Tro ar fyd: ‘Trothwy’, gan Iwan Rhys
Un o’r llyfrau ar restr fer Llyfr y Flwyddyn eleni yw cyfrol fach anarferol gan Iwan Rhys, sy’n dwyn y teitl Trothwy. Wn i ddim a fydd ganddo obaith o gipio’r brif wobr. Os yw’r beirniaid yn chwilio am gyffro ac antur, efallai ddim. Ond yn ei ffordd dawel, gywrain mae Trothwy yn gadael argraff barhaol ar y darllenydd. Ar y darllenydd hwn, o leiaf.
Stori seml sydd yma: sut mae Iwan Rhys – bu bron imi ysgrifennu ‘Iwan Rhys’, ond mynna’r awdur, yn ei ragair, nad yw’r llyfr yn ffuglen – yn creu bywyd newydd iddo ei hun, ar ôl tor-priodas, ar aelwyd newydd, gyda’i phartner, Sioned, a’i dau fachgen ifanc. A sut mae e’n ymgartrefu o’r newydd – yn ‘Gorwel’, eu tŷ yng Nghaernarfon (crwt o Gwm Gwendraeth yw Iwan), yn y Twthill Vaults, y dafarn hen ffasiwn leol, ac ym Merlin, cartref cyn-ŵr Almaenig Sioned (y mae’r teulu mynd yno’n rheolaidd).
Does dim gwrthdaro, dim trais, dim argyfwng trwy’r llyfr, dim ond cyfres ffilmig o bump ar ddeugain o benodau byrion, pob un yn dal digwyddiad sydyn neu sgwrs fer neu edafedd o feddyliau, ar draws pedair blynedd, 2017-21 – sy’n cynnwys, wrth gwrs, cyfnod Cofid. Fesul dydd, fesul cam, mae perthynas Iwan â’r teulu, y cwsmeriaid yn y Vaults, a lleoliadau Berlin yn esblygu trwy’r amser.
I ddechrau, cadw draw mae Iwan o’r yfwyr anghyfarwydd yn y Twthill Vaults, gan ddarllen nofel neu glustfeinio ar y sgyrsiau, ond yn raddol mae’n dechrau dod yn rhan o’r gymuned fach wrywaidd hon, yn arbennig wrth iddo gymryd at chwarae darts – ac yn dod yn dipyn o arbenigwr yn y gêm, nes ei fod yn aelod gwerthfawr o dîm y dafarn.
Lle estron yw Berlin hefyd, i gychwyn. Ond eto, yn rhaddol fach mae Iwan yn dysgu am ardaloedd y ddinas, sut i symud o’i chwmpas, y bariau a siopau coffi gorau, a, bron heb fod yn ymwybodol ohoni, mae’n meistroli rhywfaint o’r iaith Almaeneg.
Ond y prif ‘ymgartrefu’, heb os, yw dod i nabod ei deulu newydd; sut mae troi perthynas 1:1 i berthynas 1:3. Ychydig y cawn i glywed am Sioned – cymerwn ni’n ganiataol fod eu perthynas yn agos a chyson – a’r ffocws yw ar y ddau fachgen bach, Aron a Rhodri. Yn arbennig ar ôl iddo symud i fyw i ‘Gorwel’, mae Iwan yn gorfod camu’n hynod ofalus a sensitif i ennill ymddiriedaeth y ddau. Dyw hi ddim yn broses hawdd.
O’r cychwyn – naw deg oed yw Aron – mae ateb cwestiynau’n dir peryglus: ‘Ocê, ’ta, pa dîm ffwtbol ti’n gefnogi?’ Ac ar ôl symud i fyw i ‘Gorwel’, ‘Be’ di’r rhain?’, gan gyfeirio i’r cyllylll, ffyrc a llywau yr oedd Iwan wedi symud i ddrôr yn y gegin. Mewn gwesty, mae Rhodri yn gofyn i aelod o staff am lemonâd arall, ac yn derbyn yr ateb, ‘Well i ti ofyn i dy dad.’ ‘Dim fo ’di dad fi’, mae Rhodri’n bloeddio. Crynhoad Iwan o’r sefyllfa yw ‘Nid symud mewn i fod yn rhiant oeddwn i: roedd ganddyn nhw ddau riant eisoes. Yno i helpu un y cefndir oeddwn i.’
Ond fesul tipyn, gyda threigl amser ac wrth i’r plant ac Iwan ddod i nabod ei gilydd yn well, mae’r berthynas yn dechrau esblygu. Doedd y newyddion fod Sioned ac e am briodi ddim yn syndod nac yn ddychryn i’r brodyr. Mwy na hanner ffordd trwy’r cyfnod, mae Iwan yn dechrau ystyried ei hun yn ‘llystad’. Wrth bendroni am ystyr a defnydd y gair hwn mae’n dod o hyd i’r ymadrodd hapus ‘tad gwyn’. Ie, llystad go iawn yw e bellach.
Daw’r stori i ben gyda’r briodas. Bu raid gohirio’r un gyntaf, oherwydd Cofid, ond y tro hwn mae’n digwydd, ar raddfa fach, gyda phump ar hugain o westeion yn bresennol. Yn nodweddiadol, dyw Iwan ddim yn ffarwelio â ni yn y seremoni ei hun, ond ychydig cyn hynny, yng nghyntedd yr ystafell. Dyna le mae’r pedwar aelod o’r teulu bach newydd wedi sefyll i wneud eu paratoadau terfynol yn y drych, ‘i wirio colur, ailosod blodyn, sythu tei, sychu deigryn’.
‘Pawb ar flight mode? gofynnais.
‘Ydyn.’
‘Be am gael selfi yn y drych ’ma,’ awgrymodd Aron, ‘cyn mynd i mewn?’
Ac felly ymlaen i’r ystafell lle mae pawb yn aros, y pedwar ohonyn nhw’n hedfan i’r dyfodol gyda’i gilydd.
Proses sy’n digwydd i bob un ohonon ni yw ‘dod i nabod’ rhywun neu rywbeth yn dda. Ond yn anaml mae awdur yn croniclo ei hynt a’r helynt gyda’r fath fedrusrwydd, sensitifrwydd a hiwmor.