Ar hunangofiannau
Y dydd o’r blaen ces i lyfr ar fenthyg gan gyfaill, sef hunangofiant newydd yn Saesneg gan un o hoelion wyth y byd Cymreig cyhoeddus – cyfrol drwchus, gyda dros bedwar cant o dudalennau, a phrint mân. Mae’r llyfr yn dal i orwedd ar y ford yn y cyntedd; dwi heb ddarllen mwy nag un neu ddau dudalen. Does dim byd ‘da fi yn erbyn yr ‘hoel’ dan sylw – oni bai bod enw ‘da fe, yn gam neu’n gymwys, o fod yn elyniaethus i’r iaith Gymraeg. Y gwir yw bod gen i ragfarn yn erbyn y math arbennig hwn o ysgrifennu – hunangofiant mawr.
Y prif reswm dros fy amheuon yw’r rhan gyntaf o’r gair, ‘hunan’. Y cwestiwn sy’n codi imi ar unwaith, cyn troi at y tudalen cyntaf, yw ‘alla i ymdopi â’r ego sydd ar y llwyfan yma?’ Achos ei bod hi’n amhosibl meddwl am ysgrifennu hanes swmpus o’ch bywyd oni bai bod ego eithaf mawr ‘da chi yn y lle cyntaf, ac amhosib meddwl am ei gyhoeddi oni bai eich bod chi’n moyn dangos eich ego yn falch i’r byd i gyd.
Mae hyn yn arbennig o amlwg yn achos hunangofiannau gan wleidyddion – isddosbarth arbennig o’r genre. Arbennig yn yr ystyr eu bod nhw i gyd, ar wahân i rai eithriadau fel Long walk to freedom gan Nelson Mandela, yn wael ac yn annarllenadwy, ond yn bennaf achos bod cymhelliad yr awdur, bron bob tro, yw cyfiawnhau ei benderfyniadau gwleidyddol. Yn anaml mae’r awdur yn fodlon cyfaddef iddo wneud dewis pwysig oedd yn annoeth neu’n niweidiol. Er enghraifft, yn ei lyfr A journey (2010) mynegodd Tony Blair gydymdeimlad â’r rhai a gollodd eu bywydau yn y rhyfel yn erbyn Saddam Hussein yn Irac, ond mynnodd e fod ei benderfyniad i gefnogi’r rhyfel yn un cwbl gywir a chyfiawn. Un o’r esiamplau mwyaf gan Gymro yw The war memoirs of David Lloyd George, ymgais i gyfiawnhau gweithredoedd gwleidyddol lle’r oedd llawer mwy o fywydau yn y fantol. Crynhoad un o ysgolheigion mwyaf Lloyd George, J. Graham Jones, yw bod y Memoirs yn ‘ymgais digywilydd i gyfiawnhau ei weithredoedd ei hun ac i amddiffyn ei record yn erbyn ei feirniaid a’i fychanwyr.’
Dosbarth arall o hunangofiannau sy’n llenwi’r silffoedd, wrth gwrs, yw atgofion selebs, fel pêl-droedwyr a sêr y byd pop. Eto, ar y cyfan dyw’r safon lenyddol ddim yn uchel, er bod llawer ohonyn nhw’n elwa o help gan rith-awduron. Ymhlith yr eithriadau yw’r llyfrau gan Keith Richards, Tracey Thorn a Viv Albertine.
A gallwn ni barhau i restru categorïau o bobl sy wedi cyhoeddi ei atgofion. Un o’r grwpiau mwyaf annisgwyl yw haneswyr academaidd. Am ryw reswm mae’r temtasiwn i gofnodi eu bywydau, waeth pa mor anniddorol ydyn nhw yn ormod iddyn nhw. Dw’n cofio i hunangofiant Glanmor Williams ymddangos i gôr o leisiau siomedig. Eto, mae eithriadau: Edrych yn ôl (1968) gan R.T. Jenkins, ‘yr hunangofiant difyrraf a luniwyd erioed yn Gymraeg’, yn ôl un darllenydd, a Fy hanes i (2014) gan John Davies (‘dyma wledd o ddarllen difyr’).
Yr is-genre lleiaf annerbyniol, o bosib, yw hunangofiannau gan lenorion, ac yn arbennig nofelwyr, sy’n tueddu i ffrwyno unrhyw duedd yn eu personoliaeth i strytian ar draws y llwyfan. Yn y byd Cymraeg mae rhywun yn meddwl, am Hen dŷ fferm gan D.J. Williams neu Afal drwg Adda (‘hunangofiant methiant’) gan Caradog Prichard.
Y rheswm arall dros deimlo’n amheus am unrhyw hunangofiant yw ail ran y gair, ’cofiant’. Ydy hi’n bosib ymddiried yn atgofion yr awdur, hyd yn oed os credwn ni ei fod yn peidio â rhaffu celwyddau neu guddio’r gwir? Faint maen nhw’n ffugio i wneud yn iawn am fylchau yn eu cof? Ydyn nhw wir yn medru cofio, air am air, sgyrsiau a gafwyd deugain mlynedd yn ôl? A’r rhain i gyd cyn eich bod chi’n cyrraedd y cwestiwn athronyddol dyrys, sef ‘ai fi yw’r un un person â’r crwt ‘na deuddeg oed hanner canrif yn ôl?’
I farnu o gatalog y Llyfrgell Genedlaethol, cyhoeddwyd o leiaf tri chant o lyfrau hunangofiannol Cymreig hyd heddiw. Does dim modd cymharu Cymru a gwledydd eraill, ond mae’n bosib bod llai yng Nghymru, gan gymryd y gwahaniaeth maint yn y cwestiwn. Yr hyn sy’n amlwg, fodd bynnag, yw bod ei awduron llawer yn fwy tebyg o fod yn ddynion. Pam? Achos bod menywod yn meddwl dwywaith am drympedi eu gorchestion, o bosib?
Fel mae’n digwydd, dwi wrthi’n darllen llyfr byr, craff gan Deborah Levy, Things I don’t want to know, y cyntaf o driawd o lyfrau hunangofiannol. Ei is-deitl yw ymateb i ysgrif George Orwell, ‘Pam dwi’n ysgrifennu’. Felly fe dynnais i’r ysgrif hon o’r silff. Yn ôl Orwell, pedwar peth sy’n gyrru rhywun i ddod yn awdur. Y cyntaf yw hunanoldeb (‘sheer egoism’)! Dyna sut mae’n esbonio’r cymhelliad:
Desire to seem clever, to be talked about, to be remembered after death, to get your own back on grown-ups who snubbed you in childhood, etc., etc. It is humbug to pretend this is not a motive, and a strong one. Writers share this characteristic with scientists, artists, politicians, lawyers, soldiers, successful business men – in short, with the whole top crust of humanity.
Felly ydy hi’n afresymol imi ddisgwyl i unrhyw lyfr, heb sôn am hunangofiannau, fod yn rhydd o egotistaieth? Efallai. Ond rhaid cofio bod Orwell yn ddyn, un oedd wedi tyfu mewn cymdeithas wrywaidd iawn, ac wedi’i addysgu mewn ysgolion preifat, gan gynnwys Coleg Eton. Ac roedd e’n ysgrifennu’r ysgrif yn 1946. Os trown ni i i dadalennau Deborah Levy, mae pethau’n edrych yn llai syml. Er ei bod hi’n defnyddio pedwar cymhelliad Orwell – ‘sheer egoism’, ‘aesthetic enthusiasm’, ‘historical impulse’ a ‘political purpose’ fel penawdau yn ei llyfr, dyw hi ddim yn ymateb i Orwell trwy dadlau’n uniongyrchol gydag e. Yn hytrach, mae ei safbwynt ar thesis Owell yn esblygu trwy ddwyn i gof rannau o’i bywyd, yn Ne Affica, yn Lloegr ac ar ynys Majorca, a thracio sut ail-ddysgodd hi fod yn awdur, ar ôl cynod o iselder ysbryd difrifol. Geiriau cyntaf y llyfr yw: ‘Y gwanwyn hwnnw pryd roedd bywyd yn galed ac roeddwn i’n ymladd yn erbyn fy ffawd a methu gweld ble roeddwn i i fod, byddwn i’n llefain fwyaf ar risiau symudol mewn gorsafoedd trên.’
Y darn allweddol yn y llyfr, i mi o leiaf, yw pryd mae Levy yn cofio bod mewn dosbarth actio yng nghwmni Zofia Kalinski, sy’n cynnig cyngor i’r dysgwyr:
To speak up is not about speaking louder, it is about feeling entitled to voice a wish. We always hesitate when we wish for something. In my theatre, I like to show the hesitation and not to conceal it. A hesitation is not the same as a pause. It is an attempt to defeat the wish. But when you are ready to catch this wish and put it into language, then you can whisper but the audience will always hear you.
Fel yn y theatr, felly yn y byd llyfrau. Mae Levy am wrthod, neu o leiaf am addasu, osodiad Orwell. I awduron sy’n fenywod, dyw hi ddim yn gwestiwn o floeddio eich gorchestion i’r byd, ond yn fater o feddwl o flaen llaw, mynnu’ch hawl i fynegi barn, a siarad – ond heb siarad yn ‘uchel’. Byddai dynion hefyd – o leaf y rhai sy’n llunio eu hunangofiannau – yn elwa o feddwl am y cyngor hwn.
I wonder how you feel about autobiographical fiction? Which is how I describe my volume, The Dark Trilogy. It came into being because while I felt that there were stories in my past, I could not believe that anyone would pick up my autobiography! No celebrity, I! And I too quote Orwell’s definition in its Introduction!
Thank, Chris. Yes, I suspect quite a bit of ‘autofiction’ arises from a reluctance to throw in your lot with straight autobiographers. I’m reading a particularly successful example, Laura Cumming’s Thunderclap – a mix of memoir, biography (her dad), art history and wisdom.