Pos poblogrwydd Boris
Yn gyson mae’r cwmni pôl pinion YouGov yn tracio bwriad pleidleisio pobl ar draws Prydain. Dangosa’r canlyniadau mwyaf diweddar (4-5 Ionawr 2021) fod y Blaid Geidwadol a’r Blaid Lafur yn gyfartal (39% yr un). Sut ar y ddaear y gallai hyn fod yn bosibl?
Ystyriwch yr hyn sy wedi digwydd ers i Boris Johnson ennill yr etholiad cenedlaethol ar 12 Rhagfyr 2019. Llanwodd Johnson ei Gabinet â chriw o weinidogion di-glem, diegwyddor, aneffeithiol. Eu hunig gymhwyster dros ddal eu swyddi oedd ffyddlondeb personol iddo e – a’u ffanatigiaeth dros Bregsit eithafol. Sôn am Bregsit, gadawodd Johnson i’r broses o negodi dêl gyda’r Undeb Ewropeaidd lusgo ymlaen tan y funud olaf, gan sathru ar gyfraith y wlad (gohirio’r Senedd) a chyfraith ryngwladol (torri cytundeb cyfreithiol â’r UE). Sylwch mai ffeithiau, nid mater o farn, yw’r datganiadau hyn.
Wedyn, sut y gall unrhyw anwybyddu’r ffaith bod llywodraeth Johnson wedi gwneud cymaint o gamgymeriadau difrifol (ac yn wir, marwol) yn ei hymateb i Cofid? Dro ar ôl tro gwelon ni benderfyniadau oedd yn rhy araf o lawer, neu’n hollol annigonol. Yn anad dim, collodd Johnson ffydd y bobl, yn arbennig ar ôl antur Dominic Cummings yn Barnard Castle, fod ei bolisïau i oresgyn y feirws yn gredadwy ac yn werth eu dilyn. Ydy pobl o ddifrif yn meddwl bod record Cofid y DU, ymhlith y mwyaf trychinebus yn y byd, yn ganlyniad i lwc wael, yn hytrach na pholisïau anhylaw a llywodraethu amaturaidd?
Pam felly mae miliynau o bobl yn y DU (y 39%) yn credu bod Johnson a’i griw yn cyflawni job sy’n ddigon da i haeddu eu cefnogaeth mewn etholiad?
Mae’n bosibl cynnig cwpwl o resymau sy’n dal dŵr i ryw raddau.
I gefnogwyr selog Bregsit mae Johnson yn haeddu clod am selio cytundeb gyda’r UE o’r diwedd. Gallan nhw ddiystyru’r broses hir ac amheus o gyrraedd y nod hwnnw, y diffygion amlwg yn y cytundeb, a’r canlyniadau anffodus sy’n dechrau dod i’r fei nawr. Iddyn nhw, mae cael gwared ar yr UE yn golygu popeth. Mae popeth arall yn ddibwys.
Yn ail, mae’n glir bod y Blaid Lafur, hyd yn hyn, yn methu denu (neu ddenu yn ôl) lawer o’r cefnogwyr a gollodd yn etholiad cenedlaethol 2019. Un o’r rhesymau posib yw diffygion ei harweinydd. Yn Nhŷ’r Cyffredin mae Keir Starmer yn ddigon effeithiol a fforensig yn ei ymosodiadau ar Boris Johnson, ond ychydig iawn o bobl yn sylwi ar ei berfformiad yna. Yn bwysicach, mae e wedi methu’n llwyr â llunio unrhyw weledigaeth o ddyfodol gwahanol sydd â’r potensial i danio cefnogwyr.
Ond beth os nad yw’r ddau factor yma yn ddigon i esbonio’r gefnogaeth gref i’r llywodraeth, er gwaetha’r holl dystiolaeth ei bod yn anaddas i arwain y DU? Dwi’n amau mai’r gwir – y gwir brawychus – yw bod llawer gormod o bobl trwy’r wlad yn barod i anwybyddu neu esgeuluso’r hyn mae Johnson a’i griw yn ei wneud ac yn ei ddweud. Maen nhw’n barod i’w cefnogi doed a ddelo. Yn hyn o beth maen nhw’n debyg i ddilynwyr Donald Trump: pobl s’yn ddigon parod nid yn unig i lyncu ei anwireddau a’i benderfyniadau gwrthnysig, ond i’w cofleidio, bob tro, yn ddifeddwl. Fel yn achos Trump yn UDA, cymeriad Johnson ei hun sy’n rhan fawr o’r syndrom hwn. Faint o weithiau ydych chi’n clywed datganiadau fel, ‘Cymeriad a hanner, ond yw e, Boris?’; ‘Boris? Un o’r bobl werin, nid fel y gwleidyddion eraill’; ‘Mae’n ceisio ei orau, pŵr dab, mewn amgylchiadau anodd’; ‘O leia mae’r dyn yn optimistaidd’. Os dyna’r math o agwedd ddigyfnewid sy gan lawer o bobl, does dim rheswm disgwyl y bydd y ‘39%’ yn disgyn rhyw lawer yn ystod y cyfnod nesaf.
Os felly, mae’n amhosibl dychmygu sefyllfa yn y dyfodol ble bydd modd i’r Blaid Lafur ffurfio llywodraeth yn San Steffan, o leiaf un â mwyafrif. (Bydd newidiadau eto i ddod yn y ffiniau etholaethol yn gwneud y dasg yn anos byth.) Ac os felly, does dim gobaith i gynlluniau, fel yr un a lansiwyd yr wythnos hon gan rai yn y Blaid Lafur yng Nghymru, i sefydlu system ffederal ‘radical’ newydd yn y DU. Inni yng Nghymru sy ddim am ddilyn ideoleg a pholisïau Johnson a’i griw, mae’r posibiliadau’n prysur grebachu. Os dymunwn ni beidio â chael ein rheoli gan Johnson a’i debyg am flynyddoedd i ddod, dim ond un ateb sydd erbyn hyn: annibyniaeth i Gymru.