Ar ôl Covid-19: beth?

April 3, 2020 0 Comments

Dyw’r firws ddim eto wedi cyrraedd ei anterth.  Ond eisoes mae llawer o sylwebwyr yn edrych ymlaen at y cyfnod ôl-Govid-19 ac yn gofyn y cwestiwn, a fydd pethau’n hollol newydd, yn ein bywyd cyhoeddus, ar ôl i’r afiechyd gilio, neu, a fydd popeth yn dychwelyd i’r patrymau a fu?  Mae’n gwestiwn da.

Y man cychwyn, wrth geisio cynnig atebion posibl i’r cwestiwn, yw rhestru beth sy wedi newid, yn hynod gyflym, unwaith fod llywodraeth y DU wedi dihuno, yn hwyr iawn, i beryglon y firws.

Y newid mwyaf, wrth gwrs, yw rôl newydd y wladwriaeth yn diogelu bywydau ei dinasyddion.  Yn hanesyddol, rôl hollol draddodiadol, sylfaenol fu hon.  Ond mae’n un sy wedi mynd ar goll yn llwyr yn ystod y degawdau diweddar, wrth i’r llywodraeth olchi ei dwylo o’i chyfrifoldeb o sicrhau na fydd pobl yn marw neu ddioddef.  Dyw hi ddim yn dasg amhosibl, mae’n amlwg nawr, i fyddino holl adnoddau’r wladwriaeth, o fewn ychydig ddyddiau, er mwyn gwarchod pobl o bob oedran a phob dosbarth rhag afiechyd marwol.

Un o brif arfau’r llywodraeth yw’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.  Yn 2005 a 2008 cyhoeddwyd dau lyfr gan wleidyddion Torïaidd, Direct democracy: an agenda for a new model party a The plan: twelve months to renew Britain, a argymhellodd diddymu’r GIG fel endyd sosialaidd, a’i ddisodli gan system o yswiriant personol.  Heddiw, mae’r awduron, gan gynnwys Michael Gove, yn clodfori’r gwasanaeth iechyd bob dydd ar y teledu, ac yn dibynnu arno i oroesi’r argyfwng.  Er gwaetha blynyddoedd o danwario, y GIG yw ein gobaith gorau – a does dim dewis i Gove a’i ffrindiau ond cydnabod y ffaith.

Dyw ‘chwyldroadol’ ddim yn ansoddair eithafol ar gyfer newid cyfeiriad y llywodraeth yn ei pholisïau economaidd, yn sgil y mesurau iechyd i orfodi ‘ynysu corfforol’.  Dros nos trawsnewidiwyd Rishi Sunak, Canghellor y Trysorlys, o fod yn rheolwr hedge fund calongaled a ideolegydd asgell dde i fod yn gynlluniwr sosialaidd (neu, yn fwy cywir, gomiwnyddol) ar raddfa fawr.  Taliadau uniongyrchol i gadw pobl mewn gwaith a chadw cwmnïau bach rhag boddi, ail-wladoli’r rheilffyrdd (i bob pwrpas), trin y system budd-daliadau fel adnodd angenrheidiol yn hytrach na ffordd o gosbi lloffwyr, cartrefi pobl ddigartref – amhosibl credu y gallai’r un ohonyn nhw fod wedi digwydd bythefnos yn ôl.  ‘Nid dyna’r amser ar gyfer ideoleg ac uniongrededd’, meddai Sunak ar 17 Mawrth.

Rhywbeth arall sy wedi newid yw’r berthynas rhwng y llywodraeth a’r bobl.  Mae’r ‘Gymdeithas Fawr’ – y rhwydwaith o gyd-gymorth cymunedol yr oedd David Cameron yn ei wthio, fel ffordd o guddio toriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus – wedi dychwelyd fel modd nerthol o gynnal pobl yn iach ac yn ddiogel yn lleol.  Mae cydweithio gwirfodol wedi disodli’r farchnad, am y tro. Hefyd, ‘llofnodwyd’ rhyw fath o gontract cymdeithasol newydd.  Rydyn ni, y bobl, wedi derbyn y cyfyngiadau llym ar ein bywydau pob dydd, er lles iechyd pawb, ac mae’r llywodraeth yn dibynnu’n helaeth ar ein cydweithio.  Yn ein tro dyn ni’n edrych tuag at y llywodraeth i wneud pob beth bosibl i drechu’r firws.  (Er bod yr hen duedd Dorïaidd i beidio â dweud y gwir a pheidio â chydnabod eu camgymeriadau eisoes yn peryglu’r contract.)

Beth felly fydd yn digwydd ar ôl i’r firws fynd?  Yn fras, mae dwy ysgol o feddwl. 

Barn rhai yw y bydd popeth wedi newid ‘am byth’.  Bydd hi’n amhosib inni fynd nôl i’r hen drefn economaidd a chymdeithasol.  Mae’r hen fyd – byd sy’n mynd nôl i 1979 yn y DU – wedi ffrwydro, a’i seiliau wedi cwympo i’r llawr: cymryd y bydd y ‘farchnad rydd’ yn diwallu pob angen; dilorni a gwanhau’r sector cyhoeddus a’i sefydliadau; sicrhau bod gan weithwyr cyn lleied o gyflog, hawliau a diogelwch ag sy’n bosib; annog anghyfartaledd; cadw trethi’n isel a gadael i bobl gyfoethog eu hosgoi; a llawer mwy.  Ar ôl sylwi, yn ystod y cyfnod o argyfwng, bod dim byd anochel neu ‘naturiol’ am y drefn hon, fydd pobl ddim yn fodlon mynd yn ôl iddi.  Byddan nhw’n mynnu – a brwydro – am systemau economaidd hollol wahanol, sy’n manteisio pobl gyffredin yn hytrach na nifer fach iawn o bobl a chwmnïau gor-gyfoethog.  Medd Rebecca Solnit, yr awdur a radical o America, mewn cyfweliad diweddar

You know, this sense that suddenly everything can be profoundly different because something terrible has happened does remind us that everything can be profoundly different, maybe even not just because something terrible has happened. The powerful are often scrambling to restore a status quo that worked very well for them. The less powerful are often saying, ‘Wow, everything has changed. We’re not ready to change it all back.’

Ond mae safbwynt arall, llai gobeithiol.  Does dim amheuaeth, medd y pesimistiaid, na fydd y rhai sy’n rheoli’r wladwriaeth, a’u cefnogwyr yn y byd busnes, a’u pypedau fel y Daily Mail, yn ildio yn hawdd y manteision enfawr maen nhw wedi eu hennill ers y 1980au.  Yn syth ar ôl y creisis byddan nhw’n mynd ati i ddiddymu’r mesurau ‘sosialaidd’ dros dro, ac adfer yr hen drefn.  Er enghraifft bydd angen cyflwyno cyfnod newydd o gyni (‘Awsteriti Rhan 2’) er mwyn talu am yr holl ‘orwario’ yn ystod yr argyfwng – yr union ‘naratif’ â’r celwydd oedd mor llwyddiannus yn sgil cwymp y bancwyr yn 2008.

P’un o’r ddwy farn yma fydd yn gywir?  Go brin, mae hanes yn awgrymu, fod argyfwng mawr yn arwain at chwyldro blaengar – ac weithiau mae’r canlyniadau’n drychinebus.  Mae’r optimistiaid yn cyfeirio at y blynyddoedd yn syth ar ôl yr Ail Ryfel Byd yn 1945, a llywodraeth Clement Attlee.  Ond eithriad oedd y cyfnod byr hwnnw, a’r amgylchiadau’n arbennig iawn.

Ond eto, yn wahanol i’r hyn ddigwyddodd ar ôl y cwymp yn 2008, pan gariodd ‘byd y bancwyr’ ymlaen heb rwystr, mae’n anodd credu y bydd popeth yn disgyn yn syth yn ôl i’w lle, yn union fel yr oedd, ar ôl i’r firws golli ei afael.  Rhaid bod rhyw obaith y bydd ‘yr hen drefn’ yn cael ei siglo, os nad yw’n syrthio.

Er mwyn i hyn ddigwydd, bydd rhaid bod ddau beth ddod i’w gilydd.

Yn gyntaf, bydd angen i’r gwrthbleidiau, a chyrff tebyg ar y chwith ac yn y canol, ail-grynhoi ac ymladd yn ffyrnig yn erbyn y llywodraeth, ac o blaid gweledigaeth newydd, obeithiol fydd yn cyrraedd y trwch mawr o’r boblogaeth a’u tanio nhw.  Fydd hyn ddim yn amhosibl.  Er bod gan Boris Johnson fwyafrif mawr yn Nhŷ’r Cyffredin, yn ôl pob tebyg bydd e wedi colli llawer o’i apêl gyhoeddus erbyn diwedd yr argyfwng, o farnu wrth ei berfformiad hyd yma.  Ac er bod aelodau o’r Cabinet wedi gwisgo lan, am y tro, fel sosialwyr, yn y bôn eithafwyr asgell dde ydyn nhw, ac ar ôl y firws byddan nhw’n awyddus i wthio moddion cryf fydd yn wenwyn i lawer iawn o bobl.

Yn ail – llawer yn anos – bydd rhaid adeiladu mudiadau cymdeithasol eang iawn – tu hwnt i’r gyfundrefn wleidyddol arferol – i greu a lledaenu nexus newydd o syniadau, amcanion ac iaith er mwyn rhoi hwb i’r weledigaeth newydd.  Gweledigaeth yn seiliedig ar egwyddorion fel trethi teg (ac uwch), ailgodi gwasanaethau cyhoeddus, y GIG a llywodraeth leol, diwygio’r wladwriaeth les, a thaclo anghyfartaledd (o ran cyflogau a chyfoeth, a rhwng  rhannau o’r DU).

Mae’n hanfodol bwysig bod y syniadau hyn yn ennill y dydd yn y frwydr i ddod, am un rheswm arbennig.  Fe fydd Covid-19, er ei fod yn llyncu holl sylw pawb ar hyn o bryd, yn ymddangos yn argyfwng bach o gymharu â’r sialens fwy sy’n wynebu pob gwlad: y bygythiad i fywyd ar ein planed.  Gellir dadlau bod cyfalafiaeth ac achub y blaned yn ddau beth sy’n sylfaenol anghydnaws.  Ond mae’n siŵr bod cyfalafiaeth o’r math eithafol sy’n tra-arglwyddiaethu nawr, a’i dibyniaeth ar brynwriaeth ddi-ben-draw, yn debyg o ddinistrio’r byd a’r rhan fwyaf o’i rywogaethau.  Dim ond trwy gefnu ar y system ddistrywiol hon a chofleidio egwyddorion newydd y gallwn ni ddechrau gobeithio am fyd gwell.

Beth am Gymru?  Mae argyfwng y firws wedi bod yn boenus iawn i’r rhai ohonon ni sydd am weld gwlad hyderus, flaengar, wahanol yn tyfu.  Yn ddiwedddar gwelson ni’r Wladwriaeth Brydeinig yn dod nôl yn ei mawredd, fel pe na bai datganoli erioed wedi digwydd.  Fel dangosodd affaire Roche a’r cyfarfod profi am Covid-19, does gan Lywodraeth Cymru fawr o rym os yw San Steffan yn penderfynu’n wahanol iddi.  Ddydd ar ôl ddydd ar ein sgrins teledu gwelson ni weinidogion a swyddogion o Loegr yn siarad fel yn yr hen, hen ddyddiau (‘for Wales see England’), ac mae’r BBC (yn ganolog) wedi gwneud dim i gywiro’r argraff bod Cymru a’i llywodraeth o fawr bwys.  Bydd hi’n cymryd ymdrech fawr, ar ôl y firws, i ail-ddatgan hawl Cymru i gymryd penderfyniadau drosti hi ei hun.

Leave a Reply