Afon ar ei gwely angau
Y peth mwyaf trist am ein taith gerdded llynedd ar hyd Llwybr Afon Gwy, o Gas-gwent i Bumlumon, oedd Afon Gwy. Hynny yw, cyflwr amgylcheddol Afon Gwy. Y gwir blaen – gwir na allai neb ei wadu erbyn heddiw – yw bod yr afon yn prysur farw.
Roedd yr arwyddion yn amlwg, hyd yn oed i bobl fel ni, sy’n ymhell o fod yn naturiaethwyr neu fiolegwyr arbenigol. Gwedd lwyd, ddiflas, oedd ar wyneb yr afon yn gyson. Adroddodd pysgotwyr ar lan yr afon wrthon ni fod pysgod o bob math yn gynyddol brin. Ychydig o adar ac anifeiliaid eraill oedd i’w gweld ar lannau, neu o gwmpas, y dŵr. Bob dydd bron, wrth droedio’r Llwybr, bydden ni’n dysgu rhagor am yr afon, a’r rhesymau pam ei bod mewn cymaint o drybini: y twf aruthrol yn y nifer o ‘ffermydd’ ieir yn y siroedd cyfagos, yn arbennig Powys, a’r garthffosiaeth sy’n llifo i mewn i’r afon a’i hisafonydd.
Heddiw mae llawer yn becso am gyflwr Afon Gwy, ac yn barod i fynegi eu gofid a rhoi pwysau ar yr awdurdodau – ymddiriedolaethau bywyd gwyllt, grwpiau pwysau fel River Action, Save the Wye Coalition, Friends of the Upper Wye, Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, yr Angling Trust, ymysg eraill. Targed arbennig iddyn nhw yw’r ffermydd ieir, sy’n gyfrifol am gynhyrchu ffosffadau dinistriol. Credir fod y cemegau hyn yn gyfrifol am yr algâu sy’n ymgasglu ar wyneb y dŵr yn yr haf ac yn amddifadu’r afon o ocsigen. Mae’r ffermydd hyn, mwy na 500 ohonynt, sy’n perthyn yn aml i gwmnïau mawr, wedi lluosogi’n aruthrol yn ddiweddar. Meddylir fod mwy na 40 miliwn o ieir yn nalgylch yr afon. Amcan yr ymgyrchwyr yw rhoi stop ar gynnydd y ffermydd, a lleihau’r nifer o ieir.
Ond dyw Afon Gwy ddim yn eithriad yng Nghymru. Dengys ystadegau o 2021 fod chwech o’r ugain o afonydd mwyaf llygredig yn y DU, o ran carthffosiaeth, yn afonydd yng Nghymru: Teifi, Wysg, Gwy, Tawe, Menai a Thaf. Y cwmnïau dŵr sy’n gyfrifol am ryddhau’r garthffosiaeth, gan amlaf ar adegau ar ôl i law ‘eithriadol’ ddisgyn ar y tir – yn achos y chwe afon yma, Dŵr Cymru. Mae Dŵr Cymru yn ceisio esbonio ei fethiant trwy ddweud fod mwy o law yn disgyn ar Gymru nag ar Loegr, ac felly bod rhaid anfon llygredd i’r afonydd yn fwy aml. Ond dyw’r cwmni ddim yn gallu hawlio eu bod yn diogelu eu hafonydd. I’r gwrthwyneb, mae eu cyflwr yn dirywio o flwyddyn i flwyddyn.
Mae’n glir fod y cwmnïau dŵr yn methu cadw’r afonydd yn lân. Yma yng Nghymru mae cryn barch i Ddŵr Cymru, o achos ei fod yn gwmni nid-er-elw, heb yr angen i lenwi pocedi cyfranddalwyr. Ond os dyw Dŵr Cymru, yn ei agwedd tuag at drin carthffosiaeth, ddim yn ymddwyn yn wahanol i’r cwmnïau dros y ffin sy’n hollol fasnachol, ble mae’r fantais i ni, o gymharu â Lloegr?
Beth am yr asiantaeth sy’n gyfrifol am yr amgylchfyd ehangach yng Nghymru, sef Cyfoeth Naturiol Cymru? Nhw sydd i fod i oruchwylio gwaith Dŵr Cymru, a’r cyrff a’r eraill sy’n cael effaith ar gyflwr ein hafonydd, ar ran y Llywodraeth. Ond er bod CNC yn monitro ansawdd y dŵr yn yr afonydd (digwydd llai o fonitro heddiw nag o’r blaen, oherwydd toriadau ariannol), ac yn archwilio ‘digwyddiadau’ ynddynt, ac o bryd i’w gilydd yn dod ag achos llys yn erbyn ambell un troseddwr, does fawr o arwydd ei fod yn rhoi stop i‘r llygredd ar raddfa fwy.
Sy’n dod â ni i Lywodraeth Cymru. O dro i dro mae’r llywodraeth yn dangos diddordeb yn y broblem. Maen nhw wedi cynnal dau ‘uwchgyfarfod’ i drafod cyflwr Afon Gwy, ac yn ddiweddar maen nhw wedi ‘galw i mewn’ y cynllun diweddaraf i sefydlu ffatri ieir enfawr arall ym Mhowys. Cyflwynwyd rheoliadau newydd sydd i fod i leihau llygredd o dir amaethyddol gan ffosffadau. Ond mae’n glir bod eu bod nhw medi methu atal dirywiad yr afonydd – gwaethygu mae’r sefyllfa flwyddyn ar ôl blwyddyn. Eu prif broblem yw eu bod nhw ddim yn trin llygredd fel gwir flaenoriaeth. Peth hawdd yw datgan ‘argyfwng hinsawdd’, peth arall yw gweithredu’n ddiwyd i wneud gwahaniaeth go iawn i’r argyfwng. Yn ddiweddar galwodd clymblaid o dros 300 o sefydliadau ar y Llywodraeth i basio Deddf Natur Positif a chreu asiantaeth bwerus – nid CNC – i ddiogelu’r amgylchedd yng Nghymru.
Weithiau dyw hi ddim yn ddigon i lywodraethau ddilyn pobl eraill a gwneud camau bach. Weithiau’r unig adwaith i argyfwng yw gorfodi newid mawr. Oni bai bod hynny’n digwydd, bydd Afon Gwy yn garthffos ddifywyd cyn hir iawn.