Cyffro yng Ngholfa, 1912
Pentref bach iawn yw Colfa (Colva), rhyw saith milltir i’r gogledd o Glaerwen (Clyro), cartref Francis Kilvert. Dim rhagor, a dweud y gwir, na hen eglwys, sy’n dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg, a ffermdy, oedd yn arfer bod yn dafarn o’r enw The Sun Inn yn nyddiau Kilvert (‘Mrs Phillips brought me a pint of excellent light bright beer, some hard sweet home-baked bread, and some hard cheese’). A bron dim o bwys wedi digwydd yna erioed. Hyd yn oed ar dudalennau dyddiadur Kilvert dyw Colfa ddim yn derbyn fawr o sylw, ac eithrio am ei ymweliad cyntaf yn 1870, a chasglu rhai caneuon oddi wrth un o’r trigolion.
Ond ym mis Ebrill 1912 digwyddodd rhywbeth rhyfedd iawn yng Ngholfa.
Roedd Denys Corbett Wilson yn awyrennwr arloesol, ac yn enwog am fod y person cyntaf i hedfan o ynys Prydain i Iwerddon. Yn enedigol o Surrey, roedd e’n byw ar y pryd yn Co. Kilkenny. Cychwynnodd o faes awyr Hendon ar 17 Ebrill yn ei fonoplan Blériot XI, mewn ras yn erbyn ei gyfaill Damer Leslie Allen, Sais arall oedd yn byw yn Iwerddon. Ar y ffordd, collodd ei gwmpawd dros y bwrdd, a bu raid iddo lanio ar fyrder mewn cae yn Almeley, ddeunaw milltir o Henffordd. Yno, yn lle aros am ei fecanydd i gyrraedd, prynodd olew i’r injan – yn anffodus, y math anghywir o olew – ac unwaith eto doedd ganddo ddim dewis ond gwneud glaniad arall dan orfod – y tro yma mewn cae yng Ngholfa, 14 milltir i ffwrdd, ar 18 Ebrill. Adroddodd y Hereford Times:
Mr Wilson had some difficulty in alighting owing to the uneven nature of the ground and the smallness of the fields, and he only managed to bring his aeroplane to a standstill a few feet from a hedge. After covering his machine for the night he borrowed a bicycle and made his way through Kington about 7.30 in the evening towards Almeley.
Ymledodd newyddion am yr awyren yn glou, a chyn hir roedd tyrfa o blant ysgol wedi ymgasglu. Cyrhaeddodd y mecanydd, a chynlluniodd Wilson ailgychwyn drannoeth. Fore Sul daeth criw mawr o bobl i Golfa i weld Wilson yn ceisio cychwyn yr awyren. Llwyddodd, ac o fewn awr a hanner cyrraeddodd Gwdig, ei fan cychwyn newydd ar gyfer croesi Môr Iwerddon. Ar ôl taith o awr a 40 munud, glaniodd mewn cae yn Crane, nid nepell o Enniscorthy, Co. Wexford, gan ddifrodi blaen yr awyren trwy fynd i mewn i glawdd yn y broses.
Roedd Wilson yn gallu hawlio ar unwaith mai ef oedd y dyn cyntaf i gwblhau’r daith i Iwerddon. Ym mis Medi 1910 bu bron i Robert Lorraine hedfan yr holl ffordd, ond rhaid iddo lanio yn y môr o fewn golwg o’r arfordir, a nofio am weddill y daith. A beth am Damer Leslie Allen? Cychwynnodd o Gaer yn ddiogel, a fe’i gwelwyd yn mynd heibio i Gaergybi, ond diflanodd e a’i awyren rhywle ar y môr cyn cyrraedd Dulyn.
Un o’r plant a ddaeth i Golfa i weld Wilson a’i Blériot XI oedd Ffransis Payne, bachgen deuddeg oed o Geintun. Yn ei glasur o lyfr Crwydro Sir Faesyfed (cyfrol 1, 1966) mae Payne, a ddaeth yn adnabyddus yn nes ymlaen fel curadur yn Amgueddfa Werin Cymru, yn adrodd y stori (mae’n amlwg nad yw G.W. Ridyard, hanesydd y digwyddiad, yn ymwybodol o naratif Payne):
Cofiaf yn dda am y tro cyntaf imi deithio’r ffordd hon. Rhyw ddydd Sadwrn yn y flwyddyn 1913 oedd [camgymeriad gan Payne: 1912 oedd y flwyddyn], a minnau yr un oed â’r ganrif. Yr oeddwn wedi ymlwybro yn chwyslyd o Geintun ar feic a oedd yn rhy uchel i’m coesau byrion. Nid tarmac esmwyth du oedd ar wyneb y ffordd y diwrnod hwnnw ond cerrig rhydd a grut a llwch gwyn. Yr oeddwn yn mynd i Golfa i weld awyren am y tro cyntaf erioed. Colfa o bobman. Digwyddodd fel hyn. Ddydd Mawrth fe glywyd sŵn fel sŵn beic modur yn yr awyr a gwelwyd gan rai awyren fechan yn ymlusgo’n araf dan y cymylau. Gyda’r nos daeth y newyddion iddi ddisgyn gerllaw Llannewydd, filltir a hanner i’r de o’r fan lle’r ydym yn awr [Camgymeriad gan Payne yma, gan mai yn Almeley fu’r glaniad cyntaf]. Ailgychwynnodd ddydd Gwener a hedodd y ddwy filltir i Golfa a chwympo yn ddisymwth i gae llafur ar dir Pen-twyn. Wrth weld gŵr Pen-twyn yn dyfod ato ar ffrwst dyma’r awerynnwr yn mynd i’w gwrdd a gweiddi, ‘Hey, my man, where exactly am I?’ ‘Thee bist in my fild, by my reckoning, so be pleased to take thyself and that dam consarn out if it!’ Dyna yn ôl yr hanes oedd yr ateb a gafodd. Dyna yn sicr sut y siaradai llawer o’r ffermwyr y pryd hynny cyn dyddiau’r ysgol ramadeg i bawb a’r B.B.C.
Diddorol nodi yma y gwrthdaro rhwng yr awyrennwr dosbarth uchel a’r aelod o ddosbarth gwerinol sir Faesyfed, a sut daeth y byd modern technolegol i gwrdd am eiliad â’r hen ffordd wledig o fyw. Parha Payne:
Ond, wrth lwc, yno ar y cae yng nghysgod yr Allt yr oedd a ‘dam consarn’ o hyd pan gyrhaeddais i ar y Sadwrn pell hwnnw. Yr oedd hefyd yr hyn a ystyriem ni yn llu o bobl yn llygadrythu arni ac ar ei pherchennog. Corbett Wilson oedd enw yr olaf ac ychwanegaf er mwyn cofnodi’r digwyddiad yn llawn fod yr awyren yn fonoplân Bleriot ac ynddi beiriant Gnome o nerth hanner can ceffyl. Rhasio rhyw arloesydd arall i Iwerddon yr oedd Wilson a chredaf i’w gyd-ymgeisydd gwympo i’r môr a boddi. Aeth Wilson yn ei flaen fore Sul a llwyddo i gyrraedd Iwerddon. Clywais ddyfod dros bum cant o bobl ynghyd i edrych arno yn ailgychwyn o Ben-twyn, y dyrfa fwyaf a welwyd yng Ngholfa erioed.
Derbyniodd Wilson ganmoliaeth fawr gan y papurau newydd am ei gamp. Ond dair blynedd yn ddiweddaraf collodd ei fywyd. Ymunodd â’r Royal Flying Corps yn ystod y Rhyfel Mawr, a saethwyd ei awyren ragchwilio i lawr dros Ffrainc ar 10 Mai 1915.