Dros sbectol Keir Starmer
Beth yw rhodd neu anrheg? Gwrthrych neu wasanaeth y mae person yn ei gynnig i rywun arall, heb dâl. Nid yn unig heb dâl, ond hefyd heb ddisgwyl tâl neu gymwynas yn y dyfodol. Beth yw anrheg, gan unigolyn neu gwmni neu grŵp arall, i wleidydd? Yn syml, y gwrthwyneb: disgwyl y rhoddwr, bron bob tro, gael effaith benodol ar y gwleidydd, yn arbennig os yw e neu hi yn aelod o lywodraeth: contract, neu newid polisi, neu ryw fudd arall.
Yn y rhifyn cyfredol o Barn trafoda Richard Wyn Jones yr anrhegion a gynigwyd yn ddiweddar gan wahanol gwmnïau ac unigolion i Keir Starmer. Mae’n dechrau trwy ddwyn i gof Einar Gerhardsen, Prif Weinidog Norwy am 16 mlynedd, oedd yn enwog am beidio â chael ei ‘hudo gan y rhwysg a’r golud sy’n amlach na pheidio’n dod i ganlyn grym’. Nid felly yw ymddygiad ein gwleidyddion heddiw. Derbyniodd Starmer nifer o ‘anrhegion’ drudfawr, gan gynnwys tocynnau i gyngerdd Taylor Swift, tocynnau i’r rasys, dillad arbennig i’w wraig Victoria, a’r sbectol gostus enwog.
Ar ôl y ffrwgwd cyhoeddus pan ddatgelwyd yr anrhegion hyn, addawodd Starmer roi rhai ohonynt yn ôl, a chyhoeddodd newid yn y rheolaethau yn ymwneud â rhoddion i weinidogion y llywodraeth. Ond mynnodd nad oedd e wedi torri unrhyw reolau ei hun: roedd e wedi nodi pob anrheg yn y gofrestr o fuddiannau ASau. Yn hyn o beth, roedd e’n dilyn patrwm Vaughan Gethin pan roedd e’n ceisio amddiffyn y rhoddion iddo e, yn ystod ei ymgyrch lwyddiannus i ddod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru. Ac fel mae Richard Wynn Jones yn ei ddweud, yr un mor aneffeithiol ac amherthnasol yw’r amddiffyniad: nid torri rheolau ond ymddwyn yn anfoesol sy’n corddi’r dyn neu fenyw ar y stryd. Mae sawl rheswm pam fod seren Starmer wedi disgyn mor gyflym yn llygaid y cyhoedd ers yr etholiad cyffredinol, ond un ohonyn nhw, heb os, yw’r canfyddiad nad yw e’n wahanol i ddihirod y llywodraethau Torïaidd o’i flaen.
Ar y cyfan, anrhegion bach sydd ar restr Keir Starmer. Dyw Richard ddim yn mynd yn ei flaen i drin ‘rhoddion’ llawer mwy difrifol, sef yr arian sylweddol a’r buddion eraill sy’n llifo o gorfforaethau masnachol a’u lobïwyr (Arden Strategies, dan arweiniad Jim Murphy, cyn-weinidog Llafur, yw un o’r rhai mwyaf pwerus) i bocedi’r Blaid Lafur a’i chorff niwlog ‘Labour Together’. Mewn erthygl yn y London Review of Books nôl ym mis Awst, rhestrodd Peter Geoghegan nifer o esiamplau. Dim ond ychydig a gofnodir yn swyddogol, ond mae digon o’r cwmnïau a’r lobïwyr i’w gweld yng nghynhadledd y Blaid bob blwyddyn y dyddiau hyn.
Mae’r cwmnïau gamblo mawr yn dylanwadu ar y Blaid ers blynyddoedd (Tony Blair oedd yn gyfrifol am roi’r ffrwyn iddynt trwy lacio’r gyfraith ar fetio). Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf derbyniodd y Blaid Lafur fwy na £1m ganddynt, heb sôn am anrhegion personol fel tocynnau i gemau pêl-droed ac achlysuron eraill. A’r canlyniad? Er bod llawer wedi galw ar y llywodraeth i dynhau’r gyfraith ar fetio – mae llawer o dystiolaeth am y difrod ar unigolion, yn enwedig achos bod betio ar-lein mor hawdd – ac er bod llawer yn ffyddiog y byddai mesurau yng nghyllideb Rachel Reeves yn ddiweddar, doedd dim newid. Bu ymdrechion y diwydiant yn llwyddiannus.
Maes sy’n hollbwysig inni i gyd yw dyfodol y Gwasanaeth Iechyd. Eto, mae’r sector preifat wedi bod yn brysur. Er 2023 mae ei lobïwyr a dylanwadwyr eraill wedi sianelu dros o leiaf £0.5m i aelodau’r cabinet. Dim syndod bod y Gweinidog dros Iechyd, Wes Streeting, yn hawlio fod y GIG ‘wedi torri’ a bod rhaid dod â’r sector preifat i mewn i’w ‘helpu’.
Mae’r llywodraeth newydd yn darged amlwg i’r lobïwyr hynny sy’n cynrychioli gwneuthurwyr arfau. Trefnon nhw ddwsinau o gyfarfodydd gydag aelodau o’r Blaid Lafur, cyn ac ar ôl yr etholiad. Ai ddamwain yw hi fod y llywodraeth newydd wedi penderfynu cynyddu’r gyllideb filwrol yn sylweddol? Yn yr un modd, mae cwmnïau rhyngwladol mawr yn Ninas Llundain wedi gweithio’n galed, er enghraifft trwy ‘secondio’ eu staff i weithio gyda’r Blaid Lafur, i sicrhau na fyddai’r llywodraeth yn amharu ar eu buddiannau, er enghraifft trwy godi trethi perthnasol neu dynhau rheoliadau.
Honiad Keir Starmer yw bod ei blaid yn rhoi stop i’r hen draddodiad Torïaidd o ‘sleaze’ a llygredd. Ond mewn gwirionedd does dim byd wedi newid. Mae’r llywodraeth newydd yr un mor agored i arian mawr a dylanwad nerthol gan gorfforaethau. Ac yn wir, mae Starmer yn croesawu busnes mawr gyda breichiau agored. Mae gan nifer o Aelodau Seneddol Llafur gefndiroedd neu fuddiannau yn y diwydiant lobïo. Yn ddiweddar daeth y cyn-AS Alan Milburn yn aelod o Fwrdd y GIG, ‘er mwyn cefnogi’r ymdrech i’w ddiwygio’ – gweithiodd e i nifer o lobïwyr dros breifateiddio’r GIG. Lobïwr mawr arall yw Peter Mandelson, dylanwad mawr ar y llywodraeth newydd.
Y Blaid Geidwadol oedd yn arfer bod y blaid ‘arian mawr’. Ond, wrth iddi edwino fel plaid ag aelodaeth dorfol, cododd y Blaid Lafur lawer mwy o arian corfforaethol na’r Torïaid cyn yr etholiad cyffredinol. Mae’n fwy dibynnol nawr ar y byd busnes nag erioed yn ei hanes.
Does dim hawl gan ddinasyddion wybod pwy sy’n lobïo’r llywodraeth, a sut. Ond mater o amser yw e, debyg iawn, cyn bod y scandal ‘arian budr’ mawr cyntaf yn torri ar draws y Blaid Lafur. Tybed beth fydd ymateb y cyhoedd wedyn, yn arbennig felly os dyn nhw ddim yn teimlo bod gwaith y llywodraeth wedi dod ag unrhyw les sylweddol iddyn nhw yn y cyfamser?