Glenys Cour: can mlynedd o liw
Ar 6 Ionawr 2024 ymgasglodd cryn nifer o gyfeillion a chyd-artistiaid yn ei thŷ yn y Mwmbwls i ddathlu pen-blwydd Glenys Cour yn 100 mlwydd oed. Eisteddai Glenys yn ei chadair arferol yn y lolfa, gyda’i golygfa wych dros Fae Abertawe, wrth i gyfeillion ddod ati fesul un, plygu drosodd neu benlinio, a dymuno’n dda a hir oes (eto) iddi. Fel bob dydd, dewisodd hi ddillad a gemwaith nodweddiadol lliwgar a hardd, i gyd-fyn â’i pheintiadau ar waliau’r ystafell. Roedd cacen gyda chanhwyllau, champagne a llwncdestun, araith fer a chlapio, ac awyrgylch cynnes, llawn cariad.
Mae’n anodd meddwl am artist gweledol cyfoes arall yng Nghymru sy wedi dod â chymaint o lawenydd pur i fywydau pobl. Am ddegawdau dyn ni’n syrffedu ar y math o gelf, sef celf gysyniadol, sydd â’r nod o’n gwneud ni i feddwl yn hytrach nag i deimlo. Llawer mwy na theimlad, wrth gwrs, sydd y tu ôl i gelf Glenys. Dysgodd hi ei chrefft yn ofalus gan artistiaid mawr fel Ceri Richards. Prif arfau ei chrefft hi, a ffynhonnell ei theimladau celfyddydol nwydus, yw lliw. Neu, i fod yn fanwl gywir, golau a lliw. Yn aml bydd Glenys yn adrodd yn stori am sut gafodd llyfr enwog Josef Albers Interaction of color effaith chwyldroadol ar y ffordd edrychai hi ar liw, a sut i wneud y defnydd gorau ohono.
Ac er bod yna lawer o beintwyr, o Marc Rothko ymlaen, sy wedi gosod blociau o liwiau mawr, moethus ar eu cynfasau, go brin y byddai neb yn priodoli lluniau Glenys i unrhyw artist arall. Mae ei steil yn unigryw. Cymerwch y llun uchod sydd yng nghasgliad Oriel Gelf Glyn Vivian. Mae’n dyddio o 1984, pryd roedd tirluniau o Benrhyn Gwŷr yn gyffredin yn ei gwaith. Fel llawer o’r gweithiau hyn, mae’n ymylu ar fod yn llun haniaethol, gyda’i barthau mawr o liwiau cryfion: pinc, coch, oren, gwyrdd a dulas. Dyw Glenys byth yn petruso cyn gosod lliwiau annhebyg yn agos at ei gilydd, ac eto rhywsut mae ei brwsh yn cyrraedd cytgord. Mae holl fanylder tirwedd arfordir Gwŷr – y creigiau, yr eithin, tonnau’r môr – un cael ei symleiddio a’i drawsffurfio.
Roedd Glenys yn rhan o’r adran wydr lliw yng Ngholeg Celf Abertawe. Dyw hi ddim yn anodd dychmygu bod y lliwiau yn y llun hwn yn derbyn eu golau trwy belydrau’r haul sy’n ffrydio trwyddo, fel petai, o ochr arall y cynfas. Yn sicr mae’r cyfuniad cyfoethog o liwiau’n dod â byd delfrydol, perffaith i fodolaeth o dan yr awyr cwbl las, trwy ryw alcemeg hudol. Ond dyw eich llygad ddim yn llonydd; mae’n cael ei arwain i mewn i’r llun, o’r gwaelod, ar hyd llinell groes, i’r canol. Teitl y gwaith yw ‘Cliff Path’, ac fel mewn sawl llun arall o’r cyfnod, mae Glenys yn cynnig llwybr neu lôn i’r gwyliwr: ffordd o deithio o’n byd ni i fyd amgen y tirlun. Gall ‘y byd lliwiau’ ymddangos yn anghysbell, ond i’r cerddwr sy’n dilyn y ffordd gywir mae e o fewn cyrraedd.
Fel yn achos y ‘tirluniau’, mae lluniau ‘bywyd llonydd’ Glenys yn dangos yr un cydbwysedd rhwng tawelwch a symud – neu, yn achos yr ail lun, rhywbeth yn debyg i ffrwydrad. Peintiodd Glenys y gwaith dienw hwn dros 30 mlynedd ar ôl ‘Cliff Path’, ond dyma rai o’r un lliwiau llachar, beiddgar, megis oren, melyn a phinc, yn yr un cyfuniadau annisgwyl.
Er bod y pot o flodau i’w weld yn eistedd yn sgwâr ac yn solet ar ganol ei ford fach, mae ganddo ryw egni mewnol, bron fel petai ar fin crynu neu neidio. O’i gwmpas mae cylch o olau, fel petai e ar lwyfan theatr, a’r tywyllwch at bob ochr, ac yn syth y tu ôl i’r pot a’i gynnwys y mae troellen o olau gwyn (ag arlliw o borffor), sy’n bwrw’r blodau i’r blaen, fel petaen nhw’n cael eu gwthio tuag at y gwyliwr. Weithiau, fel yn y gwyll, mae i’r cyfansoddiad cyfan naws annaearol, ysbrydol sydd â’r gallu i’ch dychryn. Ar adegau eraill, mae’n ddigon i sefyll o flaen y llun a gadael i’r lliwiau soniarus dreiddio i’r llygaid a’r meddwl.
Fe fydd gan bob un ymateb gwahanol i luniau Glenys. Ond ychydig o bobl fydd yn methu ag ymateb mewn ffordd reddfol, gref. Am hyn oll, rhaid dweud diolch, Glenys, ganwaith, am roi cymaint o bleser i’r byd.
Cynhelir arddangosfa newydd, ‘Can mlynedd o Glenys Cour’, yn y Mission Gallery, Abertawe, o 3 Chwefror i 4 Mai 2024.
Teyrged hyfryd. Edrych ymlaen i’r arddangosfa yn Y Mission. Fe es i weld y Capella di Scrovegni yn Padua, “ Glas Giotto a glas Glenys” !