Blodau a breuddwydion

October 25, 2024 0 Comments

Cysur mawr, yn y cyfnod hwn o boen a galar, yw ymweld â Glenys yn ei thŷ yn y Mwmbwls â’i olwg digymar dros Fae Abertawe.  Dyma ni’n dau’n cerdded lawr ’na amser coffi.  Rownd bloc y teras, tu heibio i’r lotments yn haul y bore, trwy’r ardd gyda’i choeden palmwydd a’i cherflyn metal ar ffurf blodyn, i’r drws cefn.  Ar gau am unwaith, felly nôl â ni i’r blaen ac aros am i’r prif ddrws coch agor.  Symuda Glenys yn araf ac yn garcus erbyn hyn, ond dyw’r croeso byth yn newid: gwên lydan, cofleidio, ac arwain y ffordd i’r lolfa.  Nid lolfa’n unig mo hon, ond palas celf – peintiadau gan Glenys ac eraill, cerfluniau gan ei gŵr Ronald Cour, pob math o bethau lliwgar ar wasgar trwy’r stafell (lliw llachar, wrth gwrs, yw arwyddnod Glenys).


Eistedd nôl yn ei chadair arferol.  Ffigur mwy bregus erbyn hyn, ond y llygaid yn pefrio o hyd, a’r geiriau’n llifo’n hawdd. Dim cymaint o sgwrs am ddigwyddiadau diweddau – dyw’r cof ddim cystal ag yr oedd – ond atgofion clir o gyfnodau o’i bywyd yn y gorffennol.  Neu, yn hytrach, lluniau neu ‘clipiau ffilm’ o’r cof o’r amser a fu.  Er enghraifft, cerdded lawr heol yn yr Uplands, yn syth ar ôl marwolaeth annhymig Ronald, a’r dagrau’r llifo lawr ei gruddiau, a hen fenyw yn ei stopio i ofyn am ba reswm roedd hi’n ei dagrau.  Neu atgof o ddisgyn o fws rywle ym Morocco, tra oedd Ronald a hi ar eu gwyliau yng ngogledd Affrica, ac yn sydyn gweld dyn ifanc â phenwisg drawiadol o liw glas llachar.


Pawb yn dweud yr un peth.  Yr hyn sy’n cadw Glenys yn mynd – bydd hi’n 101 oed cyn hir iawn – yw ei chelf.  Bob bore bron bydd hi’n dringo i’w stiwdio lan llofft a gweithio – ar bapur fel arfer y dyddiau hyn, yn hytrach nag ar gynfas neu mewn collage.  Wedyn, dilyn yr hen batrwm: dod â’r gwaith newydd i lawr y grisiau a’i ‘groesholi’, dros nifer o ddyddiau, rhag ofn bod angen newid rhyw siâp neu liw.


Heddiw, dyma bump neu chwech o luniau newydd ar y ford, ac ar ddiwedd ein sgwrs trown ni i edrych arnyn nhw’n fanwl.  Y rhai llai’n dirluniau dychmygol, yr esiamplau diweddaraf o gyfres hir o’r fath luniau a ysbrydolwyd gan dirwedd Penrhyn Gŵyr.  Efallai bod y rhain yn fwy tywyll na’r rhai cynt, ond ynddyn nhw fe welwch chi’r un nodwedd fel o’r blaen: y llwybr sy’n troelli o’r blaendir i’r pellter.


Mae’r llun mawr yn wahanol: bwa mawr, tywyll ar gefndir porffor sy’n fframio fas o flodau coch, glas a melyn.  Fel mewn nifer o’r lluniau tebyg diweddar, mae’r blodau, sy’n cael eu llwytho gan beint trwchus, mor nwyfus a lawn bywyd fel eu bod yn ffrwydro bron o’r papur tuag atoch chi.  Dywed Glenys ei bod hi’n byw fwyfwy ar dir ei dychymyg ac yn ei breuddwydion, a dyma lun sy wedi teithio’n syth o’r wlad honno.

Yr amser wedi dod i ymadael.  Codi, cofleidio’n gynnes, ac addo dod eto cyn hir.  Mae’r traffig yn pasio heibio ar Mumbles Road mewn llif di-stop – a di-hid.  Ychydig iawn o’r gyrwyr fydd yn ymwybodol o’r trysorau sy’n cuddio y tu ôl i’r drws coch.

Filed in: art, cymraeg • Tags: , ,

Leave a Reply