Gwirionedd
Ffordd ddigon cyffredin o ganmol llyfr yw dweud pethau fel ‘allwn i ddim ei roi i lawr tan y diwedd’, neu ‘darllenais i’r nofel hon mewn prynhawn, roedd hi mor afaelgar’. Nid felly y darllenais i Gwirionedd, nofel gyntaf Elinor Wyn Reynolds. Ar ôl cwpwl o dudalennau doedd dim dewis ‘da fi ond rhoi’r llyfr o’r neilltu, a gadael i’r cynnwys dreiddio fy meddwl cyn darllen rhagor. Y rheswm oedd bod thema Elinor – colli rhiant, a’i ganlyniadau amrywiol a dirdynnol – yn dod â theimladau dwys iawn sydd â’r gallu i orchfygu meddwl y darllenydd.
Bu colled, sydd wedi’r cyfan yn brofiad cyfarwydd i bron pob un ohonon ni, yn destun cyson trwy hanes barddoniaeth Cymraeg, a sawl llenyddiaeth arall. Ond mae’n deg dweud ei fod yn arbennig o apelgar i awduron cyfoes. I enwi ond dau, mae llyfr Joan Didion, The year of magical thinking, yn cynnig dyddiadur o’r misoedd yn dilyn marwolaeth sydyn ei gŵr, a George Saunders, sy’n trin tristwch obsesiynol Abraham Lincoln wedi marwolaeth ei fab, yn poblogi ei nofel â chast o’r meirwon, ysbrydion sy’n byw mewn limbo rhwng byd y byw a byd y marw. Daeth y ddau lyfr yma i’m cof yn aml yn ystod darllen Gwirionedd.
Daw’r teitl o gerdd gan Waldo Williams. ‘Y tangnefeddwyr’, sy’n enwog am ei geiriau cychwynnol (‘Uwch yr eira, wybren ros, / Lle mae Abertawe’n fflam’) ond sy’n ymwneud â pherthynas agos y llais gyda’i rieni a’u hegwyddorion hollbwysig: ‘Mae gwirionedd gyda ‘nhad / Mae maddeuant gyda ‘mam’. Yn y nofel mae’n glir o’r dechrau pa mor gryf yw’r gadwyn emosiynol rhwng y ferch (dienw) sy’n adrodd y stori a’i thad. Mae e’n marw’n sydyn ar ôl cael ei gludo i’r ysbyty wedi damwain yn ei gartref. Yn yr adran gyntaf o’r nofel, ‘Byw’, cawn ddisgrifiad manwl o’r teimladau eithafol sy’n digwydd i’r ferch wrth i gyflwr yr hen ddyn ddirywio’n gyflym tuag at farwolaeth: sioc, panig, euogrwydd (‘tasen ni heb wasgu naw-naw-naw’), gofid, a llawer mwy.
Yn yr ail adran, ‘Marw’, rydym mewn byd rhyfedd, rhwng marwolaeth ac angladd, sy’n mawrhau a dwysau teimladau’r ferch. Ac yn y trydydd, a’r hiraf, ‘Byw eto’, cyrhaeddwn ni diriogaeth emosiynol arall eto, lle mae presenoldeb lled gorfforol y tad, yn raddol iawn, yn dechrau edwino. ‘Stori fechan yw hon’, medd y broliant ar glawr cefn y llyfr, ac yn wir mae’r plot yn hynod o syml, ond mae’r ferch yn mynd â ni ar daith hir a throellog trwy ei fywyd emosiynol eithafol. Erbyn cyrraedd y tudalen olaf dych chi’n teimlo eich bod chi wedi ‘blino’n shwps’, i ddefnyddio tafodiaith y nofel.
Tafodiaith Sir Gâr yw iaith y nofel, a bydd unrhyw un sy’n gyfarwydd â nhw yn gallu adnabod tref Caerfyrddin a’i strydoedd a pharc ac afon, sef lleoliad y stori. Ac eto mae pob manylyn yn absennol o’r naratif. Does dim enw ar y ferch, nac ar ei thad, ac er bod aelodau eraill o’r teulu yn mynd a dod – gŵr neu gymar, plant, brodyr, pobl yn y dref – maen nhw i gyd yn annelwig, bron yn ddrychiolaethau, a rhai, fel y cofrestrydd a’r fenyw yn y banc, yn oer a difater. Digwydd y stori yn gyfan gwbl o fewn pen y ferch. Ei theimladau dwys hi yw canolbwynt y naratif. A dyna beth sy’n rhoi’r tensiwn i’r llyfr – tensiwn annioddefol ar adegau, sy byth yn cilio tan y diwedd.
Y prif densiwn, ar ôl y farwolaeth, yw rhwng awydd cryf y ferch i beidio â ffarwelio â’r tad – colli gafael ar ei gorff, ar ei gymeriad, ar ei gof – a chydnabod bod rhaid dychwelyd i fyw ei bywyd, hebddo e. Bron tan y diwedd mae’r reddf gyntaf yn gryfach o lawer. Dro ar ôl tro daw’r tad yn ôl iddi yn ystod y nos: mewn breuddwydion, ac yn y dref, lle mae hi’n crwydro’r strydoedd. Cerdded ar ei phen ei hun yn y tywyllwch yw un o’i ffyrdd o ymateb i’r trychineb: ‘dal i gerdded, dal i gerdded a phalu mlaen …’. Cawn olygfeydd cynyddol swreal, fel yn ffilmiau Buñuel. Yn un o’r crwydradau mae’r ferch a’r tad yn eistedd ar fainc yn y nos, yn edrych i mewn trwy ffenest at deulu bach clòs y tu mewn, yn siarad â’i gilydd yn fud. Dro arall mae hi’n dod o hyd iddo’n canu fel bysgwr yn y stryd; yn nes ymlaen mae e’n cynllunio paentio graffiti yn y dref. Ar noson arall maen nhw’n gweld criw o bobl ifainc meddw, wedi’u gwisgo fel merched – ‘merched Beca’, yn ôl y tad.
Er gwaetha ei thema ddifrifol mae Gwirionedd yn stori sy’n frith o hiwmor, a chyfeiriadau llenyddol distaw, fel at waith T.H Parry-Williams: ‘alla i neud dim ond sefyll a gwylio o’r tir sych yn ddiymadferth ble rydw i. Y ferch ar y cei yn crio.’ A ‘… y feri peth fydde’n datod yr holl glymau a’u rhyddhau ni i’n llonyddwch mawr yn ôl’.
Clirio tŷ’r tad sy’n cynnig ffordd allan o’r gwallgofrwydd. Ar y naill law mae’n gas gan y ferch aflonyddu a thaflu ei eiddo, sy’n rhan annatod o’i fywyd; ar y llaw arall – ac mae’r proses yn boenus o araf – dyma ffordd effeithiol o ddechrau llacio’r hualau sy’n ei chadw rhag dychwelyd i’r byd o’i galaru. Yn y diwedd mae amser yn dechrau iachau’r clwyfau, wrth i’r teulu ymgasglu dros y Dolig. Yn y darn terfynol o’r nofel mae’r ferch yn cyrraedd rhyw fath o ddiweddglo: gyda’r teulu mae hi’n gwasgaru lludw ei thad ar y mynydd, yn agos i’w gynefin ei hun.
Agor y bocs. Arllwys y llwch i’r nant yn dyner. Gofalus … gofal nawr. Gwylio’r cynnwys yn whare ’i ffordd lawr ar hyd y cerrig, yn dawnsio tua’r gored heibio cefen y tŷ a diflannu. A ni’n teimlo ’i ynni e’n rhuthro tua’r entrych.
Yn y fan hon bu raid imi roi’r llyfr i lawr eto. Cododd y darn atgof personol – o’r bore hwnnw rai blynyddoedd yn ôl pryd taflon ni lwch fy mam ar draws dŵr afon Tweed, ac edrych, yn dawel iawn, wrth i’r gronynnau’n disgleirio yn yr haul ar eu taith hir i Fôr y Gogledd.
Mae’n bosibl taw stori hunangofiannol yw hon. ‘Daeth y gyfrol hon o nunlle’, medd Elinor yn ei diolchiadau, yn enigmatig. Beth bynnag am hynny, tyfodd ei nofel, yn amlwg, allan o ddealltwriaeth gyflawn o’r profiad o golli rhywun agos. Mwy na hynny, mae gan yr awdur y ddawn i droi metal cyffredin emosiwn amrwd yn aur llenyddol o’r radd gyntaf.