Rhedwr Sul

June 14, 2013 0 Comments

Running shoesBob bore Sul, rhwng saith ac wyth o’r gloch, bydda i’n codi o’r gwely, gwisgo (siorts, crys-T, hen sgidiau), gadael y tŷ, a rhedeg.

Yn 1964 dechreuais i redeg  yn wythnosol, cyn gadael yr ysgol gynradd yn ein pentref ni, Hoylandswaine, yn yr hen ‘West Riding’.  Erbyn hyn, hanner canrif yn ddiweddarach, mae’n rhy hwyr imi newid yr arfer.

Fydda i byth yn ‘twymo’ cyn cychwyn, yn ôl cyngor y gwerslyfrau rhedeg: dim ond cau’r drws yn dawel, troi i’r dde a dilyn yr heol lawr tua’r Bae – bron heb feddwl, achos taw hwn yw’r llwybr arferol – oni bai bod amgylchiadau arbennig fel glaw trwm neu anaf i’r goes.

Fyddwch chi byth yn gweld rhywun arall gyda fi.  A dweud y gwir, mae’n gas gen i fynd allan yng nghwmni rhedwr arall.  Yr unig berthynas sy’n cyfrif yw’r berthynas rhwng eich deudroed, eich pen, a’r byd sy’n mynd heibio: does dim digon o le i ofidio am rywun arall wrth eich ochr.  Mae’n wir fy mod i’n aelod unwaith o’r clwb ‘Red Dap’ yng Nghaerdydd nôl yn yr wythdegau – ond clwb dau aelod oedd hwnnw, a doedd dim bwriad ‘da ni erioed i gystadlu neu hyd yn oed siarad: prif fantais y ‘clwb’, a bod yn onest, oedd yr hawl i wisgo’r crys-T (coch, wrth reswm).

Weithiau, ar ôl tywydd stormus, cyn dechrau disgyn tua’r môr bydda i’n clywed sŵn y tonnau yn y pellter, ac o bosib bydd syrffiwr neu ddau gyda’u byrddau lliwgar i’w gweld ar y traeth.  Ar adegau eraill fe welaf ddau ffigwr arall yna, ar fin ymdrochi.  Cyn-athro prifysgol ac artist adnabyddus yw’r rhain, sy’n mynd i mewn i’r môr yna bob dydd, ‘sdim ots am y llanw, y tywydd neu’r tymheredd.

Nesa, i fyny’r llwybr uwchlaw’r môr: môr sy’n wahanol bob dydd, o ran lliw, egni, pellter a llais.  I’r dde imi, y creigiau carreg galch; i’r chwith, yr eithin melyn llachar, sydd ar fore heulog o haf yn rhyddhau ton ar ôl ton o wres at eich wyneb a’ch corff.

Langland cliff path

Cyn hir mae’r llwybr yn codi tua ei uchafbwynt ar bwys Whiteshell Point.  Yma ycyhydig flynyddoedd yn ôl gosododd y Cyngor slabiau concrid llydan dan droed: naw panel ac wedyn deg stepen, pob un i’w gyfrif a’i gyfarth yn ei dro, wrth i’r coesau ddechrau cwyno cyn cyrraedd y gopa.  A dyma lle mae’r rhedwr, yn ystod y gaeaf, yn cwrdd â’r haul am y tro cyntaf – a theimlo ei galon yn dechrau codi.

Dim ond llond llaw o bobl sydd i’w gweld ar y llwybr yr adeg yma o’r bore (mae’n dra gwahanol yn y prynhawn). Maen nhw’n disgyn i ddau gategori: rhedwyr eraill a pherchnogion cŵn.  Dros y blynyddoedd – yn 1992 dechreuais i  redeg ar hyd y llwybr hwn – mae’r nifer o redwyr wedi cynyddu (ac yn arbennig ers y gemau Olympaidd llynedd), ond fy hoff redwyr yw’r rhai sy’n gyfarwydd imi o’r blynyddoedd cynnar – pobl sy wedi heneiddio gyda fi.  Y peth rhyfedd am rain yw fy mod i’n gwybod dim byd mwy amdanyn nhw nawr nag o’n i’n gwybod ugain mlynedd yn ôl: mae eu hwynebau a’u hosgo yn adnabyddus iawn, a byddwn ni’n siŵr o wenu a chyfnewid ‘bore da’, ond dyn ni erioed wedi torri gair pellach.

Dyw’r ‘bobl cŵn’ ddim mor ffyddlon, gydag un eithriad: menyw fach dwt sy’n dilyn pwdl bach twt.  Cantores yw hi, yn ôl y sôn, ond fyddwn i erioed wedi darganfod hynny fy hun: ‘hiya’ a gwên hyfryd yw’r unig gyfathrebu sy’n digwydd rhyngon ni dros flynyddoedd maith.  Ond eto, perthynas agos ac unigryw sy ‘da ni erbyn heddiw: byddai stopio a sgwrsio yn rhwym o ddinistrio’r hud.

Rothers Tor

Fel arfer, wedi cyrraedd y trydydd bae, Rotherslade, bydda i’n gwyro o lwybr yr arfordir a dringo’r heol tuag at y brif ffordd, tu heibio i’r fflatiau lle mae’r trigolion yn gysglyd o hyd.  Weithiau, ond ddim yn aml y dyddiau hyn, bydda i’n teimlo’n ddigon egnïol i barhau a dilyn y llwybr at Ben y Mwmbwls.  Yn Verdi’s mae’n bosib gweld y bobl druenus ‘ny sy mor gaeth i’r cyffur coffi fel eu bod yn ymgasglu yna ymhell cyn bod y gwasanaeth yn dechrau.  Wedyn nôl trwy Fynwent Ystumllwynarth, lle mae’r trigolion yn cysgu yn drwm ac yn hwyr.

Oystermouth cemetery

Efallai eich bod chi’n gofyn y cwestiwn ‘Beth am y rhedwyr eraill?  Ydych chi’n eu gadael ymhell y tu ôl ichi?’  Y gwir trist yw bod neb yn arafach na fi ar y ‘circuit’, gydag un eithriad, fy hen gyfaill L. (diolch iddo).  Hoffwn i weiddi ar eu hôl, wrth iddynt fflachio heibio, ‘ydych chi’n sylweddoli eich bod chi’n ddeugain mlynedd yn iau na fi?’, ond dwi’n gwybod i sicrwydd fy mod yr un mor araf pryd ro’n i’n ifanc fy hun.

Ond pa ddiben sydd i’r holl ruthro?  Fydda i byth yn cystadlu mewn stadiwm.  A beth sy’n digwydd i’r rhai sy’n gwneud ffetis allan o redeg?  Marwolaeth sydyn yw’r ateb, fel yn achos y diweddar James F. Fixx, awdur llyfr yn dwyn y teitl The complete book of running, a phrif efengylwr rhedeg: trawiad ar ei galon oedd ei ffawd a’r unig ganlyniad i’w ymdrechion i ragori.    A sôn am lyfrau am redeg, mae’n peri tristwch imi fod y rhan fwyaf o lyfrau ar y pwnc yn ymwneud â rhedeg eithafol fel hyfforddi at farathons, a’r pleser o boen a dioddef yn y ras (enghraifft dda yw What I talk about when I talk about running gan y nofelydd Haruki Murakami).  Onid oes lle i lyfrau am ‘redwyr dydd Sul’ fel fi?

O’r diwedd dyma fi’n cwblhau’r cylch ar ôl deugain munud a chyrraedd ein stryd ni.  Ar ôl stopio, bob tro mae ‘na ddefodau penodedig i’w dilyn, fel cyfres fer o ymarferiadau corfforol er mwyn ymestyn y coesau a’r breichiau.

Ond cyn hynny dwi angen gwneud rhywbeth arall.  Bydda i’n sefyll yn hollol lonydd, hanner ffordd lawr y lawnt yng nghefn y tŷ, am funud neu ddwy – gyda’r gwaed yn rhuthro rownd y corff o hyd, a’r meddwl yn hollol glir –  i edrych ar yr haul yn dringo uwchben y clawdd gyferbyn, ac i wrando ar gân ddi-ben-draw’r bronfreithod a’r adar duon o amgylch yr ardd.

Runner

Filed in: cymraeg, travel • Tags: , ,

Leave a Reply