol, a lleoliadau tlawd yn ogystal â pharchus.
Er hyn i gyd, gallwch chi deimlo rhyw siom wrth ddechrau pori yn y lluniau. Cymerwch y portreadau. Gan fod Thomas yn cael ei gomisiynu i dynnu lluniau gan bobl barchus a phroffesiynol, fel cartes-de-visite neu gardiau in memoriam, mae’r portreadau yn tueddu i gadw’n slafaidd at nifer fach o fformiwlâu confensiynol. Er enghraifft, dyma weinidog sy’n eistedd wrth ford: blew barf blodeuog, gwisg ffurfiol sobr, llyfr sanctaidd o bosib wrth ei law, golwg ddifrifol, arswydus ar ei wyneb. Wedyn un arall, tebyg iawn, a thrydydd, a phedwerydd – ac yn fuan iawn dych chi’n boddi mewn gweinidogion Fictoraidd tra-parchus.
Tynnodd John Thomas hefyd nifer go dda o luniau o bobl lai ffodus: hen weithwyr wedi’u treulio gan oes o waith caled, trigolion elusendai, cardotwyr a thinceriaid. Mae eu gwedd nhw’n fwy amrywiol, gan eu bod yn gysylltiedig ag offer eu gwaith. Ond eto, ar ôl astudio llawer o’r rhain, mae rhywun yn dechrau meddwl eu bod yn cydymffurfio i deip cyffredin – y ‘cymeriad’ sy’n cynrychioli’r werin bobl.
Digwydd yr un peth yn y lluniau sy’n dangos strydoedd mewn trefi a phentrefi- saif bobl yn y golygfeydd hyn mewn grwpiau statig wedi’u llwyfannu – ac yn y portreadau grŵp, sydd eto yn tueddu i fod yn ffurfiol iawn.
Ac eto, ymysg y cannoedd o luniau John Thomas sy’n ddigon confensiynol o ran testun a thriniaeth – ac o bosib oherwydd y ffaith eu bod mor gonfensiynol – daw ychydig i’r fei sy’n wirioneddol ryfedd: lluniau sy’n anodd eu dehongli, sy’n gadael rhywbeth yn hongian yr awyr, sy’n ymddangos yn afreal neu’n swrrealaidd.
Un ohonynt yw llun sy’n dwyn y teitl ‘Ned and donkey, Pool Park’. Mae rhywbeth od tu hwnt am y ffotograff hwn. Try’r dyn ei gorff at y camera, ond mae’n amhosib darllen unrhyw fynegiant ar ei wyneb. Mae ganddo wisg filwrol ei golwg, gyda siaced llawn botymau a casquette am ei ben. Yn ei law dde mae’n cario cleddyf, sy’n pwyntio lan i’r awyr. A yw’r cleddyf yn gleddyf pren? Does dim golwg ar Ned o fod yn filwr go iawn. Ydy e’n esgus bod yn filwr? Cymryd rhan mewn rhyw fath o sioe neu bantomeim? Pwy a ŵyr?
Dyw’r asyn ddim yn debyg o ddatgelu llawer mwy na Ned, yn anffodus. Ac y tu ôl i’r ddau mae wal bric plaen sydd yr un mor fud.
Lleoliad y llun yw ‘Pool Park’. Pool Park oedd yr enw ar hen ystâd yng Nghlawddnewydd, dair milltir o Ruthun, a thŷ mawr a godwyd rhwng 1826 a 1829 gan William Bagot, yr ail Arglwydd Bagot (yn 1937 daeth y tŷ yn gangen o hen ‘Seilam Dinbych’). Gwas oedd Ned, o bosib, ar yr ystâd neu yn y tŷ.
Ond dyw’r wybodaeth hon ddim yn helpu inni wneud synnwyr o’r llun. Ac mewn gwirionedd, hyd yn oed pe bai rhagor o wybodaeth wedi goroesi am Ned a’r asyn, byddai’r llun yn dal i gadw ei gyfrinachau.
Mae’r ail ‘lun rhyfedd’ yn ymddangos yn llyfr rhagorol Iwan Meical Jones, Hen ffordd Gymreig o fyw: ffotograffau John Thomas (2008). Mae’n dangos dwy ferch, Cymraesau parchus ystrydebol mewn gwisg ‘Gymreig’, gyda hetiau du tal. Gallwch chi ddod ar draws nifer helaeth o bortreadau benywaidd tebyg yng nghasgliad John Thomas.
Ond ai portread yw hwn? Mae’r ddau ffigwr yn sefyll bron fel petaen nhw’n ddymïau mewn siop teiliwr. Dim ond y dwylo a’r wynebau sydd i’w gweld, i ddangos bod merched go iawn o fewn y llathenni o gotwm sy’n llenwi’r llun. Mae’r ffoto hwn yn atgoffa rhywun o’r lluniau cardbord ar draeth yn yr haf, gyda thyllau wedi’u gadael i’r wynebau, fel bod twristiaid yn gallu gwthio eu pennau trwyddynt ar gyfer tynnu llun. Ymddengys wynebau’r ddwy o dan eu hetiau fel rhithiau sy heb gyswllt a’u cyrff.
Mae rhywbeth od tu hwnt yn digwydd hefyd gyda’r breichiau. Mae pob un o’r merched yn dal paned o de – y symbol delfrydol o barchusrwydd cartrefol – ond ar yr un pryd mae hi’n dal llaw’r llall. Pam? Os ydyn nhw’n agos iawn at ei gilydd, fel ffrindiau mynwesol neu hyd yn oed chwiorydd, pam ysgwyd llaw, fel petaen nhw wedi cyfarfod am y tro cyntaf? Fyddai’r llun hwn ddim allan o le mewn arddangosfa o ffotograffau Diane Arbus.
Y rheswm pam bod y ddau lun yma – ac eraill, siŵr o fod, sy’n llechu yng nghasgliad John Thomas – mor drawiadol, mor annifyrrol, mor unheimlich, i ddefnyddio term Sigmund Freud – yw bod y gweddill o’r lluniau yn fôr o gonfensiynoldeb. Efallai, fel mae achosion Lewis Carroll ac Edward Lear yn ei awgrymu, bod y swrreal a’r rhyfedd yn blodeuo orau mewn oes a dosbarth lle mae’r pwysau i gydymffurfio i normau cymdeithasol yn hynod gryf.