Posteri’r Eisteddfod
Un o draddodiadau Eisteddfod Genedlaethol Cymru sy wedi mynd ar goll yw’r arfer o ddylunio a chyhoeddi poster arbennig i hysbysebu’r ŵyl. Yn y degawdau cyntaf o’r ugeinfed ganrif tyfodd yr arfer, ac weithiau gwahoddwyd artistiaid Cymreig o fri i greu delweddau i’r posteri.
Dechreuodd y traddodiad cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1906 cyhoeddwyd poster sy’n gosod y patrwm gweledol ar gyfer y posteri sy’n dilyn: merch wedi’i gwisgo mewn gwisg ‘draddodiadol’ Gymreig, a thelyn, a llun o fro’r Eisteddfod (sef, yn yr achos hwn, Castell Caernarfon).
Aeth yr Eisteddfod i Lundain yn 1909, ac ar gyfer y poster, hollol Saesneg ei iaith, creodd Alfred Garth Jones, artist a darlunydd o Lundain ond o dras Gymreig, lun o fardd traddodiadol: dyn oedrannus wedi’i wisgo fel derwydd ac yn cario telyn – fel pe bai Iolo Morganwg yn dal yn fyw ac yn arwain ei Orsedd gyntaf ar Primrose Hill.
Gwelir geiriau Iolo ar boster mwy cartrefol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin yn 1911, lle cawn weld pysgotwr lleol a’i gwrwgl a’i badel.
Yr esiampl fwyaf trawiadol a nodedig, heb os, yw’r poster ar gyfer Eisteddfod Abertawe yn 1926. Y dylunydd oedd Evan Walters, brodor o Abertawe a’r artist mwyaf blaengar yng Nghymru yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd. Cymerodd Walters ran mewn cystadlaethau celf yn yr Eisteddfod hon, gan ennill tair gwobr, diolch i Augustus John oedd yn un o’r beirniaid ac yn bleidiol i artistiaid arloesol. Yn Abertawe roedd celf yn cael mwy o sylw nag mewn unrhyw Eisteddfod o’r blaen. Roedd pwyslais ar artistiaid cyfoes ac ifanc. Meddai’r catalog, ‘Prynwch eich lluniau oddi wrth artistiaid byw; ar y meistri a fu does dim angen eich cefnogaeth’.
Roedd gan Walters ystod eang o arddulliau, ond cafodd moderniaeth effaith arbennig ar ei luniau, ac mae’r poster yn adlewyrchiad amlwg o’r mudiad mygediadol (‘Expressionism’) oedd ar led yn yr Almaen a gwledydd eraill cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Dau ffigwr sydd yn y llun: draig ffyrnig mewn coch, du a gwyn, sy’n rhuthro tuag aton ni a’i thafod miniog yn codi i’r awyr, a merch a’i choesau noeth ar gefn gwddf y ddraig. Hedfan mae’r ddwy uwchben y Mwmbwls ac agerlong ar y môr.
Llun trawiadol felly, ond llun diniwed inni heddiw. Nid felly i awdurdodau’r Eisteddfod yn 1926. Eu barn nhw oedd bod y ddelwedd llawer yn rhy awgrymog a rhywiol. Mynnon nhw fod y posteri i gyd yn cael eu mathru. Dywedir mai ond un copi a oroesodd, diolch i noddwraig Evan Walters, Winifred Coombe Tennant.
Un o’r artistiaid yr oedd ei waith i’w weld yn Eisteddfod Abertawe oedd Harry Hughes Williams. Fe a ddyluniodd y poster ar gyfer Eisteddfod Lerpwl yn 1929 (addysgwyd e fel artist yn Lerpwl cyn y Rhyfel). Delwedd fwy ceidwadol, gan artist ceidwadol, oedd hon: dwy ferch mewn gwisg Gymreig yn croesawu pobl i Sefton Park trwy chwythu utgyrn. Y tro hwn, dyw’r ddraig goch, ar un o’r baneri, ddim yn ymddwyn yn wyllt, ond yn wylaidd. Doedd y llun hwn ddim yn mynd i gythruddo neb, mae’n amlwg.
Cyhoeddwyd ail boster i hysbysebu Eisteddfod Lerpwl, gan artist anhysbys, sy’n cynnwys llun mewn arddull Art Deco, gyda ffigurau hieratig.
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol 1933 yn Wrecsam. Mae adlais o lun Evan Walters yn y poster ar ei chyfer. Mae’n dangos hen ddyn yn canu’r delyn a’r gwynt yn chwythu trwy ei wallt gwyn a barf hir – fersiwn arddullaidd o’r hen lun ‘Y Bardd’ gan Philip James de Loutherbourg.
Erbyn y 1930au, yn ôl Peter Lord, roedd artistiaid blaengar wedi colli diddordeb yn yr Eisteddfod Genedlaethol i raddau helaeth, yn wyneb methiant yr awdurdodau i ymrwymo i gelf gyfoes o safon. Os felly, dyna hyn sy’n esbonio dirywiad celf y poster yn yr Eisteddfod.
Beth am yr Eisteddfod heddiw? Mae gan bob un ei ‘logo’ arbennig, ond, fel arfer, dim byd mwy sylweddol. Oni fyddai’n braf gweld adferiad o’r traddodiad o gomisiynu artist i greu poster trawiadol ar gyfer yr ŵyl?