Darllen: a oes argyfwng?
Ar 7 Mawrth dathlon ni Ddiwrnod y Llyfr unwaith eto, gyda digwyddiadau mawr mewn ysgolion, siopau llyfrau a llyfrgelloedd. Ond ar drothwy’r ŵyl, cyhoeddodd y National Literacy Trust (NLT) adroddiad brawychus sy’n dangos bod darllen er pleser wedi dirywio yn sylweddol unwaith eto yn y DU.
Dim ond 25.8% o blant a phobl ifanc (oedran 8-18) yn yr arolwg, a wnaed yn 2019, sy’n dweud eu bod yn darllen bob dydd, o gymharu â 43% yn 2015 – y lefel isaf erioed. Dim ond 52.5% ohonynt sy’n dweud eu bod yn darllen ‘er mwynhad’ (o gymharu â 58.8% yn 2016).
Pam bod y newyddion hyn yn newyddion drwg? Am ddau reswm. Mae digonedd o dystiolaeth sy’n profi’r cyswllt cryf rhwng darllen er pleser a lefel uchel o gyrhaeddiad addysgol – yn amlwg mewn darllen, ond yn fwy cyffredinol hefyd. Ond mae cyswllt hefyd gyda sgiliau a chanlyniadau da drwy eich bywyd: creadigrwydd, sgiliau empathi a ffurfio perthnasau cymdeithasol, llai o straen ac iselder ysbryd.
Mae’n bwysig nodi na wnelo’r broblem hon â’r ffaith bod mwy o bobl ifainc yn darllen ar sgrin yn hytrach nag ar bapur. Does fawr o le, mae’n debyg, yn eu bywydau ar-lein i ddarllen estynedig chwaith, er bod llawer o’u hamser yn mynd ar ddarllen negeseuon testun, e-byst a ffrydiau cyfryngau cymdeithasol (ffurfiau byrion i gyd).
Er nad yw arolwg yr NLT yn cynnig dadansoddiad daearyddol, does dim rheswm i gredu bod Cymru yn wahanol i weddill y DU. Ac yma, mae arwyddion bod ‘problemau darllen’ yn cynyddu yn gyffredinol, ymysg oedolion yn ogystal â phlant. Roedd penderfyniad Gwasg Gomer ym mis Medi 2019 i dynnu nôl o gyhoeddi llyfrau, ar ôl 127 o flynyddoedd, yn ergyd drom i’r farchnad (i oedolion a phlant), ac yn symptom o’r ffaith bod llai o lyfrau yn cael eu gwerthu. Mae’n drist hefyd bod ein dau brif gylchgrawn Saesneg, Planet a’r New Welsh Review, hefyd yn wynebu problemau mawr oherwydd lleihad yn eu grantiau gan Gyngor Llyfrau Cymru a nawdd gan gyrff eraill – a’r ffaith bod y nifer o’u tanysgrifwyr ddim yn codi. Mae siopau llyfrau annibynnol hefyd yn wynebu sialensiau difrifol. Ac er bod llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru ar y cyfan wedi peidio ag efelychu llyfrgelloedd Lloegr, lle mae nifer fawr wedi cau, byddai’n anodd dweud eu bod mewn cyflwr iach.
Beth felly ddylai ddigwydd i droi’r ‘dirywiad darllen’ ymysg plant Cymru yn ôl? Yn 2019 penododd Llenyddiaeth Cymru Eloise Williams fel y ‘Children’s Laureate Wales’ gyntaf, gyda’r nod o ysbrydoli plant trwy lenyddiaeth ac annog darllen ac ysgrifennu er pleser.
Ond un person yn unig yw hi. Dyma ddau awgrym ar gyfer mesurau mwy uchelgeisiol. Mae’r ddau’n cymryd yn ganiataol fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y broblem ac yn barod i’w wynebu.
Un o’r pethau rhyfeddaf am ysgolion – i mi, beth bynnag – yw bod dim dyletswydd statudol ar unrhyw ysgol i gynnal llyfrgell. Hynny yw, lle arbennig ar gyfer astudio a darllen, a chasgliad mawr o lyfrau a materion eraill, ar ffurf print ac yn ddigidol. Ar hyn o bryd – does dim ystadegau dibynadwy – rydym yn bell iawn o ddarpariaeth lawn. Yn ôl arolwg yn 2019 gan y Great School Libraries Campaign dim ond 67% o ysgolion yng Nghymru sydd â lle penodol ar gyfer llyfrgell. Dim ond 9% ohonynt sy’n cadw cyllideb benodol ar gyfer prynu deunyddiau llyfrgell. (Mae’r ystadegau hyn, gyda llaw, llawer yn waeth na’r ffigurau cyfatebol yn Lloegr.) Llai byth o ysgolion sy’n cyflogi llyfrgellwyr proffesiynol. Dylai hyn fod yn gyfrifoldeb statudol hefyd. (Yn ogystal â hybu darllen, gallai llyfrgellwyr helpu hefyd i ddysgu sgiliau llythrennedd wybodaeth, y mae gwir angen amdanynt er mwyn gwrthsefyll y duedd i gredu ‘newyddion ffug’ a’u tebyg.)
Yn ddiweddar galwodd y bardd a darlledwr Michael Rosen, sydd wedi gwneud mwy na neb arall bron i hybu darllen er pleser ymysg plant yn Lloegr, am lyfrgelloedd statudol mewn ysgolion ledled Prydain.
Yn ail, beth am ddysgu ac athrawon? Mae gennym gwricwlwm newydd yng Nghymru, fydd yn cael ei gyflwyno i bob ysgol dros y blynyddoedd nesaf. Mae’n galonogol gweld pwyslais ynddo ar ddarllen (am resymau sy ddim yn iwtilitaraidd), sy’n cysylltu darllen nid yn unig â llythrennedd a chyfathrebu ond hefyd gydag iechyd a llesiant. Ond, fel sy’n ddigon hysbys erbyn hyn, mae’r cwricwlwm yn ddibynnol iawn ar allu athrawon i roi cnawd ar ei esgyrn. A fydd gan athrawon y sgiliau i hybu’r arfer o ddarllen ymysg eu plant? Heb y sgiliau hynny – rhestrir rhai ohonynt gan BookTrust Cymru – rhethreg yn unig fydd geiriau cynnes y cwricwlwm. Felly bydd hi’n hanfodol bod hyfforddi addas ar gael i athrawon presennol, ac i athrawon i ddod, fel eu bod yn barod i helpu plant i gymryd diddordeb mewn darllen fel arfer pleserus – ac yn wir i garu darllen trwy eu bywyd.
Pryd roeddwn i yn yr ysgol gynradd yn Hoylandswaine yn y 1950au a 1960au cynnar, un o’r pethau a adawodd argraff ddofn arna i oedd y sesiynau, ar brynhawn Gwener gan amlaf, pryd byddai Miss Jackson a Miss Hinchliffe yn darllen storïau o lyfr wrth y dosbarth. Mae’r storïau wedi aros gyda fi, ac rwyf yn hoff iawn o ddarllen byth ers hynny. Dylai pob plentyn ysgol heddiw gael yr un cyfle i gwympo mewn cariad â llyfrau.