Llygad crwtyn, llygad dyn: David Jones yn Rhos

May 14, 2017 0 Comments

Dair wythnos yn ôl cerddais i heibio i gapel bychan S. Trillo yn Llandrillo-yn-Rhos, heb sylweddoli mai’r llecyn hwn oedd y cyflwyniad cyntaf i Gymru i’r bardd a’r artist David Jones.

Daw’r wybodaeth hon mewn llyfr mawr newydd gan Thomas Dilworth sy’n dilyn bywyd a gwaith David Jones.  Cymro oedd ei dad, Jim Jones, argraffydd fu’n symud i fyw i Lundain yn 1884 o Dreffynnon, Sir y Fflint.  Doedd dim Cymraeg ganddo, ond roedd e’n falch iawn o’i wreiddiau yng Nghymru, a sicrhaodd fod ei fab yn llyncu peth o’i Gymreictod, yn arbennig trwy ganu caneuon Cymraeg.  Pan esboniodd ei dad unwaith fod ‘Taid’ wedi’i wahardd rhag siarad Cymraeg, ymateb David oedd, ‘Taid was a bloody old bastard’.  Roedd Cymru a’i hiaith yn arbennig iddo ar hyd ei oes, a chawson nhw ddylanwad anferth ar ei waith llenyddol a gweledol.

Yn 1904, pan oedd David yn naw mlwydd oed, ymwelodd gyda’i rieni â thad Jim a’i deulu yng Ngogledd Cymru.  Buon nhw’n aros yn Llandrillo-yn-Rhos gyda chwaer Jim, Elizabeth a’i gŵr.  Roedd capel S. Trillo, ar bwys y prom yn Rhos, yn faes chwarae i David a’i ffrindiau.  ‘Marvellous’ oedd ei air amdano, yn cofio am yr adeilad tywyll a’i ffynnon gysegredig.  Ar y bryn y tu ôl i’r pentref roedd adfeilion Llys Euryn, hen blasty oedd, yn ôl y chwedl, yn gartref i Ednyfed Fychan, un o weinidogion Llywelyn Fawr.  Cyrfarfu David â ‘Taid’ – y tro cyntaf iddo glywed siaradwr Gymraeg o bosib.  Gadawodd y profiad o’r gwyliau argraff ddofn ar y bachgen.  Am y tro cyntaf gallai gysylltu diwylliant byw â hanes a hen hanes gwlad ei dad.

Daeth y teulu yn ôl i ogledd Cymru mwy nag unwaith yn ystod y blynyddoedd nesaf – ymweliadau a gryfhaodd y cysylltiadau emosiynol rhwng Cymru a’r crwt.

Wedi marwolaeth ei fam yn 1937 dychwelodd David gyda’i dad i Rhos.  Erbyn hynny roedd y lle wedi newid, er gwaeth.  Codwyd rhesi di-ben-draw o dai a byngalos, hyd yn oed ar lethrau Bryn Euryn, ac adferwyd a glanhawyd y capel fel iddo golli ei naws dwyfol yn llwyr.  Roedd y broses o faesdrefoli wedi effeithio ar Dreffynnon yn yr un modd.  Ond mae rhywun yn amau na chafodd y dadrithio hwn gymaint o effaith ar feddwl David Jones am Gymru â’i atgofion melys gwreiddiol o Rhos fel plentyn.  Wedi’i blannu yn ei ddychymyg yn gynnar iawn, doedd Cymru byth yn mynd i golli ei gafael.  I’r gwrthwyneb, cynyddodd dylanwad hanes ac iaith Cymru ar ei waith, yn enwedig ar ôl iddo gwrdd ag Aneurin Talfan Davies, Saunders Lewis, Valerie Wynne-Williams a Chymry eraill a ddaeth yn agos iddo, wedi’r Ail Ryfel Byd.

(Heddiw gall yr ymwelydd rannu yn hawdd deimladau cymysg David Jones yn 1937 am Landrillo hanesyddol, ar goll ymysg y tai, tafarndai, a’r tat o’r dref fodern.  Ychydig iawn o ddirgelwch sydd ar ôl i’r capel bach.  Mae ei waliau wedi’u trwsio cymaint o weithiau fel ei fod yn debyg i adeilad newydd sbon.)

Ffrwyth ymchwil trylwyr dros ddeng mlynedd ar hugain yw David Jones: engraver, soldier, painter, poet.  (Mae’r rhan fwyaf o’r bobl sy’n derbyn cydnabyddiaeth gan Thomas Dilworth am eu gwybodaeth wedi marw erbyn hyn.)  Mae’n amhosibl ei ddarllen heb gasglu ffeithiau di-rif am fanylion bywyd David Jones.  Yn aml, daw faith ar ôl ffaith yn ddidostur, heb fawr o gysylltiad neu gyd-destun thematig.  Arwynebol yw’r driniaeth o’r cyfnod allweddol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf – allweddol achos dyna oedd tarddiad bywgraffiadol campwaith David Jones, In parenthesis, ond hefyd oherwydd yr effaith drychinebus a gafodd y profiad o ymladd bron trwy’r Rhyfel ar ei iechyd dros weddill ei fywyd – a bydd angen troi at lyfr arall gan Dilworth, David Jones in the Great War er mwyn dilyn y cyfan.  Ond trysor yw’r bywgraffiad hwn, a hynny am ddau reswm.  Gan fod cymaint o waith David Jones – y tu hwnt i’r enghraifft amlwg In parenthesis – â’i wreiddiau yn ei fyd emosiynol a deallusol, yn aml iawn gall y darllenydd, gyda help Dilworth, ailfeddwl rhai o’r cerddi a’r lluniau yng ngolau manylion bywyd yr artist.  Er enghraifft, mae rhywun yn edrych ar y llun mawr hwyr, Trystan ac Essyllt, mewn ffordd wahanol ar ôl darllen am cariad ffôl Jones â Valerie Wynne-Williams a’r creithiau a gadawodd diwedd y berthynas ar yr artist.  Yr ail reswm yw bod Jones yn gymeriad rhyfedd a chymhleth, sy’n llawn haeddu astudiaeth estynedig: yn swil ond yn ystyfnig, yn unig ond â chylch mawr o gyfeillion a chymwynaswyr, yn hynod wybodus a deallusol, yn arbennig am hanes, celf a llenyddiaeth, ond yn naïf iawn am y byd (mae ei hunan-dwyll am yr Almaen o dan y Natsïaid yn annifyr iawn).  ‘Sant’ yw’r enw iddo sy’n codi’n aml trwy’r llyfr – yn rhannol o achos ei ddifaterwch tuag am arian ac enwogrwydd, ond hefyd oherwydd ei gymeriad hoffus a ddidwyll.

Dyw Dilworth ddim yn gyfarwydd iawn â Chymru a gwelais sawl gwall yn y rhannau hynny o’r stori sy’n ymwneud â’r wlad.  Ond prif wendid ei lyfr yw ei fethiant i gyfiawnhau ei asesiad o Jones fel artist o’r radd flaenaf trwy ystyried ei waith ochr yn ochr â’r bywyd.  I fod yn deg, cawn nifer o ddehongliadau awgrymog a sensitif o’r lluniau a’r arysgrifau paentiedig (ac mae llawer o luniau ar wasgar o fewn y testun), ac mae’n amlwg bod gan Dilworth ddirnadaeth lawn o’r symbolaeth Gatholig sy’n treiddio trwy holl waith Jones.  Ond allai neb (neb, o leiaf, sydd heb eu darllen) gyrraedd diwedd y llyfr a deall pam bod y ddwy brif gerdd, In parenthesis a The anathemata, a nifer o’r cerddi llai eu maint, yn haeddu eu lle ymysg gweithiau llenyddol gorau’r ugeinfed ganrif.  Ychydig iawn o driniaeth sydd o’r cerddi, a bron dim dyfyniadau ohonynt.   Er mwyn profi’r gosodiad mawr Dilworth does dim dewis ond cau cloriau ei lyfr, mynd nôl i’r silff, ac ailymweld â llyfrau David Jones ei hun.

Thomas Dilworth, David Jones: engraver, soldier, painter, poet, London: Cape, 2017.

Leave a Reply