Blwyddyn Chwedlau Cymru

January 29, 2017 0 Comments

I’r swyddogion yn Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am baratoi cynlluniau i ddenu twristiaid i Gymru, mae ‘diwylliant’ Cymru yn broblem y mae hi bron yn amhosibl dod i afael â hi.  Y prawf diweddaraf o hynny yw’r ymgyrch bresennol Blwyddyn Chwedlau Cymru.

Llynedd oedd ‘Blwyddyn Antur’, a ‘Blwyddyn y Môr’ oedd hi yn 2018: pynciau annadleuol.  Ond wrth droedio ar dir peryglus diwylliant eleni mae’r cynllunwyr wedi cythruddo nifer o lenorion adnabyddus.  Yn nhudalennau Golwg yn ddiweddar mae Simon Brookes a Gerald Morgan wedi ymosod ar yr ymgyrch fel ymgais i lunio darlun ffug a chamarweiniol o Gymru ymysg pobl ar ochr arall Clawdd Offa.  Maent yn cwyno am anwybyddu diwylliant Cymraeg – digon o Tolkien (ychydig iawn o gysylltiad â’r wlad) a Roald Dahl (damwain lle geni’n unig), ar draul William Williams Pantycelyn (300 mlwydd oed eleni), Kate Roberts a Saunders Lewis.  Maent yn beirniadu’r pwyslais ar ddigwyddiadau ffug-hanesyddol (‘mymbo-jymbo, jousts a rhyw lol fel yna’).  Ac maent yn cyhuddo’r gweision sifil o bedlera fersiwn oes Victoria o Gymru fel gwlad sy’n perthyn i’r gorffennol, a delwedd o’r Gymraeg fel iaith hanesyddol yn unig, heb fywyd deinamig yn y byd cyfoes.

Dyfynnir Mari Stevens, sy’n arwain Blwyddyn Chwedlau Cymru ar ran Croeso Cymru, yn amddiffyn y fenter yn Golwg.  Ei dadl yw bod y rhestr o 17 ‘llefydd chwedlonol’ yn cynnwys sawl un sy’n ddigamsyniol Gymreig neu Gymraeg eu naws, fel Castell Dinas Bran, Yr Ysgwrn ac Ogof Twm Siôn Cati; llaw-fer yw ‘chwedlau’, meddai, ar gyfer ‘diwylliant, gwyliau, digwyddiadau a threftadaeth’ sy’n nodweddiadol o Gymru ac o safon ryngwladol.

Rhaid cydymdeimlo i raddau â Mari a’i ffrindiau.  Maent yn anelu at bobl yn Lloegr a thu hwnt sydd ag ychydig iawn o wybodaeth bendant am Gymru, hanesyddol a chyfoes – ac sy’n meddwl am ddod  i Gymru ar eu gwyliau yn hytrach nag er mwyn cychwyn ar gwrs hanes mewn prifysgol.  A gwn i o brofiad pa mor anodd – neu amhosibl – yw llunio rhestr gynrychiadol, o ran daearyddiaeth, oes a thestun, fydd yn plesio pawb.  Yn bersonol dwi ddim yn credu bod y rhestr yn afresymol, o ystyried ei phwrpas.  Wrth gwrs fod rhywun yn gallu beirniadu rhai o’r dewision.  Pam cynnwys Castell Pennard, y mae ychydig iawn o hanes yn perthyn iddo, heb sôn am chwedlau?  (O bosib o achos ei fod ar bwys Bae’r Tri Chlogwyn.)  Mae cymoedd y De yn gwbl absennol.  Does dim un lle sy’n gysylltiedig â’r prif gasgliad o hen chwedlau, sef y Mabinogion.  Fel y dywed Gerald Morgan, dylai’r rhestr gynnwys y Llyfrgell Genedlaethol, cartref i’r rhan fwyaf o chwedlau Cymru.  Am flynyddoedd bûm yn ceisio perswadio pennaeth Bwrdd Croeso Cymru i gynnwys y Llyfrgell yn ei gyhoeddusrwydd fel canolfan i ymwelwyr sy’n ymddiddori yng Nghymru, ond yn ofer. 

Ond ar y cyfan mae’n rhestr sy’n ceisio cyfuno’r cyfarwydd a’r llai cyfarwydd, a chofleidio un neu ddwy elfen o’r traddodiad Cymraeg (Hedd Wyn, Ynys Enlli).  Ydy Simon Brookes o ddifrif yn disgwyl y bydd cannoedd o ymwelwyr o Loegr yn heidio i eglwys Llanfair-ar-y-bryn neu Bantycelyn ar ôl gweld emynau Williams Williams ar ei restr amgen e?

Ac eto rhaid dweud bod yr holl sôn am chwedlau yn peri peth anniddigrwydd.  (Yn Saesneg mae’r cyhoeddusrwydd yn mynd gam ymhellach na ‘legends’ trwy siarad am ‘Land of epic’ – gair sy’n estron iawn i draddodiad llenyddol Cymru, gan fod gennym ddim byd tebyg i’r Kalevala neu Ramayana.)  Un o’r rhesymau yw bod genedlaethau o haneswyr Cymreig dawnus wedi llafurio i ddiosg yr haenau o chwedl sy’n cuddio’r gwir am hanes y wlad – o fucheddau’r seintiau cynnar a’r brenin Arthur (un o ffigurau Croeso Cymru), trwy ffugiadau Iolo Morgannwg i’r myth o ‘werin heddychlon’ yn y Rhyfel Byd Cyntaf.  Yn fwy gyffredinol, mae llawer o bobl yn gwingo wrth weld eu llywodraeth yn atgyfnerthu ystrydebau allanol o Gymru a’r Cymry trwy frawddegau fel ‘Arthur soon acquired a supernatural sidekick, Merlin  the wizard, and several spots in Wales claim links with  these legendary locals’ a ‘the mountain peaks are home to sleeping giants and legendary kings’.

Mae’n wir, wrth gwrs, bod chwedlau yn gallu taflu goleuni ar hanes; maent yn rhan o hanes ac maent yn mowldio hanes – fel yn achos ffugiadau Iolo Morganwg.  Ond trwy ganolbwyntio am chwedlau heb gynnig cyd-destun a heb ymgais i adrodd yr hanes, ac yn arbennig y cysylltiadau rhwng hanes a’r byd cyfoes, oes perygl y bydd Croeso Cymru yn cyfyngu yn hytrach nag ehangu’r posibiliadau sydd ar gael i ymwelwyr? 

Yr wythnos ddiwethaf bûm mewn lansiad yn y Senedd o gwrs newydd o’r Brifysgol Agored, wedi’i anelu at bobl ar draws y byd sy’n chwilfrydig am Gymru ac yn dymuno dysgu ychydig yn fwy.  Mae rhethreg y cwrs, ‘Hafan’, yn wahanol iawn i naratif Croeso Cymru.  Dyma’r ddwy frawddeg sy’n cyflwyno a hysbysebu’r cwrs: ‘The future of Wales is as exciting as its past.  Step into a nation with an ancient language that takes its place within a rich and diverse modern culture.’  Ceir fideos byrion ardderchog sy’n dangos bywyd saith o bobl sy’n byw yng Nghymru heddiw: Kizzy Crawford, Angharad Price, Cynan Jones ac eraill.  Gall dysgwyr ddilyn sawl modiwl am hanes Cymru a Chymru heddiw, a chymryd eu camau cyntaf tuag at ddysgu rhywfaint o’r iaith Gymraeg.

Dwy nodwedd sy’n eich taro am y deunydd hwn.  Mae’n ceisio bob tro gysylltu’r gorffennol â’r presennol, a chysylltu Cymru a gweddill y byd.  Ac yn y portreadau yn y fideos cewch ddarlun clir o’r hyn sy’n arbennig am fyw yng Nghymru, heb droi at ystrydebau diog.  Pob clod i’r Brifysgol Agored felly: sefydliad gweddol Saesneg hyd yn ddiweddar, ond un sydd nawr yn troedio’n hyderus ar dir newydd.  Gallai Croeso Cymru ddysgu o’i esiampl.

Leave a Reply