Bye bye, Brinley

August 8, 2025 7 Comments

Doedd y newyddion am farwolaeth Brinley ar 3 Awst ddim yn syndod – roedd yn 96 mlwydd oedd ac yn fregus yn dilyn strôc – ond daeth ton o dristwch mawr drosto i, o feddwl yn ôl dros y blynyddoedd o’n cyfeillgarwch.

Y Llyfrgellydd a’r cyn-Lywydd (2011)

Aeth fy meddwl yn ôl yn syth i’r diwrnod cyntaf welais Brinley, yn Aberystwyth ar 15 Mai 1998.  Roeddwn ar y rhestr fer ar gyfer y ‘barchus arswydus swydd’, Lyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, ac yn aros yn dawel ar fy mhen fy hun cyn mynd i mewn i’r cyfweliad.  Yn sydyn agorodd y drws a chamodd dyn awdurdodol i mewn.  Gyda’i gwisg ffurfiol, sbectol drwchus a llond pen o wallt wedi’i ysgubo nôl o’i wyneb, doedd dim amheuaeth taw Llywydd y Llyfrgell oedd y dyn yma.  Heb rybudd, cydiodd yn fy mraich a’i wasgu’n gryf, a dangos ei ddannedd.  Wedyn, gyda’i law yn dynn ar fy mraich o hyd, llusgodd fi i’r ystafell, heb fawr o esboniad, i wynebu’r panel brawychus.  Fy ymateb cyntaf oedd, tybed pa fath o ddyn yw hwn, Dr R. Brinley Jones?

Ond doedd dim angen becso, wrth gwrs.  Dyna oedd ffordd arferol Brinley o groesawu pobl newydd. Tu hwnt i’r cyfarch arswydus agoriadol, doedd neb oedd mor gyfeillgar a chynnes nag e.

Roedd y cyfweliad yn fwrn.  Cyflwynais fy achos, cyn ateb llu o gwestiynau heriol gan aelodau’r panel.  Un ohonynt oedd, ‘Petai’r Llywydd yn troi atoch chi mewn cyfarfod o’r Cyngor ac yn awgrymu y dylech chi wneud rhywbeth oedd, yn eich barn chi, yn erbyn rheolau’r llywodraeth, beth fyddai’ch ymateb?’  Dwi ddim yn cofio sut atebais.  Ond, fel y dysgais yn fuan iawn, fyddai Brinley, dyn egwyddorol iawn, erioed wedi breuddwydio am wneud y fath awgrym. 

Dr R. Brinley Jones, gan David Griffiths (2002)

Ces i’r swydd a chyrhaeddais i’r Llyfrgell ym mis Hydref 1998.  Dyna oedd dechrau ein perthynas ffurfiol, fel Llywydd a Llyfrgellydd, neu gadeirydd a CEO.  Ond doedd dim byd ffurfiol amdani.  ‘Partneriaeth’ oedd enw Brinley, ac yn wir byddwn ni’n gweithio mewn cytgord tan ddiwedd ei dymor yn 2007.  Os oeddwn mewn perygl o fynd ar gyfeiliorn, ar unrhyw adeg yn ystod ein partneriaeth, byddai’n fy llywio nôl i’r ffordd gywir yn dawel, heb imi sylweddoli bron.  Cyn hir byddai’r ‘partneriaeth’ yn dyfnhau i fod yn gyfeillgarwch agos.  Dyna oedd y stori arferol, mae’n siŵr, yn achos llawer o’i gysylltiadau personol.

Yn fuan daeth ei hanes personol yn gyfarwydd imi – roedd yn hoff o siarad am ei orffennol ei hun. Clywais i straeon di-rif dros y blynyddoedd nesaf am ei fywyd cyn y Llyfrgell.  Hanodd ei rieni o Flaenau Ffestiniog, ond roedd yn hynod falch o gael ei fagu ym Mhenygraig, Rhondda.  (Roedd e wrth ei fodd pan gynhaliodd Cyngor y Llyfrgell gyfarfod allanol yng Nghapel Soar, ei hen gapel ac erbyn hynny bencadlys yr elusen Valleys Kids, ym Mhenygraig yn 2007).  Ar ôl Ysgol Ramadeg Tonypandy a Choleg Prifysgol Caerdydd, aeth i Goleg yr Iesu, Rhydychen – eto, roedd e’n falch iawn o’r cyswllt hwn, ac yn nes ymlaen lluniodd nifer o gyhoeddiadau am y Cymry a’r Coleg dros y canrifoedd.  Yn 1970 cyhoeddodd The old British tongue, llyfr seiliedig ar ei ddoethuriaeth, oedd yn trin yr iaith Gymraeg ysgrifenedig yn ystod y Dadeni.

Brinley yn grwt ysgol

Amrywiol oedd gyrfa Brinley.  Gweithiai fel swyddog addysg gyda’r RAF ac athro mewn ysgol ym Mhenarth, cyn dod yn ddarlithydd mewn addysg yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe.  Roedd ganddo atgofion melys o’i amser fel warden yn Neuadd Clun, lle’r oedd y dasg o ofalu am y myfyrwyr yn gweddu i’w sgiliau rhyng-bersonol.  Yn ddiweddarach penodwyd yn Gyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru, swydd a ddaeth â phleser arbennig iddo.  Un o’i gampau yna oedd cychwyn y gyfres o lyfrau ‘Writers of Wales’, a fe a Meic Stephens (‘priodas ysblennydd dau feddwl’, chwedl Brinley) oedd y ddau olygydd ar gyfer dros gant o’r cyfrolau.  Wedyn, ymlaen ag e yn 1976 i Goleg Llanymddyfri i fod yn ‘Warden’ neu brifathro, cyn ymddeol yn 1988.  Eto, roedd yr ochr fugeiliol o’r swydd yn apelio’n fawr iddo, ac mae lawer iawn o’r myfyrwyr yn ei gofio gyda chynhesrwydd.

Ond roedd Brinley yn weithgar llawer tu hwnt i’w waith swyddogol.  Bu’n aelod (yn aml, yn gadeirydd) ar nifer fawr o sefydliadau a phwyllgorau, yn yr Eglwys yng Nghymru, y byd darlledu, y Cyngor Prydeinig, prifysgolion, diwylliant, twristiaeth a mwy.  Yn y 1960au byddai’n darlledu ar y teledu a’r radio, fel cyflwynydd rhaglen Gymraeg ar y celfyddydau, ac un o ddyfeiswyr y cwrs teledu cynnar ar TWW i ddysgwyr y Gymraeg, Croeso Christine.

Gŵyl y Gelli (2006)

Dyn amryddawn tu hwnt, felly: ysgolhaig, addysgwr, cyhoeddwr a llawer mwy.  Ond ei bwnc arbenigol, heb os, oedd pobl.  Roedd ei ddiddordeb ym mhobl – bron pawb y daeth mewn cyswllt â nhw – yn ddilys, yn gynnes ac yn barhaol.  Os oeddech chi wedi cwrdd ag e unwaith, byddai fe’n siŵr o’ch nabod yr ail waith, ac yn cofio eich enw.  Mewn cwmni, byddai’n gwneud yn siŵr ei fod yn eich cyflwyno i bobl eraill.  Os oeddech chi’n cwrdd yn amlach, byddai’n eich cefnogi ac annog yn gyson.  Byddai’n siŵr o gadw mewn cyswllt, trwy lythyr neu nodyn neu alwad ffôn, a bob tro byddech chi’n clywed geiriau caredig.

Doeddwn i ddim wedi bod yn y Llyfrgell Genedlaethol am amser hir cyn sylweddoli bod Brinley yn nabod y rhan fwyaf o’r staff, ac yn cofio eu henwau – ac roedd bron i 300 o weithwyr bryd hynny.  Yn fwy na hynny, yn aml iawn byddai’n gwybod enwau eu partneriaid a’u plant a’u rhieni.  Dim ots pa swyddi roedden nhw’n yn ei llenwi, porthor neu guradur, byddai Brinley wastad yn trin pawb yn gyfartal. 

Llywydd PC y Drindod Dewi Sant: seremoni raddio, Abertawe (2013)

I fi, dawn syfrdanol oedd y gallu hwn i gofrestru wynebau ac enwau.  I ddechrau, roedd gen i theori ei fod yn cadw mynegai ar gardiau rywle gartref, er mwyn dysgu’r holl fanylion hyn ar ei gof.  Ond nid felly.  Y rheswm pam roedd yn medru cofio popeth oedd oherwydd ei chwilfrydedd naturiol am bobl, a’i awydd greddfol i gymryd gofal ohonyn nhw.  Yn naturiol, roedd ei deulu – Stephanie, Rhys a Lowri fach – yn golygu’r byd i Brinley, ond roedd hi fel petai pob un arall o’i gydnabod yn rhan o ryw deulu estynedig iddo.

Byddai’r math yma o drin pobl yn ei dro yn peri i bawb barchu ac edmygu Brinley, ac yn wir doedd gan neb, yn y Llyfrgell a thu allan, air yn ei erbyn.

Neuadd y Ddinas, Caerdydd (2008)

Brinley oedd wyneb cyhoeddus y sefydliad: yn llywyddu mewn digwyddiadau cyhoeddus, yn arwain mewn cyfarfodydd gyda gweinidogion y llywodraeth, ac yn cadeirio cyfarfodydd o’r Cyngor (y Bwrdd erbyn hyn).  Roedd ganddo fantais fawr, oherwydd ei ddawn ragorol am siarad yn gyhoeddus.  Cyn cychwyn ar yr agenda ffurfiol, byddai wedi paratoi, ar ffurf nodiadau ar bapur, ryw ragymadrodd i’r cyfarfod, oedd yn cynnwys newyddion a jôcs a straeon, ac yn cyfeirio at sawl un oedd yn bresennol.  Dyna oedd ei ffordd o wneud pawb yn gartrefol a sicrhau bod ’na awyrgylch cyfeillgar, hamddenol, cyn bod y dadlau’n dechrau.  Ar y llwyfan, byddai’r un jôcs yn dod allan drosodd a throsodd, ond i’r un ymateb hwyliog bob tro.  Un o’i ffefrynnau oedd y stori am iddo gyrraedd y Llyfrgell unwaith, i’w groesawi gan ddyn â’r geiriau, ‘Bore da, dewch i gwrdd â Llywydd y Llyfrgell!’  ‘Ond fi yw Llywydd y Llyfrgell.’  ‘Peidiwch â becso’, meddai’r dyn, ‘dewch i gwrdd ag e eniwê’.

‘Bonheddwr’ oedd y gair y defnyddiai llawer o’i gydnabod i grynhoi cymeriad Brinley.  A dyna’r union ffigur sy’n edrych allan o’r portread swyddogol ohono a beintiodd David Griffiths tua diwedd ei dymor fel Llywydd y Llyfrgell.  Heddiw mae’r gair ‘bonheddwr’ yn perthyn i oes a fu, ac yn wir, i raddau roedd Brinley yn anaddas i’r byd modern.  Wnaeth e erioed lwyddo i addasu i’r byd digidol newydd.  Pensil, meddai’n daer, oedd ei unig offer ysgrifennu.  Wnaeth e erioed dysgu sut i yrru car, a Stephanie oedd ei chauffeuse trwy’r amser.

Brinley a Stephanie (2010)

Bydden ni’n cwrdd yn aml eu cartref, ‘Y Drovers’ ym Mhorthyrhyd, Llanwrda, a thrafod busnes y Llyfrgell yn stydi Brinley, sef hen sied ar wahân i’r tŷ, llawn dop o lyfrau a phapurau.  Y tu allan yr oedd sŵn Nant Mynys, a’r anifeiliaid – Charlie y ci, ceffyl ac ieir.  Ar bwys y sied roedd yr hen feudy, a dyma le arferai’r Jonesiaid, o bryd i’w gilydd, wahodd gwesteion i gael cinio dydd Sul a llawer o siarad gwâr.  Roedd yn fraint bod yn bresennol, a Brinley yn llywyddu yn ei ffordd arbennig arferol.

Ar ôl iddo adael y Llyfrgell bydden ni’n galw heibio i’r Drovers yn achlysurol, bron tan y diwedd, a siarad am hyn a’r llall.  Sawl gwaith dywedodd e taw un o uchafbwyntiau ei fywyd oedd cael bod yn Llywydd y Llyfrgell.  A byddwn i’n cytuno, o’m rhan i: roeddwn yn teimlo bod fy nghyfnod yn y Llyfrgell yn amser arbennig iawn.  A braint fawr imi oedd gwasanaethu yn y sefydliad rhagorol hwnnw ar y cyd â dyn oedd ymhlith y bobl fwyaf dysgedig, hynaws a charedig.

Ar ddiwedd ein sgyrsiau ar y ffôn dywedwn i ‘hwyl fawr’ neu ‘hwyl’ – Cymraeg oedd ein hiaith, o’r diwrnod cyntaf y mis Mai 1998 – ond byddai Brinley yn ffarwelio bob tro trwy ddweud, ‘bye bye’.  Fydda i ddim yn clywed y geiriau hynny eto, gwaetha’r modd.

Comments (7)

Trackback URL | Comments RSS Feed

  1. Alan Richards says:

    Teyrnged hyfryd

  2. Gill Lewis says:

    Thank you Andrew, what a legend

  3. Gwyn Jenkins says:

    Teyrnged hyfryd i ddyn hyfryd. Diolch Andrew.

  4. Dafydd Tomos says:

    Diolch yn fawr am y deyrnged a’r atgofion gwerthfawr Andrew. Roeddwn yn ceisio crynhoi gwybodaeth amdano ar gyfer Wicipedia a doedd fawr ddim o ffynonellau. Roedd peth o’r hanes yma yn gymorth fel ffynhonnell ychwanegol felly mae’r erthygl ar https://cy.wikipedia.org/wiki/R._Brinley_Jones

    Roedd fy niweddar Dad, Russ Thomas yn ei nabod hefyd yn rhinwedd ei swydd.

    • Andrew Green says:

      Diolch yn fawr iawn, Dafydd – mae Brinley yn llawn haeddu cofnod yn Wicipedia – a Wikipedia, o ran hynny.

  5. Dafydd Gwyn Jones says:

    Teyrnged hyfryd. Diolch am rannu.

Leave a Reply