Yn y Gororau

June 23, 2023 0 Comments

Nid yw’n bosib i Mike Parker ysgrifennu llyfr sych a difywyd, a dyw ei lyfr diweddaraf ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, All the wide borders, ddim yn eithriad.  Mae i’r gyfrol strwythur diddorol.  Tair rhan sydd ynddi, sy’n gyfatebol i’r tri phrif afon yn ardaloedd y ffin, Afon Dyfrdwy, Afon Hafren ac Afon Gwy – pob un yn rhoi cymeriad arbennig i’r wlad sy’n ei dyfrio.  Ac o fewn pob rhan, mae’r awdur yn cychwyn o sawl man penodol lle mae’r ffin yn cael ei groesi, er enghraifft yn y Waun ac yn y Gelli Gandryll.  Ond o’r man cychwyn mae pob pennod yn hedfan i bob cyfeiriad – sy’n gwneud y llyfr yn bleser pur i’w ddarllen.  Mae’n llawn straeon am lefydd a phobl ac yn frith o feddyliau pendant (a difyr) ei awdur.

I rywun sy wedi troedio ar hyd y ffin, neu o leiaf ar hyd Llwybr Clawdd Offa a llwybrau eraill, o Gas Gwent i Gaer, mae’n hynod ddiddorol clywed argraffiadau crwydryn arall, sy wedi gwneud llawer mwy o drampio na fi.

Trwy’r llyfr mae Mike yn pendroni am y syniad o ffin.  Beth yw ffin, yn arbennig y ffin rhwng dwy ran o’r un wladwriaeth?  Beth yw ystyr y ffin i’r bobl sy’n byw ar y naill ochr a’r llall? Ble yn gwmws mae’r ffin?  Pryd mae e?  Newidiwyd hynt y ffin sawl gwaith dros y canrifoedd.  Ymddengys fod yr awdurdodau yng Nghaer, sy’n dymuno ehangu’r ddinas i bob cyfeiriad, yn dal i lygadu darn o dir yn Saltney, i’r gogledd o’r Afon Dyfrdwy, sy’n rhan o Gymru ar hyn o bryd.

Mae’r wybodaeth hon am Saltney ond yn un esiampl o’r ffeithiau oedd yn hollol newydd imi.  Enghreifftiau eraill yw maint a nerth ystâd Dug Westminster dros y ffin yn Swydd Caer (mae Mike yn ochneidio wrth ffoi dros y ffin nôl i’r Orsedd / Rosset), hynodrwydd y rhan honno o Sir y Fflint sy’n dwyn yr enw Maelor, hanes yr Arglwyddi Harlech, a’r chalets mewn ardal dyfriog ar lannau Afon Dyfrdwy ger yr Holt.

Cawn ddigon o hanes yn All the wide borders, gan gynnwys straeon am Arglwyddi’r Mers yn oes y Normaniaid, y thygs mwyaf gwaedlyd a chreulon yn hanes Cymru.  Ond imi’r rhannau difyrraf o’r llyfr yw’r portreadau miniog o’r cymeriadau fu’n byw yn y Gororau.  Mike Oldfield, er enghraifft, cyfansoddwr Tubular bells a Hergest Ridge, a gafodd ffrae gyda’i gymdogion yn ardal Hergest, ac sy’n byw erbyn hyn yn y Bahamas (‘Like so many public school rock gods, his natural habitat proved not to be a Celtic hermitage, but a tropical tax haven’).  Neu John Osborne, a ddaeth i fyw i Clun yn 58 oed, gyda’i bumed wraig, ac a fu farw yna ar noswyl Nadolig yn 1994 (‘it’s hard to imagine a logistically more awkward time to die’).  Neu Quentin Letts, colofnydd dyspeptig i’r Daily Mail a’r Times, sy’n byw ym mherfeddion Swydd Henffordd (‘thanks to an expensive education in a world carved in his own image, he has the training to sound cast-iron certain, even when palpably wrong’).  Neu L.T.C. (Tom) Rolt, arloeswr camlesi a threnau ager (‘too many flecks of spit in the well-clipped moustache’).  Ar y llaw arall, cawn lun hyfryd o un o arwyr Mike, Thomas Telford.

Prif wendid y llyfr yf diffyg mynegai, sy’n drosedd difrifol mewn llyfr llawn gwybodaeth.  Ac o bryd i’w gilydd bydd Mike yn mabwysiadu ffordd o ysgrifennu sydd, i’m clust i, yn or-delynegol, fel pe bai e’n efelychu steil llenyddol un o’i pin-ups, Jan Morris.

Yr hyn sy’n aros yn y cof ar ôl darllen All the wide border yw’r amwysedd ym meddwl yr awdur am natur y ffin heddiw.  Ar y naill law, mae Mike Parker yn tueddu i wfftio’r gwahaniaethau diwylliannol honedig sy’n deillio o fodolaeth y ffin.  Mae’n pwysleisio’r tebygrwydd rhwng pobl sy’n wynebu ei gilydd ar draws y ffin, ac yn aml mae’n dangos ei edmygedd o’r bobl yn y siroedd cyfagos, yn arbennig felly pobl Swydd Henffordd.  Ar y llaw arall, yn y pen draw, dyw e ddim yn gallu goddef yr hyn sy’n annerbyniol – ac yn annhebyg o newid – am ei wlad enedigol, Lloegr: y system ddosbarth cymdeithasol, anghyfartaledd eithafol, agweddau haerllug a dirmygus tuag at bobloedd eraill, y llywodraeth lygredig ac anhrefnus.  Cefnogwr brwd o Yes Cymru yw Mike.  Pe bai annibyniaeth yn digwydd ryw ddydd, byddai’r ffin yn caledu yn aruthrol.

Anodd, siŵr o fod, oedd ysgrifennu llyfr i ddilyn On the red hill, sy’n dipyn o gampwaith.  Dyw All the wide border ddim yn gallu cystadlu â hwnnw, ond mae’n procio llawer o fyfyrdodau am ystyr a natur y ffin – y ffin ar y tir a’r ffin yn y meddwl.

Leave a Reply