Myfyrdodau Mr Ebeneser Sgrwj ar ŵyl y Nadolig
Roedden ni’n trafod amser y Nadolig y dydd o’r blaen, a sut mae e wedi newid dros y blynyddoedd. Sut, er enghraifft, mae’r tymor yn dechrau – neu’n ymddangos i ddechrau – yn gynt ac yn gynt bob blwyddyn – llawer cyn diwedd mis Tachwedd. A sut mae’n llyncu mwy a mwy o amser ar y cyfryngau – y cyfryngau traddodiadol, papurau newydd a chylchgronau, teledu a radio – a’r cyfryngau ‘cymdeithasol’. Hyd yn oed ar Radio 3, fy hoff ddihangfa o’r byd creulon a sentimentalaidd, mae’n amhosib osgoi miwsig sy’n dathlu’r ‘tymor ffestif’, a ‘trêlers’ am ragor o’r fath stwff.
Sôn am Radio 3, gyda llaw, cytunaf â’r rhai sy’n cyhuddo’r orsaf o hurtio – ‘dymio i lawr’ – ei gwrandawyr – yn arbennig trwy gymryd ein bod ni’n ysu am gael ein boddi, ddydd a nos, mewn cerddoriaeth ‘feddylgar’, ‘ymlaciol’, diystyr.
Onid oes eironi yn y ffaith bod y Nadolig yn dod yn fwyfwy chwyddedig a hollbresennol ar adeg pryd mae Cristnogaeth yn colli gafael yn hynod gyflym ar Brydeinwyr? 52% ohonynt sy’n dweud nad ydynt yn perthyn i unrhyw grefydd bellach. Dim ond 12% sy’n perthyn i’r eglwys Anglicanaidd, a dim ond 38% sy’n dweud eu bod nhw’n Gristnogion o unrhyw fath. Yn y cyfrifiad yn 2021, 37% a osododd tic yn y blwch ‘dim crefydd’. Gellir maddau i ymwelydd newydd o’r blaned Mawrth am gasglu bod y Nadolig, mewn gwlad mor baganaidd â Phrydain, yn ddefod ar ddarfod.
Hyd yn oed os ydych chi’n Gristion ffyddlon, nid Nadolig yw’r ŵyl bwysicaf yn y calendr crefyddol, o bell ffordd. Y Pasg, yn naturiol, sydd wrth galon eich ffydd, yn hytrach na’r Nadolig. Doedd Nadolig ddim yn ganolog i’r eglwys o gwbl tan yn hwyr yn yr oesoedd canol, a ’ta beth doedd dim cytundeb cyn hynny ar y dyddiad cywir i’w dathlu. Yn y ail ganrif ar bymtheg ceisiodd y Piwritaniaid wahardd dathlu’r Nadolig, ar y sail ei fod yn ŵyl wastraffus, Satanaidd. Yn 1643 dywedodd y llywodraeth na ddylai’r bobl ddathlu Nadolig, achos bod eu cyndeidiau ‘have turned this feast, pretending the memory of Christ, into an extreme forgetfulness of him, by giving liberty to carnal and sensual delights’.
A’r rheswm pam bod Nadolig yn tra-arglwyddiaethu heddiw? Mae’r ateb yn syml iawn: anghenion cyfalafiaeth. Gan fod gwario arian a phrynu nwyddau diangen mor ganolog i’n heconomi, mae’n hanfodol ein bod ni’n cael ein denu i afradu ein harian ar anrhegion nad oes ei heisiau i’n teulu, ein ffrindiau ac ein hunain, ar raddfa llawer uwch nag arfer. I rai sectorau o’r economi, mae’r rhan fwyaf o’u hincwm am y flwyddyn yn cyrraedd yn y misoedd yn union cyn Nadolig.
Fydd y Nadolig yn dal i dyfu a thyfu felly? Debyg iawn, oni bai bod chwyldro yn digwydd yn ein ffordd o feddwl am afael ar ragor a rhagor o nwyddau. Ond dyna yn union sydd ei eisiau – i wastraffu llai, nid mwy, o adnoddau’r blaned – os ydyn ni o ddifri am sicrhau dyfodol diogel i’n plant.
A gaf i’ch gadael gydag awgrym mwy positif? Yn yr Alban, tan yn gymharol ddiweddar, doedd fawr o bwyslais ar ddathlu Nadolig. Nos Galan yw’r ŵyl allweddol i’r rhan fwyaf o Albanwyr. Ac os ydych chi’n meddwl amdani, onid yw Nos Galan yn rhagorach o lawer na’r Nadolig? Mae’n groesawgar i bawb, crefyddwyr ac anffyddwyr fel ei gilydd. Ac mae’n digwydd, nid tua diwedd yr hen flwyddyn flinedig sydd ar fin marw, ond ar ddechrau blwyddyn newydd sbon, gyda’i addewid o bethau gwell i ddod.
Beth am Mr Sgrwj felly? Fydd e’n dathlu’r Nadolig, neu ei anwybyddu a chadw ei ddathlu tan Nos Galan? Wel, y gwir yw y bydd e’n cadw’r ddwy ŵyl – dyw e ddim yn moyn cael ei labelu yn ‘sgrwj’ neu’n hymbyg, wedi’r cwbl – ond bydd e’n dathlu’n dawel ac yn gymedrol.
Yes, agree with the Scots, New Year should be the key festival. Best wishes for a healthy and happy 2025
Thank you, Gill. Mr Sgrwj doesn’t expect people to agree with him.
Mae’r Adfent yn dymor hyfryd, na ŵyr y byd, bellach – yn anffodus – un dim amdano!