Caerdydd, mas o’i gof

December 22, 2022 1 Comment

Daeth y newyddion yr wythnos hon bod Cyngor Dinas Caerdydd yn bwriadu cau Amgueddfa Caerdydd (‘Cardiff Museum’ neu ‘The Cardiff Story’ yn Saesneg), a leolir yn yr Hen Lyfrgell yn Yr Aes, reit yng nghanol y ddinas.  Dymuniad doethion Cabinet y Cyngor yw troi’r gwasanaeth yn ‘amgueddfa symudol’ yng ngofal ‘tîm bach allweddol’ o staff – fan ail-law a gwirfoddolwr? – sy’n gyfystyr â chau’r sefydliad yn gyfan gwbl.  Maen nhw’n diystyru dewis arall, sef symud yr amgueddfa i leoliad ‘mwy addas’, achos y byddai hynny yn gofyn am fuddsoddiad newydd yn ogystal â’r gost bresennol.  Bydd staff yr amgueddfa yn wynebu colli eu swyddi.

Sefydlwyd Amgueddfa Caerdydd yn yr Hen Lyfrgell yn 2011, gyda help y Loteri Genedlaethol, fel ymgais i ddweud hanes y brifddinas wrth ei phobl, ac wrth ymwelwyr.  Does dim tâl i fynd i mewn, ac mae’r amgueddfa yn atyniadol yn arbennig i blant a phobl ifainc.  Mae’r staff wedi gweithio’n galed dros y blynyddoedd i ddenu ymwelwyr, codi ymwybyddiaeth o hanes Caerdydd, gyda phwyslais ar gynnig llais i’r trigolion eu hunain, a chasglu eitemau, llawer ohonynt wedi’u rhoddi gan bobl y brifddinas. Yn gynharach eleni enillodd yr Amgueddfa Wobr Aur Croeso Cymru am gynnig profiad cofiadwy i ymwelwyr.

Un o eironïau mawr y sefyllfa presennol yw bod hyn wedi digwydd unwaith o’r blaen.  Bu amgueddfa leol yng Nghaerdydd ers y 1860au cynnar. Erbyn 1863 roedd hi yng ngofal Pwyllgor y Lyfrgell Rydd â’i chartref yn St Mary Street. O dan gytundeb gyda Chorfforiaeth Caerdydd daeth Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd yn gyfrifol am ei rheoli, trwy eu curaduron er anrhydedd, ac ail-leolwyd y casgliadau ar lawr uchaf y Llyfrgell newydd (yr Hen Lyfrgell erbyn hyn) ar ôl iddi agor yn Trinity Street yn 1882. Ond roedd Caerdydd yn anlwcus yn y ffaith bod y llywodraeth yn penderfynu yn 1905 mai’r ddinas fyddai lleoliad Amgueddfa Genedlaethol Cymru (Amgueddfa Cymru heddiw).  Ar ôl 1907 diflannodd Amgueddfa Caerdydd ac amlyncwyd ei chasgliadau gan yr Amgueddfa Genedlaethol.

Os diflanna’r Amgueddfa bresennol o’r Hen Lyfrgell – a dyma eironi arall – bydd hi’n bosibl i bobl Caerdydd ddysgu am hanes Cymru, diolch i’r Amgueddfa Genedlaethol – er lleolir y casgliadau bellach yn Sain Ffagan yn hytrach nag yng nghanol y ddinas, a llawer llai o eitemau sy’n cael eu harddangos nag yn yr hen ddyddiau – ond fydd dim cyfle iddynt ddysgu am hanes a phobl eu dinas. 

A oes ots?  Dim, yn amlwg, yn llygaid y philistiaid sy’n rheoli Cyngor Dinas Caerdydd.  Ond onid yw’n bwysig bod trigolion Caerdydd yn medru dod i ddeall sut datblygodd eu cartref, pwy ymgyrchodd i wella safon ac ansawdd byw, sut daeth pobl o bedwar ban y byd i ymgartrefu yn Nhre-biwt, hyd yn oed pam mai aelodau’r Blaid Lafur sy’n cael penderfynu ffawd diwylliant yng Nghaerdydd – yn fyr, sut daethant i fod yn ddinasyddion Caerdydd?  Canlyniad cae amgueddfa yw dinistrio rhan o gof y ddinas, i amddifadu pobl o’u gorffennol, o’u hunaniaeth.  Yn 2017 caewyd Canolfan Hanes a Chelfyddydau Tre-biwt, lle pwysig i hunaniaeth cymunedau’r ardal, oherwydd diffyg arian.  Nawr fydd dim amgueddfa i’r bobl, dim cof o gwbl ar ôl.

Diffyg arian, medd y Cyngor, sydd y tu ôl i’r angen i ddiddymu Amgueddfa Caerdydd, ac mae’n wir fod arian yn brin unwaith eto i lywodraeth leol.  Ond rhywsut gall y Cyngor ddarganfod digon o arian i godi arena fawr newydd (a hollol ddiangen), i ddenu amgueddfa filwrol amherthnasol i Fae Caerdydd, a sawl prosiect anwes arall.  Y gwir yw bod gan y Cyngor record o ymosod ar sefydliadau diwylliannol yn y ddinas.  Bydd rhai’n cofio am eu cynlluniau i ysbaddu’r gwasanaeth llyfrgell yn 2015.  (Ac yn eu cynlluniau presennol mae bwriad i niweidio’r gwasanaeth eto, trwy leihau’r oriau agor a’r nifer o staff.)  Yn ddiweddar cyhoeddwyd cynllun i werthu Neuadd Dewi Sant, y neuadd gyngerdd orau yng Nghymru, i’r cwmni adloniant sy piau’r O2 Brixton Academy, lle collodd rhai pobl eu bywydau yr wythnos hon.

Beth sy’n bod ar y bobl sy’n rheoli Cyngor Caerdydd?  Pam eu bod mor elyniaethus tuag at sefydliadau diwylliannol y ddinas, y mae eu costau mor bitw o gymharu â chostau gwasanaethau eraill?  Yr ateb, mae arna i ofn, yw eu bod Huw Thomas, Russell Goodway a’u cymrodyr wedi hen gefnu ar sosialaeth draddodiadol eu plaid ac ar amddiffyn ansawdd byw eu hetholwyr.  Yn hytrach, maen nhw wedi dod yn weision bach i’r cwmnïau mawr sydd wrthi’n hagru wyneb Caerdydd, gyda’u ‘datblygiadau’ newydd – blociau anferth o fflatiau, gwestai crand, siopau sgleiniog – ar draul daioni pobl gyffredin y ddinas.

Mae’r Cyngor yn gofyn am ymatebion i’w cynlluniau, o 23 Rhagfyr.  Bobl Caerdydd, codwch a phrotestiwch! Ychwanegwch eich enwau i ddeiseb newydd Cymeithas Ddinesig Caerdydd. Atebwch i’r ymgynghoriad. Ysgrifennwch at eich cynghorwyr. Amddiffynwch eich amgueddfa!

Comments (1)

Trackback URL | Comments RSS Feed

  1. Dafydd Williams says:

    Dyma’r un bobl sydd wedi difetha cannoedd o aceri o dir glas y tu fas i’r ddinas a chaniatáu enwau Saesneg ffansïol arnyn nhw, megis ‘The Parish’. Fandaliaid sy’n rhedeg ein prifddinas.

Leave a Reply