Cof, dychymyg, enwau lleoedd

January 29, 2014 1 Comment
James Paterson, The last turning, Moniaive (1885)

James Paterson, The last turning, Moniaive (1885)

I’r Cymry mae enwau lleoedd yn bwysig.  Bron bob mis adrodda’r cyfryngau ryw ffrae neu’i gilydd amdanyn nhw: Varteg (Saesneg) v Y Farteg (Cymraeg) neu, yn fwy arwyddocaol, Cwm March v Stallion Valley (bathiad anffodus newydd sbon).  I’r rhan fwyaf o bobl pethau i’w trysori ydyn nhw, o achos eu bod yn cadw cof hanesyddol – neu hyd yn oed cynhanesyddol – o’u cynefin, eu milltir sgwâr.

Does dim syndod chwaith bod astudio enwau lleoedd wedi ysgogi llawer o ysgolheigion, yn ei phlith Melville Richards a Bedwyr Lewis Jones, i gofnodi enwau ac ymchwilio eu gwreiddiau.  Llynedd lansiwyd menter arloesol Cymru1900Wales, sy’n gwahodd pawb o fewn cyrraedd y fewnrwyd i restru’r enwau lleoedd sy’n ymddangos ar fapiau 6 modfedd dros Gymru gyfan, a’u cyflwyno i’r golygyddion dros y we: un o’r enghreifftiau mwyaf diddorol hyd yma o ‘gymorth torfol’ (crowdsourcing) yng Nghymru.  Yn amlwg mae i enwau lleoedd afael nerthol ar ddychymyg llawer o bobl.

Gunthwaite Barn

Gunthwaite Barn

Ond beth am y cof personol yn hytrach na’r cof cymunedol?  Neu, yn fwy cyffredinol, yr adleision y mae enwau rhai lleoedd yn eu gadael yn y meddwl?  I bob un ohonon ni mae ‘na rai enwau sy’n golygu rhywbeth arbennig, personol.  Does dim ots os dyn ni erioed wedi ymweld â’r lle.  I’r gwrthwyneb, y mwyaf anghysbell ac anhysbys, y mwyaf hudol yw’r llecyn.  Weithiau clywon ni am enwau am y tro cyntaf yn blant ifainc: mae cysylltiadau cynnar yr enw yn aros gyda ni am flynyddoedd.  Ambell dro, melodi’r enw yn unig sy’n apelio, i’r clust, a byddai dod yn gyfarwydd â’r lle, neu ddarganfod rhagor am ei realiti, yn siŵr o ddinistrio’r hud.

Felly, dyma ‘gazeteer’ byr o rai o’r enwau lleoedd sy wedi golygu llawer i mi dros y blynyddoedd, yn nhrefn yr wyddor, gyda nodiadau i geisio esbonio’r rhesymau.

Antananarivo

Prifddinas Madagascar.  Enw hudol.  Gormod o lond ceg i’r trigolion, mae’n ymddangos, sy’n ei fyrhau i ‘Tana’.  Awydd ers tro i fynd i’r ynys, ac i gael gwrando ar r gerddoriaeth werin yno – yn arbennig y ‘valiha’, offeryn fel sither wedi’i wneud allan o fambŵ.  Ond sylweddolais yn ddiweddar er siom fawr imi fod y fforestydd cynhenid wedi diflannu bron yn gyfan gwbl o’r wlad, gan adael ond ychydig ynysoedd dan gadw.

Gunthwaite

Casgliad bach o ffermydd nid nepell o’r pentref yn ne Swydd Efrog lle ces i fy magu yn y 50au a’r 60au.  Yn enwog, os yn enwog o gwbl, am ysgubor fawr o’r 16eg ganrif.  ‘Gunil’ yw enw menywaidd personol Llychlynnaidd a ‘thwaite’ yn golygu ‘llannerch’.  Yn fachgen gallwn i ddychmygu’r ymfudwyr o Ddenmarc yn gwthio’r Eingl-Sacsoniaid o’r neilltu a hawlio eu tiroedd iddyn nhw eu hunain.  Yn y parthau hyn mae’r enwau’n gymysg, rhai yn Sacsonaidd, fel Thurlstone, Silkstone a Langsett, eraill yn Norseg, fel Gunthwaithe a’m pentref, Hoylandswaine (cefn bryn yn eiddo i Svein?).

Mogadishu

Mogadishu

Mogadishu

Anodd meddwl am enw mor awgrymog.  Mae’n dwyn i’r meddwl fywyd hamddenol ar lan y môr, llawn synau melys a bwydydd blasus.  Y gwir, yn anffodus, ydy dinas mewn rhacs ar ôl degawdau o ryfel cartref, mewn gwlad, Somalia, sydd (tan yn ddiweddar, o leiaf) heb lywodraeth, heb drefn a heb ddiogelwch: uffern ar y ddaear.

Moniaive

Tref fach yn swydd Dumfries a Galloway (mynychodd fy mam Dumfries Academy cyn y rhyfel byd).  O bryd i’w gilydd, ar ein ffordd yn y car o Swydd Efrog i Ayr bob mis Awst i weld mamgu, bydden ni’n pasio trwy’r lle.  Eto, enw melfedaidd ar y tafod.  Cwpwl o flynyddoedd yn ôl buon ni yna: ymweliad peryglus, ond y tro yma chawson ni ein siomi ar yr ochr orau: lle bach twt, golygus yw e, gyda siop te bendigedig ac afon sydd i’w weld ym mhaentiadau meistrolgar James Paterson, un o’r ‘Glasgow Boys’, a ymsefydlodd yna i weithio yn y 1880au.

Rosedale

Tref yn nhalaith Mississippi ar lannau’r afon fawr.  Fel yn ‘Travelling Riverside Blues’, un o ganeuon Robert Johnson, brenin caneuon blŵs y Delta, ‘Lord, I’m goin’ to Rosedale, take my rider by my side / ‘Lord, I’m goin’ to Rosedale, take my rider by my side / We can still barrelhouse, baby, on the riverside’.  Yn ôl pob tebyg, tref un ceffyl, lle mae’r gwynt yn chwythu llwch ar hyd strydoedd gwag, tlawd (neu ystrydeb ydi honno?).  Ond yn fy nychymyg llencynnaidd, oasis gwyrdd, llawn gerddi blodeuog a merched siapus.

Svalbard

Svalbard

Svalbard

Enghraifft dda o enw y mae rhywun yn dod o hyd iddo am y tro cyntaf mewn nofel – yn yr achos hwn, Northern Lights gan Philip Pullman – ac sydd wedyn yn cydio cymaint yn y dychymyg nes bod dim dewis ond i ymweld â’r lle.  Does dim eirth arfogedig, rhaid cyfaddef, yn Svalbard, ond mae’n dal i fod yn lle unigryw a syfrdanol: pell, oer, gwyn ac unig iawn iawn.

Ystalyfera

Pentref bron ar dop Cwm Taw.  Ar eich ffordd i’r gogledd dych chi’n rhuthro tu heibio iddo heb sylwi.  Ei chwaer-bentref yw Ystradgynlais, ond enw gyddfol, hyll yw hwnnw, tra bod ‘Ystalyfera’ , i’r gwrthwyneb, yn dwyn i’r meddwl ryw dref heulog yn Sbaen sy’n enwog mewn caneuon rhamantus.  Ystyr yr enw, yn ddigon hapus, yw ‘darn tir wedi’i rannu rhwng dau ddeiliad neu ragor’ (yn ôl D. Geraint Lewis): lle hanesyddol gydweithredol, felly.

Comments (1)

Trackback URL | Comments RSS Feed

  1. Robert Rhys says:

    Mae’r cyfeiriad at dinc Hisbaenaidd Ystalyfera wedi deffro atgof am y diweddar Ryan Davies (rwy’n credu) yn canu’r geiriau ‘Ystalyfera, rwy’n dod o Ystalyfera’ ar dôn y gân boblogaidd o Giwba ‘Guantanamera’. Byddi di Gwallter yn cofio hon http://www.youtube.com/watch?v=Jm1anurhbeg
    A dim ond wrth wglo heno y mae’r cysylltiad â Guantanamo wedi’i amlygu i mi.

Leave a Reply