Delweddu pont: Pontypridd a’r artistiaid
Mae llawer o sôn yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a gynhelir yng nghanol Pontypridd ym Mharc Ynysangharad, am ‘bontio’ rhwng siaradwyr Cymraeg a’r mwyafrif o’r trigolion lleol sy ddim yn medru’r iaith. Perthnasol iawn yw’r metaffor, o gofio bod Pontypridd yn cynnig esiampl wych o adeilad sydd wrth ei wraidd.
Dyw’r gair ‘gwych’ ddim, mewn gwirionedd, yn gwneud cyfiawnder i orchest pont William Edwards. Yn y cyfnod ar ôl i’r bont agor yn 1756 – wedi sawl ymdrech aflwyddiannus gan Edwards i godi strwythur fyddai’n sefyll lan – tyfodd consensws mai un o ryfeddodau modern Cymru oedd hi. Hi oedd y bont â’r lled fwyaf ym Mhrydain ar y pryd, ac yn nodedig hefyd oherwydd ei siâp graslon a’i ‘llygaid’ cylchol (‘oculi’) ar y ddwy ochr. Heddiw, gyda’r holl adeiladau, a’r bwrlwm o draffig sy’n ei amgylchynu, heb sôn am y bont newydd wrth ei hymyl, mae’n anodd dychmygu sut effaith cafodd y bont ar ymwelwyr cynnar â’r ardal. Rhaid cofio mai ‘Newbridge’ oedd enw Pontypridd i gychwyn, achos mai llecyn dibwys oedd e yng nghanol y ddeunawfed ganrif. Safai’r bont ar ei phen ei hun, mwy na lai, o fewn y dirwedd.
Ymledodd enw’r bont ar unwaith, a denwyd artistiaid ati hi’n fuan. Tynnwyd un o’r lluniau cynharaf o’r bont gan artist o’r enw E.B. Edwards (mab William Edwards o bosib?) o gwmpas 1760. Saif Edwards yn agos i’r bont, ar lan ddwyreiniol yr afon. Y tu hwnt i’r bont mae coed a bryniau yn y cefndir, a dau ddyn yn cerdded dros y bont. Llun syml yw e, ond llawn cymeriad.
Wedyn cyrhaeddodd y Cymro Richard Wilson, artist proffesiynol a ‘thad’ tirluniau ym Mhrydain, i beintio’r bont yn y 1770au. Yn anffodus dyw ei lun ddim yn goroesi, ond mae gennym engrafiad ohono o 1775 gan artist o Ffrainc, Pierre-Charles Canot, sy’n dangos sut aeth Wilson ati i ddisgrifio’r olygfa. Mae ei lun yn dilyn y ‘schema’ arferol roedd e wedi ei ddatblygu, yn nhraddodiad Claude Lorraine a pheintwyr Ewropeaidd eraill o’r 17eg a’r 18fed ganrif, ar gyfer y fath olygfa: yr afon a’r bont yn y canol, wedi’i fframio gan ‘repoussoirs’, coed neu gerrig ar y naill ochr a’r llall, gyda bryniau yn y pellter, a grŵp o bobl yn y blaendir.
Yr hyn sy’n drawiadol, o edrych dros y degau o luniau o’r bont sy’n dilyn llun Richard Wilson yn ystod y degawdau nesaf, yw bod y rhan fwyaf ohonynt yn mabwysiadu fformiwla Wilson, bron yn slafaidd: y bont yn y canol, y safbwynt o’r de, y cefndir ‘picturesque’. O fewn bron dim o amser roedd ‘llun y bont’ wedi dod yn cliché gweledol. Mae Benjamin Heath Malkin, a ddaeth i Bontypridd yn 1803, yn crynhoi apêl yr olygfa i’r artist:
The appearance of the bridge from the hill on the Llantrisent road has generally been likened to that of a rainbow, from the lightness, width, and elevation, of the arch. Without weighing the exactness of a simile, I may safely say that the effect of such a structure, in such a position between two rocky but well-wooded crags, with a considerable reach of the river and valley seen through the lofty arch, affords an instance scarcely to be paralleled, of art happily introduced among the wildest scenes of nature. It is a question therefore to be asked, what eminent artist, whether from our own or some foreign academy, furnished this extraordinary design.
Un o ddilynwyr Richard Wilson yw Samuel Hieronymus Grimm, a ymwelodd yn 1788 yng nghwmni’r awdur Henry Penryddocke Wyndham, i lunio golygfa o’r bont. Mae’n ymddangos llawer yn fwy nag yw hi mewn realiti, oherwydd y ffigurau chwerthinllyd o fach ar ei phen. Gadawodd y bont argraff ddofn ar Wyndham:
Had the remains of such an arch been discovered among the ruins of Greece or Rome, what pains would be taken by the learned antiquarians, to discover the architect while honest William Edward still remains unnoticed, among his native mountains.
Cawn ni ychydig o amrywiad yn engrafiad Michael Angelo Rooker, sy’n edrych tuag at y bont o’r ochr chwith – ond mae’r elfennau eraill o’i lun yn cydymffurfio â’r ‘schema’ arferol.
Un o’r artistiaid-ymwelwyr enwocaf oedd J.M.W. Turner, yn ystod ei daith olaf i Gymru yn 1798. Gwnaeth e sgetsh gyflym o’r bont mewn pensil, sy’n rhan o lyfr braslunio ‘Cyfarthfa’, ac yn nes ymlaen datblygodd lun mwy estynedig, sy’n dychwelyd i batrwm Wilson. Eto, dyma olygfa hollol gonfensiynol.
Yn raddol, yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif, codwyd adeiladau ar lannau’r afon, ond mae’r ffordd o lunio’r bont yn aros yn ddigyfnewid. Yn un o’r engrafiadau (dienw), o ganol y ganrif, gwelwn ni bysgotwr yn gwisgo het silc, a merched mewn ffrogiau ffasiynol.
Hyd yn oed ar ôl i’r arddull rhamantaidd ddisodli’r arddull Wilsonaidd, fel ym mheintiad William Bonville o Fryn Towy, mae’r ‘schema’ yn dal yn ei le.
Ond mae ’na un artist sy’n gwyro oddi wrth ‘reol Wilson’. Daeth Julius Caesar Ibbetson i’r ardal yn 1790, ond yn lle efelychu Wilson a’i griw, dewisodd lunio’r bont o bell – o’r hen ffordd o Lantrisant, yn agos i Ben-y-coedcau. Mae hyn y galluogi’r artist i amlygu’r dirwedd o amgylch Pontypridd: gellir gweld Craig yr Hesg uwchben y dref, a’r Graigwen i’r chwith. Yn y blaendir ceir ffermwr gyda buchod, a cheffyl sy’n tynnu car llusg. A reit yng nghanol y llun dyma fwa gosgeiddig pont William Edwards, yn disgleirio’n wyn yn y pellter. Rhaid dweud, mae’r llun hwn yn chwa o awyr iach ar ôl y llif o luniau mwy confensiynol o’r bont.
Daeth y llif i ben unwaith bod Pontypridd yn tyfu i fod yn dref, ac yn arbennig ar ôl i ffordd newydd gael ei godi ar bwys yr hen bont yn 1857. Yn sydyn, diflannodd yr olygfa ‘glasurol’. Yr unig ffordd o beintio’r hen bont o’r de o’r safbwynt traddodiadol oedd ‘dychmygu i ffwrdd’ y bont newydd – fel a wnaeth yr artist lleol cyfoes Elwyn Thomas mewn llun i’w weld yn Y Lle Celf ar faes yr Eisteddfod.
Gallwch chi weld detholiad o weithiau gan artistiaid o hen bont Pontypridd, gan gynnwys llun bendigedig J.C. Ibbetson, yn Amgueddfa Pontypridd.