‘Mwy o sgwennwrs na darllenwrs’: yr argyfwng geiriau

January 3, 2025 3 Comments

Yn ei nofel ddeifiol newydd Hunllef Nadolig Eben Parri mae Arwel Vittle yn anelu ei arfau dychanol at dargedau niferus yn y Gymru gyfoes.  Un yw pobl sy’n ysgrifennu a chyhoeddi.  Mae bron pob grŵp yn ei chael hi’n arw gan ‘Ysbryd Cymru Sydd’: cofiannau (‘gormod ohonyn nhw’), academyddion (‘digon o ddadansoddi a gor-ddadansoddi ôl-drefedigaethol i bara mileniwm’), llenorion, deallusion a chyhoeddwyr cylchgronau (‘y Welsh Ffarts Refiw, y cylchgrawn Anglo-Welsh lle mae Cymry Cymraeg ydi naw deg y cant o’r darllenwyr’).

Ac fel hoelen yn arch y diwydiant geiriau, dyma ddedfryd fer yr Ysbryd: ‘Betia i chdi mewn ychydig mi fydd gynnoch chi fwy o sgwennwrs na darllenwrs’.

Rhaid cyfaddef bod llai a llai o ddarllenwyr sydd, yng Nghymru, fel mewn gwledydd eraill.  Yn ôl adroddiad ym mis Gorffennaf gan y Reading Agency, dim ond hanner o oedolion yn y DU sy’n darllen yn rheolaidd.  Mae’r sefyllfa’n waeth byth yn achos pobl iau: dywed 24% o bobl rhwng 16 a 24 oed na fuont erioed yn ddarllenwyr.  Diffyg amser ac anallu i ganolbwyntio yw’r rhesymau a gynigir gan bobl sy ddim yn darllen er pleser; mae dros 10% o bobl yn cael darllen yn anodd. 

Yn yr un modd, mae’r nifer o lyfrau a werthir yn mynd lawr, yn arbennig yng Nghymru.  Rhwng 2011 a 2017 bu cwymp o 16% yn y nifer o lyfrau Cymraeg a werthwyd trwy’r Cyngor Llyfrau.  Yn ôl yr adroddiad What kids are reading (2024) bu cwymp o dros 4% y flwyddyn yn y nifer o lyfrau a ddarllenwyd gan blant ysgol yng Nghymru.

Beth sy’n esbonio’r ffeithiau diflas hyn?  Mae’r rhesymau’n niferus a chymhleth.  Un o’r ffactorau amlycaf yw cyflwr gwael addysg yng Nghymru, ac yn arbennig dysgu darllen, at bwrpasau ymarferol ac er pleser.  Yn y profion mwyaf diweddar o PISA, cwympodd sgoriau plant 15 oed ar gyfer darllen i’w lefel waethaf erioed (llawer yn is na’r lefel yng ngwledydd eraill yn y DU).  Dywedodd Estyn yn 2012 fod 20% o blant sy’n dechrau mewn ysgolion uwchradd yn ‘ymarferol anllythrennog’.  Mae’r sefyllfa hon yn wirioneddol drychinebus, ac yn dod ag anfri ar Lywodraeth Cymru a’i pholisïau addysg.

Wedyn, mae ffactorau eraill sy’n effeithio ar arferion darllen plant a phobl ifanc.  Rhai ohonynt yn dymor byr, fel canlyniadau’r cyfnod cloi yn ystod Covid, argyfwng a amharodd ar addysg yn ddifrifol.  Rhai yn dueddiadau mwy tymor hir, fel ffonau symudol a thabledi, a chyfyngiadau cymdeithasol, sy wedi ei gwneud hi’n anodd, yn ôl rhai arbenigwyr, ganolbwyntio ar ddarllen testunau yn ddwys, neu ddros amser estynedig.

Ond mae ffactorau ‘cyflenwad’ hefyd, sy wedi cael effaith ddifrifol ar ddarllen dros y blynyddoedd diweddar.  Yn benodol, y ffordd mae’r llywodraeth wedi trin y sefydliadau sy’n cynnal a hybu darllen yng Nghymru.  Does dim ymgais wedi bod, er engraifft, i ddiogelu cyllideb Cyngor Llyfrau Cymru.  I’r gwrthwyneb, gostyngodd hi’n sylweddol, fel bod y grantiau i gyhoeddwyr wedi’u cwtogi’n sylweddol.  Y canlyniad yw bod llai o lyfrau yn cael eu cyhoeddi, ac mae nifer o gyhoeddwyr wedi rhybuddio eu bod mewn perygl o fynd allan o fusnes.  Mae’n fwy na phosib y gallai siopau llyfrau lleol hefyd wynebu problemau yn cadw’r ddysgl yn wastad dros y blynyddoedd nesaf.

Fe dybiech chi y byddai llywodraeth sy’n wirioneddol ymroddedig i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn y flwyddyn 2050 yn awyddus i sicrhau bod mwy a mwy o lyfrau ar gael yn yr iaith.  Yn lle hynny, mae’r nifer a gyhoeddir wedi gostwng o 185 i 122 mewn degawd.

Mae darllen yn bwysig.  Neges a dylai pawb sy’n gofidio amdano ei bloeddio’n uchel i’r byd.  Mae’r arfer o ddarllen yn greiddiol i addysg, diwylliant a pharhad yr iaith Gymraeg. Ond mae’n hanfodol hefyd i iechyd ein bywyd cyhoeddus fel dinasyddion.  Dyw democratiaeth ddim yn fater o roi ‘X’ mewn blwch bob hyn a hyn.  Mae’n ddibynnol ar bobl sydd â’r gallu i ddod yn gyfarwydd â materion y dydd a gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth gadarn a barn ddoeth.  Dyw hi ddim yn anodd i bobl anwybodus ac anhyddysg – yn fyr, di-ddarllenwyr – ddod yn ysglyfaeth hawdd i bobloddwyr ac unbeniaid sinigaidd.

Comments (3)

Trackback URL | Comments RSS Feed

  1. Dafydd Pritchard says:

    Mae hi’n eitha argyfyngus. Y mae’r pwynt olaf yna yn arbennig o wir, hefyd; mae cael carfan fawr iawn o bobl nad ydyn nhw’n gallu trafod syniadau yn gall ac yn ddeallus yn hynod o beryglus.

  2. Gill Lewis says:

    Some very sad facts there Andrew

  3. Heini says:

    Es i’n gwbl ddigalon ar ôl darllen Hunllef Eben. Mae’r dychan yn cynnwys llawer gormod o wirioneddau.

Leave a Reply