Sioe Dicw a Jerry

April 7, 2023 0 Comments

Yn ei cholofn yn Barn yn ddiweddar tynnodd Catrin Evans ein sylw at y rhaglenni radio hynny sy’n trafod pynciau diwylliannol sylweddol trwy gyfrwng sgwrs neu ddialog.  Ei hesiamplau yw In our time gyda Melvyn Bragg ar Radio 4 a rhaglen Dei Tomos ar nos Sul ar Radio Cymru.  Mae gan y rhaglenni hyn y gallu rhyfeddol, meddai Catrin, i godi diddordeb mewn pynciau na fyddent fel arfer yn bod at ei dant:

Doedd gen i ddim syniad yn y byd y byddai gennyf ddiddordeb yn y fath pwnc [‘The Great Stink’ yn Llundain yn 1858] a go brin y byddwn fyth wedi cydio mewn llyfr amdano.  Eto i gyd, roedd y darllediad wedi hoelio fy sylw yn ddi-dor am dri chwarter awr …

Mae’r rhaglenni fel y rhain yn brin iawn y dyddiau hyn, ond yn amlwg mae cynulleidfa iddynt o hyd – eleni yw pen-blwydd In our time yn 25 oed eleni – er bod rheolwyr y sianeli radio a theledu yn tueddu i danamcangyfrif archwaeth pobl at drafodaeth ddeallus gan arbenigwyr.

Erbyn heddiw, serch hynny, mae’r fath trafodaethau wedi canfod cartref arall, fel podlediadau ar y rhyngrwyd, yn rhydd o benderfyniadau nawddoglyd y rheolwyr sianeli.  Er bod llu ohonyn nhw ar gael trwy, er enghraifft, ypod.cymru, ychydig yn yr iaith Gymraeg fu’n debyg i In our time o ran triniaeth ddifrifol o bwnc diwylliannol gan arbenigwyr.  Tan nawr.  Yn ddiweddar dechreuodd cyfres wythnosol o ‘raglenni’ ar hanes llenyddiaeth Cymru, gyda’r Athro Jerry Hunter o Brifysgol Bangor a’r Athro Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd.  ‘Yr hen iaith’ yw ei theitl.  Rwy wedi gweld pedair ohonyn nhw hyd yma, a chael pleser mawr o’r profiad.

Mae’r gosodiad yn syml.  Jerry yw’r arbenigwr awdurdodol.  Ei fwriad yw rhoi ‘darlith bersonol’ i Dicw, fesul rhaglen.  Dicw yw’r twpsyn-ddysgwr, sy’n gwybod y peth nesaf i ddim am hanes llenyddiaeth Cymru.  Ei swyddogaeth yw gofyn cwestiynau elfennol nawr ac yn y man, a rhyfeddu at ysgolheictod y Proff.  ‘Llên-baras’ yw’r term a fathon nhw i ddisgrifio’r fformat.

Ond nid dyna’r sefyllfa mewn gwirionedd.  Am un peth, er bod Jerry yn amlwg yn gwybod llawer iawn am ei bwnc, dyw e ddim yn hollwybodol, ac o dro i dro mae’n gorfod bwrw golwg slei ar y gliniadur sydd ar agor o’i flaen, i’w atgoffa ei hun o ffeithiau a dyfyniadau.  Ar y llaw arall, dyw Dicw ddim cweit mor anwybodus am hanes llenyddiaeth ag y mae’n honni, hyd yn oed am y cyfnodau cynharaf.  Mae’n gallu dyfynnu llinell gyfan o’r Gododdin, ac yn ymwybodol am natur Armes Prydain, a’r Mab Darogan.

Yr ail beth sy’n ychwanegu at y pleser o wylio’r gyfres yw bod Dicw a Jerry yn hen ffrindiau (ac yn wir bu’r ddau’n arfer chwarae mewn band, Arfer Anfad).  Mae’r berthynas rhyngddyn nhw’n llawn ffraethineb a direidi.  Ar adegau mae hyn yn ymylu ar fod yn gellwair gwrywaidd, ac mae rhywun yn tybio mai math gwahanol o sgwrsio fyddai’n digwydd rhwng dwy fenyw o flaen y meic.

Y trydydd peth sy’n codi gwên yw deinamig y sgwrs.  Dyw’r gair ‘byrlymus’ ddim yn ddigon cryf i ddisgrifio steil Jerry.  Ar ei ben ei hun byddai’n parablu am oriau maith heb dynnu anadl, gyda’i ben yn symud a’i freichiau’n chwifio fel melinau gwynt.  (Fel mae’n digwydd, mae gen i brofiad personol o geisio ffrwyno Jerry mewn cyfarfodydd, ac mae’n dasg anodd.)  Ond mae gan Dicw y ddawn o allu atal y ffrwd o eiriau trwy dorri ar draws y ddarlith gyda chwestiynau lletchwith a sylwadau annisgwyl.  Faint o’r awduron oedd yn ferched?  I ba raddau mae’r iaith Gymraeg wedi newid dros y canrifoedd, o gymharu ag ieithoedd eraill?  Chi’n gwybod am yr englyn am blastro wal yn Llansannan?  Mae’r ‘sgwarnogod’ hyn yn bwrw Jerry oddi ar ei echel; does dim dewis ’fe ond ceisio ateb pob ymholiad cyn ailgydio yn ei stori.  Yn hyn o beth mae’r podlediad yn atgoffa rhywun o sioe arall, Tom and Jerry.

Ond y tu hwnt i’r hwyl, mae’n bosib dysgu llawer, o fewn awr, am natur llên Cymru, yn union fel yn In our time, heb wybod bron eich bod chi’n dysgu.  Fel unrhyw athro talentog mae Jerry yn medru cyfle syniadau cymhleth mewn ffordd glir a chyda brwdfrydedd heintus.  Mewn ffordd, parhad ar ffurf arall yw ‘Yr Hen Iaith’ o hen draddodiad sy bron wedi marw erbyn hyn, yr arfer oedd gan ddarlithwyr o fynd allan i addysgu pobl gyffredin yn eu cymunedau, yn bell o furiau’r campws.  Fel petai’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi agor ei glwydi yn eang i’r byd tu allan i academia. Gobeithio y bydd y ddau yn parhau nes cyrraedd llenyddiaeth ein canrif ni.

Gallwch chi wrando ar y podlediad, neu ei wylio fel fideo, er enghraifft trwy safle rhagorol AM.  (Mantais o’r fideo yw cael gweld crys-T Dicw, gyda’i lun cartwnaidd o Saunders Lewis.)  Richard Martin o Brifysgol Caerdydd sy’n gyfrifol am y dechnoleg fel cynhyrchydd, ac mae’r canlyniad yn raenus iawn.  Yr unig broblem gyda’r fersiwn gweledol, sy’n defnyddio tri chamera, yw’r meicroffonau anferth sy’n sefyll ar y ford o flaen y ddau siaradwr.  Mae’r rhain yn rhoi golwg broffesiynol i’r cynhyrchiad, ond yn tueddu i guddio wynebau’r siaradwyr. 

Mae llwyddiant ysgubol ‘Yr hen iaith’ yn codi o leiaf ddau gwestiwn.  A fydd e’n symbylu ysgolheigion eraill i fentro i’r byd podledu?  A tybed a welwn ni ail gyfres o Sioe Dicw a Jerry, lle bydd Jerry yn gofyn cwestiynau diniwed i Dicw am wleidyddiaeth Cymru?

Leave a Reply