Erlid ac alltud: Heini Gruffudd a W.G. Sebald
Does fawr o wirionedd yn yr honiad na all llyfrau Cymraeg ddod i afael â digwyddiadau mawr y byd. Ond os ydych chi’n dod i hyd i rywun sy’n ceisio ei honni, yr ateb syml yw ‘Darllenwch Yr erlid gan Heini Gruffudd’.
Erchyllterau gwaethaf yr ugeinfed ganrif – dinistr yr Iddewon gan y Natsïaid – yw thema’r llyfr. Neu, i fod yn fanwl gywir, effeithiau’r erlid hwnnw ar un teulu yn yr Almaen (teulu mam yr awdur) – yr aelodau ohono sy’n aros yn y wlad ac yn ymdrechu i oroesi, ac un aelod – Kate Bosse-Griffiths, mam Heini – sy’n alltud, ac yn ymgartrefu mewn gwlad lle mae’r dinasyddion ar fin mynd i ryfel yn erbyn ei mamwlad.
Yn y rhagymadrodd esbonia Heini pa mor anodd oedd penderfynu adrodd y stori o’i deulu Almaenig. Roedd cymaint o dystiolaeth ar bapur – ‘mil a mwy o ddalennau ym meddiant y teulu’ – a pheth anodd oedd gwneud dewis ohonynt. Dyn nhw ddim yn gyflawn chwaith, medd yr awdur, a rhaid bod yn barod i ddehongli cynnwys y llythyrau a dyddiaduron yng ngolau amgylchiadau eu hamser.
Does dim sôn gan Heini am anhawster arall a allai fod wedi’i wynebu: ysgrifennu am ddigwyddiad mor bersonol boenus. Mae’n anodd credu nad oedd y dasg o ymchwilio a rhoi at ei gilydd y stori o’i deulu yn peri ing a gofid i Heini. Ac eto does dim arwydd o hyn yn y llyfr, sy’n dweud hanes y teulu o ddechrau’r tridegau tan ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd mewn ffordd seml a phlaen. O dro i dro ceir tudalennau sy’n rhoi cefndir i’r digwyddiadau, fel hen hanes gwrth-Iddewiaeth yn nhref Wittenberg, cartref tad-cu a mam-gu Heini, Paul a Kaethe Bosse. Ond ar y cyfan mae Heini yn gadael i’r stori lifo trwy’r dogfennau. Mae’n cynnwys ugeiniau o ddyfyniadau o lythyrau, dyddiaduron a cherddi gan aelodau’r teulu, ffotograffau teuluol o’r cyfnod, ac, yn fwy iasoer, gopïau o ddogfennau Natsïaidd, biwrocrataidd ac annynol ar yr un bryd.
Yn y rhan ganolog o’r llyfr gallwn ni ddilyn sut y daeth bywyd yn fwyfwy annioddefol i’r teulu ar ôl 1933, wrth i’r Natsïaid gryfhau eu gafael ar rym a dwysáu eu herlid ar bobl o dras Iddewig. Tarddiad y problemau i deulu Bosse oedd y ffaith bod Kaethe yn dod o deulu Iddewig. O dipyn i beth mae Paul a Kaethe a’u teulu estynedig yn cael eu cau allan o’r gymdeithas o’u cwmpas. Pethau bach i ddechrau. Gwaharddwyd Gunther, un o’r meibion, o’r clwb tenis. Wedyn bu raid i Paul roi gorau i’w swydd gyhoeddus mewn ysbyty – er y gwelwyd e gan lawer fel ‘arwr’ am achub bywydau sawl un oedd wedi dioddef mewn ffrwydriad mewn ffatri gyfagos i Wittenberg yn 1935. Sefydlodd e glinig preifat, oedd yn llwyddiant am gyfnod, ond gosododd yr awdurdodau gyfyngiadau llym arno e a’i gwsmeriaid. Ar ôl 1939 daeth yr erlid yn gryfach byth, yn arbennig am yr ymgais aflwyddiannus gan von Stauffenberg i ladd Adolf Hitler yn 1944. Arestiwyd nifer o’r teulu, gan gynnwys Kaethe, a anfonwyd i wersyll Ravensbrück. Bu farw yno rhywbryd yn hwyr yn 1944 neu’n gynnar yn 1945 dan amgylchiadau ansicr.
Mae dilyn hynt a helynt Paul a Kaethe, a’u plant a’i teulu ehangach, yn codi pob math o gwestiwn i’r darllenydd, ond y prif gwestiwn, heb os, yw ‘Beth fyddwn i wedi’i wneud o dan yr un amgylchiadau?’ Ymladd yn erbyn y drefn – er bod y drefn yn hollalluog ac yn ddidrugaredd? Dianc o’r wlad, fel y gwnaeth Kate? Neu aros gartref a cheisio ymdopi rhywsut â’r sefyllfa?
Trwy’r llyfr mae Heini yn cyd-blethu hanes y teulu yn yr Almaen gyda stori Kate, merch ieuangaf Paul a Kaethe ac Eifftiolegydd addawol, oedd wedi mudo i Loegr yn 1936, wedi colli ei swydd mewn amgueddfa ym Merlin oherwydd ei thras hanner Iddewig. Rhaid ei bod yn teimlo’n ansicr iawn, ar ei phen ei hunan fel merch ifanc mewn gwlad estron ar drothwy rhyfel, ond roedd Kate yn anarferol o ddyfeisgar a hunangynhaliol – ac yn ddigon lwcus i gwrdd â chyd-ymchilydd o’r hen Aifft yn Rhydychen yn gynnar yn 1939: J. Gwyn Griffiths. O fewn misoedd – a dim ond dyddiau cyn dechrau’r Rhyfel – roedd y ddau’n briod, a chyn hir yn byw yn y Rhondda.
Dau beth sy’n drawiadol am fywyd Kate yn y Pentre, Rhondda: pa mor gyflym y daeth hi’n rhan o’r gymdeithas Gymreig a Chymraeg yn yr ardal, gan ddysgu’r iaith yn drylwyr (ac yn nes ymlaen dod yn awdur a llenor yn y Gymraeg), a sut aeth hi ati i fod yn ganolbwynt i grŵp o lenorion Cymraeg, Cylch Cadwgan, yr oedd ei chartref yn ganolfan iddo. Heddychwyr, ar y cyfan, oedd aelodau’r Cylch, ac felly mewn sefyllfa unig a lletchwith trwy flynyddoedd y Rhyfel. Nid yn unig heddychwyr ond cenedlaetholwyr Cymreig: mewn llythyr at Kate ar 2 Medi 1939, meddai Gwyn, ‘… if we believed in fighting at all we would prefer to support Germany in the present case, than England [sic]’: sylw eithafol ac annoeth, ychydig ddyddiau cyn dechrau’r Rhyfel.
I Kate y profiad gwaethaf trwy’r Rhyfel oedd ei ansicrwydd am sefyllfa gweddill y teulu yn yr Almaen. Ychydig o newyddion a ddaeth amdanynt, a doedd pob neges ddim bob tro’n ddibynadwy: cyhoeddodd un ohonynt farwolaeth Fritz, brawd Kate – yn anghywir.
Mae profiad cadarnhaol Kate Bosse-Griffiths yn dra gwahanol i ffawd yr alltudion o’r Almaen i Loegr y mae ei hanesion yn cael eu hadrodd yn llyfr enwog W.G. Sebald, Die Ausgewanderten (1992) – cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg, The emigrants, yn 1996. Dyma straeon pedwar dyn a’r pwysau meddyliol ofnadwy sydd arnynt oherwydd eu cof am brofiadau eu teuluoedd ar y cyfandir, a’r trawma sy’n aros ynddynt o hyd. Mae dull ysgrifennu Sebald yn wahanol iawn i ddull Heini – llawer yn fwy awgrymog ac anuniongyrchol. Fel yn Yr erlid, mae gan Sebald ffotograffau, ond heb fanylion i’w dogfennu: maent yn fwriadol aneglur ac amwys. Ond mae’r ddau lyfr gyda’i gilydd yn cynnig darlun cymhleth a chyfoethog o brofiad pobl sy’n byw mewn gwlad newydd ac estron ond sy’n byw hefyd, yn eu meddyliau, yn y wlad maent wedi gorfod ei gadael ar ei hôl.
Dyw erlid na gorfod ffoi o’ch gwlad ddim yn anghyffredin heddiw, ac yn wir mae lle i ddadlau bod agweddau bobl yng ngwledydd Ewrop bellach yn caledu eto yn erbyn mewnfudwyr ac alltudion. Mwyaf yn y byd o reswm felly i gyhoeddi a darllen llyfrau fel Yr erlid.
Annwyl Andrew,
Ga i ddiolch o galon iti am y sylwadau hynod ddeallgar hyn: rwy’n gwerthfawrogi’n fawr. Ti yw’r unig un, hyd y gwelaf, sydd wedi sylwi ar osodiad annoeth iawn fy nhad am gefnogi’r Almaen yn hytrach na Lloegr. Wrth gwrs yr hyn a’i sbardunodd oedd rhagrith y pwer imperialaidd a gefnogai ryddid ac annibyniaeth gwledydd yn Ewrop, ond nid Cymru. Rwy’n gobeithio y bydd y sylw’n cael ei ddeall yn yr ysbryd hwnnw.
Diddorol yw dy nodiadau am lyfr Sebald. Mae e’n llenor penigamp. Mae ei lyfr Austerlitz hefyd yn cynnwys gwe o ysgrifennu awgrymog a lluniau. Ond fe welais yn y Sunday Times (30 Mehefin 2002)erthygl gan fenyw (yn anffodus wnes i ddim cadw copi) yn dweud bod Sebald wedi dwyn ei hanes hi yn Rosie’s Daughter, am ddod i Gymru o Wlad Tsiec, ei chamdriniaeth yng Nghymru, ac iddi ddarganfod, yn hanner cant oed, ei bod o dras Iddewig. Ysgrifennodd at Sebald er mwyn iddo gydnabod hyn, ac fe wnaeth yn bersonol, ond ni chydnabu hyn yn gyhoeddus – llênladrad felly!
Byddai’n braf iawn cael sgwrs rywbryd – beth am bryd o fwyd ryw noson?
Diolch iti am dy wefan wych.
Cofion!
Heini
Diolch yn fawr iawn, Heini, am dy eiriau caredig, ac am yr wybodaeth am Sebald, sy’n ddiddorol iawn.
Susi Bechhöfer ye enw’r fenyw. Y llyfr dan sylw yw ‘Rosa’s child : the true story of one woman’s quest for a lost mother and a vanished past’, gan Jeremy Josephs gyda Susi Bechhöfer. Teitl yr erthygl yn y ‘Sunday Times’ yw ‘Stripped of my tragic past by a bestselling author’, 30 Mehefin 2002 (ar gael ar-lein trwy’r Llyfrgell Genedlaethol).