Capel-y-ffin: tro ar fyd David Jones

February 28, 2016 1 Comment

David Jones exhibition

Mae’n drueni mawr na fydd yr arddangosfa David Jones: vision and memory, sydd newydd ddod i ben yn Pallant House, Chichester, yn dod yma i Gymru, cartref ysbrydol ac ysbrydoliaeth yr artist ac awdur o Lundain.  Fel cytunodd pob un o’i hadolygwyr, arddangosfa o’r safon uchaf fu hi, gyda nifer fawr o weithiau anghyfarwydd, yn arbennig o gasgliadau preifat, o bob cyfnod o yrfa gelfyddydol David Jones.

Syrthiais i dan gyfaredd David Jones am y tro cyntaf yng Nghaergrawnt yn y 70au cynnar, wedi darganfod ei weithiau yn Kettle’s Yard.  Bryd hynny H.S. (Jim) Ede, sylfaenydd Kettle’s Yard, oedd yn byw yna o hyd, ac yn croesawu pawb, hyd yn oed myfyrwyr ifanc, anaeddfed a ddaeth i’r drws a chanu’r gloch bob prynhawn.  Bu Jim Ede yn gyfaill i Jones – ac yn wir roedd Jones yn dal yn fyw, er yn hen ac yn dost.  Fe welais i baentiadau dyfrlliw o’i gyfnod hwyr – lluniau mawr, cymhleth, llawn symbolau, fel Flora in calix-light, yr oedd angen gwybodaeth arbenigol, fel am y traddodiad Catholig, er mwyn eu dehongli.

David Jones Flora in calix-light

David Jones, Flora in calix-light (1950)

Roedd Flora ac enghreifftiau eraill o’r un cyfnod i’w gweld yn arddangosfa Pallant House, ond y rhinwedd mawr o’r sioe oedd bod modd gweld dilyniad celfyddyd David Jones, yr holl ffordd o’i sgetshis cynharaf fel plentyn ysgol tan ei weithiau olaf yn y 1960au.

Un o’r pethau mawr sy’n gwbl amlwg o’r arddangosfa yw rhan Cymru, ac yn arbennig ardal Capel-y-ffin yn y Mynydd Du, yn natblygiad yr artist ifanc.  Wedi ei hyfforddiant celfyddydol yng Ngholeg Camberwell cyn y Rhyfel Byd Cyntaf a Choleg Westminster ar ei ôl, syrthiodd Jones dan ddylanwad (celfyddydol a chrefyddol) y cerflunydd a’r engrafwr Eric Gill.  Trigai gyda Gill yn ei gymuned Gatholig o grefftwyr ac artistiaid yn Ditchling, Sussex.  Yn ei waith  – torluniau pren, engrafiadau copr, paentiadau olew a darluniau – byddai’n rhoi arddulliau modernaidd a ddeilliodd o Giwbism a Vorticism ar waith mewn themâu Cristnogol a llenyddol.  Yn rhannol oherwydd y dulliau o’i greu, mae’r gwaith hwn yn tueddu i edrych yn geometrig, yn dywyll ac yn arddulliedig.

David Jones Y Twmpa

David Jones, Y Twmpa, Capel (1926)

Dilynodd David Jones Gill i’r hen fynachdy yng Nghapel-y-ffin amser y Nadolig yn 1926, i rannu bywyd cymunedol gyda theulu Gill a dau deulu arall yng nghanol heddwch a phrydferthwch dyffryn Nant Honddu.  Yma, ac ar Ynys Bŷr ar bwys Dinbych-y-pysgod, byddai’n aros am gyfnodau hir dros y tair blynedd nesaf.  Ei arfer oedd mynd allan bob dydd a chreu sgetshis o’r dirwedd yn yr ardal.

Daeth Jones yn aelod o’r eglwys Gatholig yn 1921, ac yn anaml mae ei feddwl crefyddol yn bell iawn o’i waith gweledol.  Un o’r gweithiau cyntaf a wnaeth yng Nghapel-y-ffin oedd murlun yn dangos croeshoeliad Crist â dyffryn Nant Honddu yn y cefndir: llun hieratig yn unol ag arddull arferol Jones.

David Jones Hill pasture

David Jones, Hill pasture, Capel-y-ffin (1926)

Yn fuan iawn newidiodd e steil ei waith.  Am y tro cynaf, mae’n debyg, teimlai Jones ei fod yn gyfforddus iawn yn ei gynefin.  Er bod Capel-y-ffin llai na milltir o’r ffin gyda Lloegr, roedd yn perthyn i fyd hollol wahanol i’r wlad tua’r dwyrain: mynyddig, llawn hanes a chynhanes, enwau lleoedd gwahanol – a (rhywbeth oedd yn bwysig i Jones) traddodiad crefyddol oedd yn hŷn.  Bu Jones erioed yn ymwybodol iawn o’i etifeddiaeth Gymreig – un o Dreffynnon, sir y Fflint oedd ei dad, James – a dyma oedd e nawr, yng ngwlad ei dad a’i gyndeidiau.  Gwlad seml, heddychlon, yn bell iawn o swbwrbia Llundain neu anialwch Ffrainc o’i amser yna yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Parhaodd Jones i weithio ar ei dorluniau pren ac engrafiadau, ond yn ei ddarluniau a phaentiadau troai ei lygaid tua’r dyffryn y tu allan i’r mynachdy, y ffermydd gwasgaredig, y nentydd byrlymus, y bryniau, yn arbennig yr un a elwid Y Twmpa, a’r merlod gwyllt yn pori arnynt.  Heddiw ychydig sydd wedi newid, fel gwelais i tra oeddwn i’n cerdded yn yr ardal ym mis Mehefin 2015.  Am y tro cyntaf mabwysiadodd Jones ddyfrlliw, a dechrau cynhyrchu llu o dirluniau, mewn arddull newydd.  Nawr mae ei linellau yn llifo’n rhwydd a heb rwystr, yn union fel Nant y Bwch islaw’r mynachdy.  Nid yn unig y nentydd, ond y bryniau wrth eu hochrau sy’n llifo yn y gweithiau hyn, fel pe bai’r wlad ei hun yn fyw ac yn symud oddi fewn y dirwedd.  Defnyddir lliwiau – gan amlaf gwyrddion a brown – i fodelu siapiau’r bryniau, un o flaen y llall.  Mae golau, a’i effaith ar y tir, yn dod yn bwysig i Jones, am y tro cyntaf.  Gall rhywun deimlo rhyddid a llawenydd yr artist wrth iddo ymsuddo i’r wlad swynol hon.

David Jones, Nant-y-Bwch

David Jones, Nant-y-Bwch (1926?)

Yn ei baentiadau dyfrlliw a wnaeth ar Ynys Bŷr gallwn ni weld yr un tueddiadau ar waith.  Os rhywbeth mae’r rhain hyd yn oed yn fwy penrhydd yn eu triniaeth o’r tonnau’n bwrw’r cerrig o fewn y baeau ar yr ynys.  Ac wedi darganfod y dulliau llyfn newydd hyn, aeth David Jones ymlaen i’w datblygu yn ei gyfnod nesaf.  Ymunodd â Gill a’i griw yn eu cartref cymunedol nesaf, Pigotts Farm yn Swydd Buckingham, ac yn 1930 paentiodd un o’r lluniau mwyaf ysgafnfryd a llawen o’i fywyd.  Mae hwn yn dwyn i feddwl paentiadau Raoul Dufy, a dyw hi ddim yn amhosibl bod ‘na ddylanwad uniongyrchol; yn sicr roedd e’n gyfarwydd â gwaith Pierre Bonnard.  Yn 1928 ymwelodd Jones â de Ffrainc gyda’r Gills, ac eto creu paentiadau tebyg.  Yn raddol datblygodd y steil newydd yma, ‘steil Capel-y-ffin’, i arddull aeddfed Jones, a elwir yn aml ei arddull ‘dryloyw’: gweithiau mawr, manwl a chymhleth yn eu symbolaeth, fel Aphrodite in Aulis (1940-41) a Vexilla regis (1947-48).

Mae’n bosibl dilyn y ffrwd arall yn llif celf David Jones, o’r engrafiadau a’r torluniau pren – gweithiau gofalus, disgybledig, ar raddfa fach – i’r arysgrifau neu lythreniadau enwog a greai o ganol y 1940au ymlaen.

Sleeping lord

Mae gan ardal Capel-y-ffin arwyddocâd pellach i ddatblygiad David Jones.  Roedd e ar fin dechrau ar ei yrfa fel awdur: cychwynnodd ar ysgrifennu ei gerdd hir am y Rhyfel Byd Cyntaf, In parenthesis, yn 1928, ar ôl y daith i Ffrainc.  Yma yng nghanol y Mynydd Du plannwyd yr hadau fyddai’n tyfu, flynyddoedd yn nes ymlaen, i ymddangos yn y gweithiau ysgrifenedig.  Mae cyfeiriad i Nant Honddu yn The anathemata (1952).  Yn eu llyfr o arddangosfa Pallant House mae Ariane Banks a Paul Hills yn tynnu sylw at y rhan sydd i Gapel-y-ffin yn y gerdd hir anghyflawn The sleeping lord, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1967.  Benthyca Jones ei thema o’r fytholeg neu ddarogan traddodiadol fod arweinydd arwrol y Cymry (Arthur / Crist) yn cysgu o dan y ddaear ond yn bwriadu ailymddangos i hawlio ei wlad.  Ymddengys cyfeiriad amlwg i Gapel-y-ffin yn gynnar yn y gerdd: ‘Is the tump by Honddu / his lifted bolster?’  Ond dyw hi ddim yn anodd gweld yr holl thema o’r arglwydd tanddaearol yn y lluniau a wnaeth Jones yng Nghapel-y-ffin, lle mae’r dirwedd gyfan yn cael ei gweld mewn ffordd sydd bron yn anthropomorffig, fel petai’n fyw neu o dan ddylanwad rhyw rym cudd sydd ynddi.

Trobwynt allweddol oedd Capel-y-ffin felly yn natblygiad David Jones, fel artist ac awdur.

Y Twmpa

Y Twmpa

Leave a Reply