Aberystwyth yn 1863

April 5, 2024 0 Comments

Roedd oes newydd yn ddechrau gwawrio i dref Aberystwyth yn 1863.  Ym mis Awst y flwyddyn ganlynol cyrhaeddodd y rheilffordd o’r Amwythig, ac agorwyd yr orsaf drenau.  Bron ar unwaith daeth hi’n bosib i bobl deithio i’r dref yn hawdd, yn arbennig i hala eu gwyliau haf yn yr ardal.  Yn 1864 dechreuodd Thomas Savin godi ei westy crand, y Castle House Hotel, cyn sylweddoli na fyddai dyfodol masnachol iddo a gwerthu’r adeilad i’r Brifysgol newydd yn 1867.  Codwyd y pier, y cyntaf o’i fath yng Nghymru, yn 1865.

Pier Aberystwyth, c1865

Yn 1863 daeth ymwelydd i’r dref o Loegr i gymryd ei dymheredd diwylliannol cyn y newidiadau hyn, ac adrodd yn ôl ar ‘Aberystwith’ i ddarllenwyr dosbarth canol y cylchgrawn The Leisure Hour (‘a family journal of instruction and recreation’).  Ei ffugenw oedd ‘Cuthbert Bede’, a’i enw go iawn, Edward Bradley – ficer ac awdur yn swydd Rutland.  Cafodd ei brif lyfr, The adventures of Mr Verdant Green, nofel ddychanol ar Brifysgol Rhydychen, dipyn o lwyddiant yn ei ddydd.  Bu Bradley yn Aberystwyth ddwywaith o’r blaen, y tro cyntaf pan oedd y glaw yn bwrw’n drwm a di-baid, ac yr ail mewn tywydd crasboeth.

Edward Bradley

Cychwynna Bradley trwy fynegi’r cwyn cyson gan bobl sy’n wynebu trip i Aberystwyth, bod hyd y daith ar y ffyrdd hir a throellog i’r dref yn annioddefol.   Ei farn e yw bod y daith ei hun, o’r Amwythig neu o’r de, yn brofiad gwerth ei gael ar ei ben i hun.  Daw’r rheilffordd, medd Bradley, â llawer mwy o ymwelwyr, ac ‘a more intimite and levelling connection with the outside world’ – datblygiad fydd ddim yn cael croeso cynnes, mae’n ychwanegu, gan ‘ran aristocrataidd y gymuned.’

Rheswm da dros ddod i Aberystwyth, yn ôl Bradley, yw er mwyn gweld y machlud haul dros y môr.  Gall hefyd gymeradwyo ymdrochi yn y môr, yn arbennig i fenywod (mae digonedd o gerbydau ymdrochi ar gael ar eu cyfer), a’r cerrig gwerthfawr i’w gweld ar y traethau.  ‘Does dim byd atyniadol am y dref’, medd Bradley, er ei fod yn nodi’r amrywiaeth o lysiau, pysgod ac ieir sydd ar werth ar y brif stryd.  Mae’n aros i wrando ar ddau fand pres (‘pseudo-German bands’), cyn dringo Craig-las neu Constitution Hill (‘a kind of advanced guard of the Plinlimmons’).  Wedyn, mae’n rhestru’r prif adeiladau: Marine Terrace, Castle House, Eglwys Sant Mihangel, gyda’i beddau (‘hideous … like rural magpies’) a gweddillion y castell (‘the favourite promenade for Aberystwith visitors’).  Yn olaf, awgryma Bradley rai teithiau yn yr ardal gyfagos: i Fedd Taliesin, Ponterwyd a Phontarfynach: ‘a somewhat expensive journey to take a carriage to see it’, cyn i’r rheilffordd gael ei godi.

Welsh market-woman returning from Aberystwith over Constitution Hill (1863)

Ar y cyfan, sylwadau arwynebol ac ystrydebol sydd gan Bradley.  Ond i gyd-fynd â’r erthygl mae engrafiad trawiadol, sy’n codi’r llen ar hen arfer yn ardal Aberystwyth.  Ei deitl yw ‘Welsh market-woman returning from Aberystwith over Constitution Hill’. Gwaith Bradley ei hun yw hwn – roedd yn artist medrus, oedd yn arfer cynnwys darluniau yn ei nofelau ei hun.  Dangosa fenyw yn dringo Craiglas, â ffon yn un llaw a photel fawr yn y llall.  Mae bag neu gawell mawr ar ei chefn, a gedwir yn ei le gan strap lledr o amgylch ei thalcen).  Ymddengys iddi ymweld â’r dref er mwyn gwerthu nwyddau.  Nawr mae hi’n dychwelyd adref ar hyd llwybr yr arfordir, efallai i Langorwen, y Borth neu Ynyslas, gan gludo nwyddau (dillad?) a brynodd yn y farchnad. Y tu ôl iddi gallwn weld rhes o ferched eraill yn cario basgedi yn eu dwylo ac yn gwisgo hetiau tal traddodiadol.  Oddi tanynt darlunnir y dref a’i chyffiniau, yn cynnwys Pen Dinas, Tan-y-bwlch a’r Allt Wen, yn dopograffig gywir.

Dyma’r hyn sydd gan Bradley ei ddweud fel esboniad i’r llun:

These [ieir a llysiau] are chiefly conveyed to the town by women from the surrounding villages, many of whom may be seen of an evening wending their way over Constitution Hill to Llangorwen, or some other spot in the Vale of Clarach.  They carry upon their arms or backs the baskets and creels in which the ducks and hens have been sojourning …  Many of these women wear the national hat and large white cap, and by their peculiarity of costume give a certain quaintness and originality to the scene.  They are shrewd dealers (to say the least) …

Arwyddocâd y llun yw ei fod yn cynnig tystiolaeth brin o ferched dosbarth gweithiol wrth eu gwaith yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Ar y cyfan mae’r  menywod hyn, yn arbennig os ydyn nhw’n cerdded ar ffordd, yn tueddu i fod yn anweledig, oni bai fod awdur yn rhoi sylw iddynt wrth fynd heibio, neu artist yn eu cynnwys er mwyn ychwanegu lliw gwerinol i lun sy’n ymwneud â thestun cwbl wahanol.

(Des i o hyd i’r llun am y tro cyntaf ar glawr llyfr sy’n cynnwys dwy ddrama gan Mari Rhian Owen, Merched y gerddi; The good brig Credo.  Dim ond yn ddiweddar darganfyddais i’r ffynhonnell.)

Leave a Reply